
2020 Rhif 529 (Cy. 124)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed 20 Mai 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 21 Mai 2020
Yn dod i rym 22 Mai 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd a cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad syndrom anadlol acíwt difrifol coronafeirws 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud y offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 a deuant i rym ar 22 Mai 2020.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3, ym mharagraff (1)(b), yn lle’r geiriau o “diwrnod” hyd at y diwedd rhodder “y cynharaf o’r canlynol—
(i) dirymu’r ddarpariaeth sy’n gosod y gofyniad neu’r cyfyngiad, neu
(ii) pan ddaw’r Rheoliadau hyn i ben o dan reoliad 15.”
(3) Yn rheoliad 13, ym mharagraff (8), yn lle “, swm y gosb benodedig yw £120 ac nid yw paragraff (7) yn gymwys” rhodder“
—
(a) nid yw paragraff (7) yn gymwys, a
(b) rhaid i’r swm a bennir fel y gosb benodedig fod—
(i) yn £120 yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir;
(ii) yn £240 yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir;
(iii) yn £480 achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir;
(iv) yn £960 yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir;
(v) yn £1920 yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig olynol.
”
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
20 Mai 2020