Rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, a osodwyd gerbron Senedd Cymru o dan adran 45R o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p. 22), i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru o fewn wyth niwrnod ar hugain gan ddechrau â’r diwrnod y gwneir yr offeryn, yn ddarostyngedig i’w estyn dros gyfnodau o ddiddymu neu doriad am fwy na phedwar diwrnod.
2020 Rhif 619 (Cy. 141)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020
Gwnaed 19 Mehefin 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 11.00 a.m. ar 22 Mehefin 2020
Yn dod i rym am 12.01 a.m. ar 22 Mehefin 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 a deuant i rym am 12.01 a.m. ar 22 Mehefin 2020.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1—
(a) ym mharagraff (3), ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—“
(ba) ystyr “athletwr elît” yw unigolyn sydd wedi ei ddynodi felly at ddibenion y Rheoliadau hyn gan Gyngor Chwaraeon Cymru;”
(b) ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(4) At ddibenion y diffiniad o “athletwr elît” ym mharagraff (3)—
(a) nid yw unigolyn wedi ei ddynodi gan Gyngor Chwaraeon Cymru onid yw’r unigolyn wedi ei enwebu am ddynodiad gan gorff camp perthnasol a bod y Cyngor wedi derbyn yr enwebiad, a
(b) ystyr “corff camp perthnasol” yw corff llywodraethu cenedlaethol camp a gaiff enwebu athletwyr i gynrychioli—
(i) Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn y Gemau Olympaidd neu’r Gemau Paralympaidd, neu
(ii) Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad.
(5) At ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a) mae person yn cymryd rhan cynulliad os yw’r person hwnnw yn ymgynnull ag un neu ragor o bersonau eraill yn yr un man er mwyn gwneud rhywbeth gyda’i gilydd;
(b) mae mangre o dan do os yw’n gaeedig neu’n sylweddol gaeedig o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 2 o Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007.”
(3) Yn rheoliad 4—
(a) ym mharagraff (1)(b), yn lle “6(1)” rhodder “6(2)”;
(b) ym mharagraff (5), ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—“
(ba) o fangre ar gyfer hyfforddi athletwyr elît, gan gynnwys canolfannau sglefrio, pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd o dan do, campfeydd, canolfannau hamdden o dan do a chyfleusterau chwaraeon eraill (boed o dan do neu yn yr awyr agored);”;
(4) Yn lle rheoliad 6 rhodder—“
Cyfyngiad cyffredinol ar siopau a busnesau a gwasanaethau penodol eraill
6. 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys—
(a) i berson (“P”) sy’n gyfrifol am gynnal busnes, neu ddarparu gwasanaeth, a restrir yn Rhan 4 o Atodlen 1, a
(b) mewn cysylltiad ag unrhyw fangre lle y cynhelir y busnes neu lle y darperir y gwasanaeth.
(2) Rhaid i P gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—
(a) y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),
(b) nad yw personau ond yn cael mynediad i’r fangre mewn niferoedd digon bach fel bod modd cynnal y pellter hwnnw, ac
(c) y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau sy’n aros i fynd i’r fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr).”.
(5) Yn rheoliad 6A(2), hepgorer is-baragraff (b) a’r “neu” o’i flaen.
(6) Yn rheoliad 7—
(a) ym mharagraff (2)—
(i) yn lle is-baragraff (aa) rhodder—“
(za) i weinyddu priodas neu ffurfio partneriaeth sifil,”;
(ii) ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—“
(aa) ar gyfer gweddïo gan—
(i) unigolyn,
(ii) aelodau o’r un aelwyd, neu
(iii) unigolyn a gofalwr yr unigolyn,
nad yw’n rhan o gydaddoli,”;
(iii) yn is-baragraff (b)(ii) hepgorer “a ganiateir gan is-baragraff (aa)”;
(iv) yn is-baragraff (c) hepgorer y geiriau ar ôl “wasanaethau cyhoeddus” hyd at y diwedd;
(b) ym mharagraff (5)(a) hepgorer y geiriau ar ôl “wasanaethau cyhoeddus” hyd at y diwedd.
