
2020 Rhif 69 (Cy. 10)
Iechyd Planhigion, Cymru
Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2020
Gwnaed 28 Ionawr 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 29 Ionawr 2020
Yn dod i rym 24 Chwefror 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn, gyda chydsyniad y Trysorlys, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973, sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 24 Chwefror 2020.
Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018
2 

(1) Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 6 mewnosoder—“
Tatws sy’n tarddu o Libanus: ffi
6A. 

(1) Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy’n tarddu o Libanus er mwyn canfod, at ddibenion Erthygl 4 o’r Penderfyniad, pa un a yw’r tatws hynny wedi eu heintio ag is-rywogaethau Clavibacter michiganensis (Spieckermann and Kotthoff) Davis et al., rhaid i’r mewnforiwr dalu ffi o £70.83 mewn cysylltiad â phob lot sy’n cael ei samplu.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “y Penderfyniad” yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1614 sy’n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i ddarparu ar gyfer rhanddirymiadau rhag darpariaethau penodol Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC mewn cysylltiad â thatws, ac eithrio tatws a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o ranbarthau Akkar a Bekaa, Libanus.”
(3) Yn lle Atodlen 2 rhodder—“
ATODLEN 2
Ffioedd arolygu mewnforio: cyfraddau gostyngol
Rheoliad 3(2) a (3)


Genws Gwlad Tarddiad Ffi (£)
Blodau wedi eu torri
Aster Zimbabwe 32.06
Dianthus Colombia 1.28
 Ecuador 6.41
 Kenya 2.14
 Twrci 6.41
Rosa Colombia 1.28
 Ecuador 0.43
 Ethiopia 2.14
 Kenya 4.28
 Tanzania 21.38
 Zambia 4.28
Canghennau gyda deiliant
Phoenix Costa Rica 17.00
Ffrwythau
Actinidia Unrhyw drydedd wlad 2.66
Carica papaya Unrhyw drydedd wlad 2.66
Citrus Yr Aifft 39.83
 Mecsico 26.55
 Moroco 1.59
 Periw 5.31
 Twrci 1.59
 UDA 13.28
Cydonia Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop 2.66
Fragaria Unrhyw drydedd wlad 2.66
Malus Yr Ariannin 18.59
 Brasil 26.55
 Chile 2.66
 Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop 2.66
 Seland Newydd 5.31
 De Affrica 2.66
Mangifera Brasil 26.55
Passiflora Colombia 3.72
 Kenya 13.28
 De Affrica 26.55
 Fiet-nam 13.28
 Zimbabwe 39.83
Persea americana Unrhyw drydedd wlad 2.66
Prunus Yr Ariannin 39.83
 Chile 5.31
 Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop 2.66
 Moroco 26.55
 Twrci 18.59
Prunus ac eithrio prunus persica De Affrica 5.31
Pyrus Yr Ariannin 7.97
 Chile 7.97
 Tsieina 26.55
 Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop 2.66
 De Affrica 5.31
Ribes Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop 2.66
Rubus Unrhyw drydedd wlad 2.66
Vaccinium Yr Ariannin 13.28
 Chile 5.31
 Periw 5.31
 Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop 2.66
Vitis Unrhyw drydedd wlad 2.66
Llysiau
Solanum lycopersicon Yr Ynysoedd Dedwydd 2.66
 Moroco 2.66
Solanum melongena Twrci 7.97
”
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
28 Ionawr 2020