Rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, a osodwyd gerbron Senedd Cymru o dan adran 45R o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p. 22), i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru o fewn wyth niwrnod ar hugain gan ddechrau â’r diwrnod y gwneir yr offeryn, yn ddarostyngedig i’w estyn dros gyfnodau o ddiddymu neu doriad am fwy na phedwar diwrnod.
2020 Rhif 686 (Cy. 153)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020
Gwnaed am 12.30 p.m. ar 3 Gorffennaf 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 3.30 p.m ar 3 Gorffennaf 2020
Yn dod i rym 6 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 a deuant i rym ar 6 Gorffennaf 2020.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1, ar ôl paragraff (5) mewnosoder—“
(6) Os yw dwy aelwyd yn cytuno i gael eu trin fel un aelwyd estynedig at ddibenion y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn (ac eithrio ym mharagraffau (7) ac (8)) at “aelwyd” i’w ddehongli fel petai’n cynnwys y ddwy aelwyd.
(7) Er mwyn cytuno i gael eu trin fel un aelwyd estynedig rhaid i bob oedolyn ar y ddwy aelwyd gytuno.
(8) Ond—
(a) dim ond gydag un aelwyd arall y caiff aelwyd gytuno i gael ei thrin fel un aelwyd estynedig, a
(b) os yw’r ddwy aelwyd yn peidio â chytuno i gael eu trin fel un aelwyd estynedig, ni chaiff y naill aelwyd na’r llall gytuno i gael ei thrin fel un aelwyd o dan baragraff (6) gydag unrhyw aelwyd arall.”
(3) Yn lle rheoliad 8 rhodder—“
8. 

(1) Yn ystod cyfnod yr argyfwng, ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol—
(a) ymgynnull yn yr awyr agored gydag unrhyw berson arall oni bai am—
(i) aelodau o’i aelwyd neu aelodau o ddim mwy nag un aelwyd arall,
(ii) gofalwr iddo, neu
(iii) person y mae’n darparu gofal iddo;
(b) ymgynnull mewn mangre o dan do gydag unrhyw berson arall oni bai am—
(i) aelodau o’i aelwyd,
(ii) gofalwr iddo, neu
(iii) person y mae’n darparu gofal iddo.
(2) Mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen i wneud y canlynol—
(a) cael cynhorthwy meddygol, gan gynnwys cael gafael ar unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 42 o Atodlen 1 neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(b) darparu neu gael gofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(c) darparu neu gael cynhorthwy brys;
(d) rhoi gwaed;
(e) gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(f) pan fo’r person yn athletwr elît, hyfforddi neu gystadlu;
(g) mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil—
(i) fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,
(ii) os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil, neu
(iii) fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil.
(h) mynd i angladd—
(i) fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii) os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii) fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
(i) cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(j) cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol neu gael y gwasanaethau hynny, gan gynnwys —
(i) gofal plant neu wasanaethau addysgol;
(ii) gwasanaethau cymdeithasol;
(iii) gwasanaethau a ddarperir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau;
(iv) gwasanaethau a ddarperir i ddioddefwyr (megis dioddefwyr trosedd neu drais domestig);
(k) mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(l) symud cartref;
(m) paratoi eiddo preswyl i bersonau symud i mewn;
(n) ymgymryd â’r gweithgareddau a ganlyn mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl nad yw wedi ei feddiannu—
(i) ymweld ag asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr neu gartrefi arddangos;
(ii) gweld eiddo o’r fath;
(o) cymryd rhan mewn gweithgareddau a drefnir gan atyniadau awyr agored;
(p) osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed.
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sy’n ddigartref.
(4) At ddibenion paragraff (2)(q), nid yw eiddo wedi ei feddiannu os nad oes unrhyw berson yn meddiannu’r eiddo fel preswylfa.”
(4) Hepgorer rheoliad 8B.
(5) Yn rheoliad 10—
(a) hepgorer paragraffau (2), (3) a (4);
(b) ym mharagraff (5), yn lle “mae gan U gyfrifoldeb am blentyn os oes gan U” rhodder “mae gan unigolyn gyfrifoldeb am blentyn os oes gan yr unigolyn”;
(c) hepgorer paragraff (6);
(d) ym mharagraff (7)—
(i) yn y testun Saesneg, hepgorer “together”;
(ii) yn lle “8B” rhodder “8(1)”;
(e) ym mharagraff (8A), yn lle “8B” rhodder “8(1)”;
(f) ym mharagraff (10), ar ôl “rheoliad 11” mewnosoder “(gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth o ran a yw dwy aelwyd wedi ymrwymo i gytundeb yn unol â rheoliad 1(6))”.
(6) Yn rheoliad 12(1)(a), hepgorer “8B”.
(7) Yn Atodlen 1—
(a) yn Rhan 2 mewnosoder—“
24A. 
Atyniadau o dan do i ymwelwyr.”
(b) yn Rhan 4 mewnosoder—“
55. 
Atyniadau awyr agored i ymwelwyr.”
Arbedion ar gyfer troseddau a chosbau mewn perthynas â gweithredoedd blaenorol
3 
Mae rheoliadau 12 a 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw drosedd a gyflawnir, neu y credir yn rhesymol ei bod wedi ei chyflawni, cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym fel pe na bai’r diwygiadau a nodir yn rheoliad 2 wedi eu gwneud.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 12.30 p.m. ar 3 Gorffennaf 2020