
2020 Rhif 606 (Cy. 140)
Landlord A Thenant, Cymru
Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) 2020
Gwnaed 17 Mehefin 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 19 Mehefin 2020
Yn dod i rym 30 Mehefin 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 82(12) o Ddeddf y Coronafeirws 2020.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) 2020.
(2) Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mehefin 2020.
Estyn y cyfnod perthnasol sy’n darparu gwarchodaeth rhag fforffediad etc.
2 
At ddibenion adran 82 (tenantiaethau busnes yng Nghymru a Lloegr: gwarchodaeth rhag fforffediad etc.) o Ddeddf y Coronafeirws 2020, mae’r “relevant period” fel y’i diffinnir yn is-adran (12) o’r adran honno yn dod i ben, o ran Cymru, ar 30 Medi 2020.
Ken Skates
Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, un o Weinidogion Cymru
17 Mehefin 2020