
2020 Rhif 531 (Cy. 125)
Amaethyddiaeth, Cymru
Rheoliadau Taliadau i Ffermwyr (Rheolaethau a Gwiriadau) (Cymru) (Coronafeirws) 2020
Gwnaed 21 Mai 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 22 Mai 2020
Yn dod i rym 14 Mehefin 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan Erthygl 62(2)(a) a (b) o Reoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 ar ariannu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau i Ffermwyr (Rheolaethau a Gwiriadau) (Cymru) (Coronafeirws) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Mehefin 2020.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
 mae “blwyddyn hawlio 2020” i’w ddehongli yn unol ag adran 1(7) o Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020;
 ystyr “Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 809/2014” (“Commission Implementing Regulation (EU) No. 809/2014”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 809/2014 dyddiedig 17 Gorffennaf 2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y system weinyddu a rheoli integredig, mesurau datblygu gwledig a thrawsgydymffurfio, fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith ddomestig yn rhinwedd adran 1 o Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020.
Addasu Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif809/2014
2 
At ddibenion blwyddyn hawlio 2020, mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 809/2014 yn cael effaith fel pe bai—
(a) y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff cyntaf Erthygl 24(4)—“By way of derogation from the first subparagraph of this paragraph, the competent authority may, in relation to the checks to be carried out in relation to area-related aid schemes, use photo-interpretation of satellite or aerial ortho-images or other relevant evidence including evidence provided by the beneficiary at the request of the competent authority, including geotagged photos, which could permit definitive conclusions to be drawn to the satisfaction of the competent authority.”;
(b) y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl trydydd is-baragraff Erthygl 26(4)—“By way of derogation from the first three subparagraphs of this paragraph, the relevant authority may carry out the checks by the use of new technologies, or other relevant evidence, including geotagged photos, in addition to the possibility to use remote sensing in accordance with Article 40.”;
(c) yn Erthygl 30(d), “3%” wedi ei roi yn lle “5%”;
(d) yn Erthygl 31(1)(a), “3%” wedi ei roi yn lle “5%” yn y ddau le y mae’n digwydd;
(e) Erthygl 33a wedi ei hepgor;
(f) yn Erthygl 36(2), “1%” wedi ei roi yn lle “3%”;
(g) yn Erthygl 68(1), “0.5%” wedi ei roi yn lle “1%”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
21 Mai 2020