
2020 Rhif 622 (Cy. 142)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Hysbysu am Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020
Gwnaed 19 Mehefin 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 23 Mehefin 2020
Yn dod i rym 16 Gorffennaf 2020
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 32A a 210 o Ddeddf Addysg 2002 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Hysbysu am Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 a deuant i rym ar 16 Gorffennaf 2020.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Hysbysu am Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) 2014
2 
Mae rheoliad 4 o Reoliadau Addysg (Hysbysu am Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) 2014 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) daw’r ddarpariaeth bresennol yn baragraff (1);
(b) ar ddechrau paragraff (1) mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (2),”;
(c) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(2) Ar gyfer y flwyddyn ysgol 2022-2023, rhaid i awdurdod lleol hysbysu Gweinidogion Cymru am yr holl ddyddiadau tymhorau y penderfynwyd arnynt ar gyfer yr ysgolion a gynhelir yn ei ardal ar gyfer y flwyddyn ysgol honno heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2020.”
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
19 Mehefin 2020