(7) Yn rheoliad 7A(1), yn lle is-baragraff (b) rhodder—“
(b) rheoliad 6(2),”.
(8) Yn rheoliad 8—
(a) ym mharagraff (1)(b), ar gyfer “bod o dan do” mewnosoder “ymgynnull mewn mangre o dan do”;
(b) ym mharagraff (2)—
(i) yn lle paragraff (a) rhodder—“
(a) cael nwyddau neu wasanaethau oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir yn Rhan 4 o Atodlen 1;”;
(ii) ar ôl is-baragraff (g) mewnosoder—“
(ga) pan fo’r person yn athletwr elît, hyfforddi neu gystadlu;”;
(iii) yn is-baragraff (i) hepgorer y geiriau “, pan fo gan barti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil salwch angheuol ac na ddisgwylir iddo wella”;
(iv) ar ôl is-baragraff (l) mewnosoder—“
(la) pleidleisio mewn etholiad (gan gynnwys mewn etholiad a gynhelir y tu allan i Gymru), pan na fo’n rhesymol ymarferol pleidleisio drwy’r post, drwy ddirprwy neu drwy ddull tebyg arall;”;
(v) yn lle is-baragraff (q) rhodder—“
(q) symud cartref;
(qa) paratoi eiddo preswyl i bersonau symud i mewn;
(qb) ymgymryd â’r gweithgareddau a ganlyn mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl nad yw wedi ei feddiannu—
(i) ymweld ag asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr neu gartrefi arddangos;
(ii) gweld eiddo o’r fath;”;
(c) yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) At ddibenion paragraff (1)(a), nid yw’n esgus rhesymol i berson adael yr ardal sy’n lleol i’r man lle y mae’r person yn byw, nac aros i ffwrdd o’r ardal honno—
(a) i gael nwyddau neu wasanaethau oddi wrth fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraffau 50 i 54 o Atodlen 1;
(b) i wneud unrhyw beth arall pe bai’n rhesymol ymarferol i’r person wneud y peth hwnnw o fewn yr ardal.”;
(d) ar ôl paragraff (5), mewnosoder—“
(6) At ddibenion paragraff (2)(qb), caiff eiddo ei drin fel pe na bai wedi ei feddiannu os nad yw unrhyw berson yn meddiannu’r eiddo fel preswylfa.”.
(9) Yn rheoliad 8B—
(a) yn is-baragraff (c) ar ôl “angladd” mewnosoder “, priodas neu seremoni ffurfio partneriaeth sifil”;
(b) ar ôl is-baragraff (d)(i) mewnosoder—“
(ia) er mwyn i athletwyr elît hyfforddi neu gystadlu;”.
(10) Yn Atodlen 1—
(a) hepgorer paragraff 12;
(b) ym mharagraff 21, hepgorer “, cyrtiau chwaraeon”;
(c) hepgorer paragraffau 22 a 23;
(d) ar ôl paragraff 48 mewnosoder—“
49. 
Asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr a chartrefi arddangos.
50. 
Delwriaethau ceir.
51. 
Marchnadoedd awyr agored.
52. 
Siopau betio.
53. 
Canolfannau siopa ac arcedau siopa o dan do.
54. 
Unrhyw fusnes neu fangre arall sy’n cynnig nwyddau neu wasanaethau i’w gwerthu neu i’w llogi mewn siop.”.
Arbedion ar gyfer troseddau a chosbau mewn perthynas â gweithredoedd blaenorol
3 
Mae rheoliadau 12 a 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw drosedd a gyflawnir, neu y credir yn rhesymol ei bod wedi ei chyflawni, cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym fel pe na bai’r diwygiadau a nodir yn rheoliad 2 wedi eu gwneud.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
19 Mehefin 2020