
2020 Rhif 653 (Cy. 150)
Llywodraeth Leol, Cymru
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) (Diwygio) 2020
Gwnaed 26 Mehefin 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 30 Mehefin 2020
Yn dod i rym 21 Gorffennaf 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 78 o Ddeddf y Coronafeirws 2020.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) (Diwygio) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 21 Gorffennaf 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau mis Ebrill 2020” yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020.
Datgymhwyso rheoliad 9 o Reoliadau mis Ebrill 2020 mewn perthynas â chyfarfodydd penodol
2 
Yn Rheoliadau mis Ebrill 2020, yn rheoliad 9, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag—
(a) y gofyniad—
(i) o dan adran 115 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 i ystyried mewn cyfarfod adroddiad o dan adran 114 o’r Ddeddf honno;
(ii) o dan adran 115B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 i ystyried mewn cyfarfod adroddiad o dan adran 114A o’r Ddeddf honno;
(iii) o dan adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i ystyried mewn cyfarfod adroddiad o dan yr adran honno gan bennaeth gwasanaeth taledig;
(iv) o dan adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i ystyried mewn cyfarfod adroddiad o dan yr adran honno gan swyddog monitro neu ddirprwy i swyddog monitro;
(v) o dan adran 5A o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i ystyried mewn cyfarfod adroddiad o dan yr adran honno gan swyddog monitro neu ddirprwy i swyddog monitro;
(vi) o dan adran 25 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 i ystyried mewn cyfarfod adroddiad o dan adran 22 o’r Ddeddf honno, neu argymhelliad o fewn adran 25(2) o’r Ddeddf honno;
(b) unrhyw ofyniad i gynnal cyfarfod cyn gynted ag y bo’n ymarferol (sut bynnag y mynegir y gofyniad hwnnw).”
Cofnodion cyfarfodydd cynghorau cymuned
3 
Yn Rheoliadau mis Ebrill 2020, ar ôl rheoliad 23 mewnosoder—“
24. 
Mae adran 228 o Ddeddf 1972 (archwilio dogfennau) i’w darllen mewn perthynas ag unrhyw gyfarfod awdurdod lleol y mae’r adran honno’n gymwys iddo (yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad), a gynhelir cyn diwedd 30 Ebrill 2021, fel pe bai—
(a) y canlynol wedi ei fewnosod o flaen is-adran (1)—“
(A1) A copy of the minutes of proceedings of a community council must, so far as reasonably practicable, be supplied on request to a local government elector for the area of the council; and a reasonable fee may be charged for providing a copy of the minutes.”;
(b) yn is-adran (1), “or community” wedi ei hepgor;
(c) yn is-adran (6), “any of subsections (1) to (5) of” wedi ei fewnosod o flaen “this section”.”
Hysbysu am gyfarfodydd penodol o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004
4 
Yn Rheoliadau mis Ebrill 2020, ar ôl rheoliad 24 (fel y’i mewnosodir gan reoliad 3 o’r Rheoliadau hyn) mewnosoder—“
25. 
Mae adran 26 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (cyhoeddusrwydd i gyfarfodydd penodol) i’w darllen, mewn perthynas ag unrhyw gyfarfod awdurdod lleol a gynhelir, cyn diwedd 30 Ebrill 2021, yn unol ag adran 25(4) o’r Ddeddf honno, fel pe bai, yn is-adran (3)(a), “of the meeting and, if the meeting is to be open to the public, how to access the meeting” wedi ei roi yn lle “and place of the meeting”.”
Addasiadau i ddeddfiadau amrywiol sy’n gysylltiedig â Rhan 4 o Reoliadau mis Ebrill 2020
5 

(1) Yn Rheoliadau mis Ebrill 2020—
(a) yn rheoliad 19, yn lle “rheoliad 22” rhodder “rheoliadau 22 a 26, a pharagraffau 1 a 2(c) o’r Atodlen,”;
(b) ar ôl rheoliad 25 (fel y’i mewnosodir gan reoliad 4 o’r Rheoliadau hyn) mewnosoder—“
26. 
Mae’r Atodlen yn cynnwys addasiadau i ddeddfiadau amrywiol, sy’n gysylltiedig â’r Rhan hon.”
