
2020 Rhif 593 (Cy. 134)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
Gwnaed 12 Mehefin 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 15 Mehefin 2020
Yn dod i rym 9 Gorffennaf 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 77(1) a (2) a 90(3) o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008, a pharagraff 1 o Atodlen 6 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020.
(2) Deuant i rym ar 9 Gorffennaf 2020.
Diwygio Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010
2 

(1) Mae Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010 wedi eu diwygio yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn Atodlen 1, ym mharagraff 1(1A), yn lle “8 Gorffennaf 2020” rhodder “31 Rhagfyr 2020”.
Hannah Blythyn
Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol o dan awdurdod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
12 Mehefin 2020