
2020 Rhif 594 (Cy. 135)
Yr Amgylchedd, Cymru
Rheoliadau Gwastraff (Deddfiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2020
Gwnaed 15 Mehefin 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 17 Mehefin 2020
Yn dod i rym 9 Gorffennaf 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 57(6) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.
Enwi, cychwyn a dod i ben
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff (Deddfiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Gorffennaf 2020.
Deddfiadau a ragnodwyd at ddibenion adran 57(6) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990
2 

(1) Mae’r deddfiadau a ganlyn wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 57(6) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990—
(a) adrannau 33, 34 a 47 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990;
(b) adrannau 171G, 179, 187, 187A, 216 a 331 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
(c) adran 23 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990;
(d) rheoliad 65 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005;
(e) rheoliad 56 o Reoliadau Batris a Chronaduron Gwastraff 2009;
(f) rhannau 5, 8, a 9 o Reoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011; a
(g) rheoliad 38 o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.
(2) Ni chaiff person fod yn euog o drosedd o dan y deddfiadau hyn oherwydd unrhyw beth o angenrheidrwydd a wneir neu nas gwneir er mwyn cydymffurfio â chyfarwyddyd o dan adran 57 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.
Hannah Blythyn
Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, o dan awdurdod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
15 Mehefin 2020