
2020 Rhif 507 (Cy. 120)
Adnoddau Dŵr, Cymru
Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) 2020
Gwnaed 12 Mai 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 14 Mai 2020
Yn dod i rym 15 Mai 2020

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud ag adnoddau dŵr.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) 2020 a deuant i rym ar 15 Mai 2020.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013
2 

(1) Mae Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 4 (hyd y tymor ymdrochi) rhodder—“
4. 
For the purposes of these Regulations, the bathing season in Wales—
(a) subject to paragraph (b), begins on 15th May and ends at the end of the day on 30th September in each year;
(b) for the year 2020, begins on 22nd June and ends at the end of the day on 30th September.”
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
12 Mai 2020