(2) Ar ddiwedd Rheoliadau mis Ebrill 2020 mewnosoder—“
YR ATODLEN
Addasiadau pellach sy’n gysylltiedig â Rhan 4
Rheoliad 26
1. 
Yn Neddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, mae adran 41 i’w darllen mewn perthynas ag awdurdod lleol y mae’r adran honno’n gymwys iddo (yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad) fel pe bai, yn is-adran (1)(b)—
(a) “signed or authenticated in accordance” wedi ei roi yn lle “signed in accordance”;
(b) “or authenticated” wedi ei fewnosod ar ôl “when the minutes were signed”.
2. 
Mae Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 i’w darllen mewn perthynas ag un o gyfarfodydd pwyllgor safonau (o fewn ystyr y Rheoliadau hynny), a gynhelir cyn diwedd 30 Ebrill 2021, fel pe bai—
(a) yn rheoliad 26—
(i) ym mharagraff (1), is-baragraff (ch) wedi ei hepgor;
(ii) ym mharagraff (2A), yn is-baragraff (a), “a 100C” wedi ei roi yn lle “i 100D”;
(iii) paragraff (4) wedi ei hepgor;
(b) yn rheoliad 27, y canlynol wedi ei roi yn lle paragraffau (1) i (3)—“
(1A) Pan fo—
(a) yn ofynnol i awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad neu ddogfen arall sy’n gysylltiedig ag un o gyfarfodydd ei bwyllgor safonau ar ei wefan yn rhinwedd Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020, a
(b) gwefan gan un neu ragor o’r cynghorau cymuned a leolir yn ardal yr awdurdod lleol,
caiff yr awdurdod lleol, os gwêl yn dda, ddarparu bod yr hysbysiad yn cael ei gyhoeddi neu’r ddogfen arall yn cael ei chyhoeddi ar wefannau’r cynghorau cymuned hynny (yn ogystal ag ar ei wefan ei hun).”;
(c) yn rheoliad 28, y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (1)—“
(1A) Ond caniateir i gofnodion trafodion pwyllgor safonau sy’n digwydd ar ôl 21 Gorffennaf 2020 (sef y dyddiad y daeth Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) (Diwygio) 2020 i rym) a chyn 1 Mai 2021 gael eu llunio mewn dogfen yn lle hynny, a rhaid i’r ddogfen honno gael ei dilysu gan gadeirydd y pwyllgor.”
3. 
Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 i’w darllen mewn perthynas ag unrhyw gyfarfod awdurdod lleol a gynhelir, cyn diwedd 30 Ebrill 2021, yn unol ag adran 24 neu (yn ôl y digwydd) 25 o’r Ddeddf honno fel pe bai—
(a) yn adran 24—
(i) yn is-adran (5), ym mharagraff (a), “published under that provision” wedi ei roi yn lle “supplied under that section (supply of agenda etc. to newspapers)”;
(ii) yn is-adran (5), ym mharagraff (b)(i), “published” wedi ei roi yn lle “open to inspection”;
(iii) yn is-adran (5), is-baragraff (ii) o baragraff (b), a’r gair “or” sy’n dod o’i flaen, wedi eu hepgor;
(iv) yn is-adran (7), “100C(2)(d) and (6)(d) of that Act” wedi ei roi yn lle “100C(1)(d) of that Act (public access to copies of reports for 6 years after meeting)”;
(b) yn adran 26—
(i) y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (6)—“
(6) But if section 100C of the Local Government Act 1972 applies in relation to the meeting, the approved summary must indicate the documents in relation to the meeting which have been published electronically under that section.”;
(ii) y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (6)—“
(6A) Subsection (6B) applies in relation to a meeting which is not open to the public other than by virtue of—
(a) section 1(2) of the Public Bodies (Admission to Meetings) Act 1960, or
(b) section 100A(2) or (4) of the Local Government Act 1972.
(6B) The reference in subsection (5) to a decision made at a meeting while the public were excluded includes a reference to a decision made while, in the proper officer’s opinion, it is likely the meeting would not have been open to the public by virtue of—
(a) section 1(2) of the Public Bodies (Admission to Meetings) Act 1960, had section 1(1) of that Act applied;
(b) section 100A(2) or (4) of the Local Government Act 1972, had section 100A(1) of that Act applied.””
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
226 Mehefin 2020