
2020 Rhif 497 (Cy. 118)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed am 2.00 p.m. ar 11 Mai 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 3.00 p.m. ar 11 Mai 2020
Yn dod i rym am 4.00 p.m. ar 11 Mai 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd a cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad syndrom anadlol acíwt difrifol coronafeirws 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud y offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 a deuant i rym am 4.00 p.m. ar 11 Mai 2020.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3—
(a) ym mharagraff (2), ar ôl “y Rheoliadau hyn” mewnosoder “, a pha un a yw’r cyfyngiadau a’r gofynion hynny yn gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt,”;
(b) hepgorer paragraffau (3), (4), (4A) a (5).
(3) Yn rheoliad 4, ym mharagraff (5)(c), yn lle “, oriel neu lyfrgell” rhodder “neu oriel”.
(4) Yn rheoliad 8, ym mharagraff (2)—
(a) ar ôl is-baragraff (aa) mewnosoder—“
(ab) i gasglu nwyddau sydd wedi eu prynu oddi wrth berson sy’n darparu gwasanaeth mewn ymateb i archebion neu ymholiadau yn rhinwedd yr eithriad i’r gofyniad yn rheoliad 6(2)(a) i beidio â chynnal busnes;”
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “ddim mwy nag unwaith y dydd (neu’n amlach os oes angen hyn oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd penodol)” rhodder “o fewn ardal sy’n lleol i’r man lle y mae’r person yn byw”;
(c) ar ôl is-baragraff (i)—“
(ia) i ddefnyddio gwasanaethau ailgylchu neu waredu gwastraff;
(ib) i ymweld â llyfrgell;”.
(5) Yn Atodlen 1—
(a) ym mharagraff 10, hepgorer “, llyfrgelloedd”;
(b) ar ôl paragraff 33 mewnosoder—“
33A. 
Canolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion.”;
(c) ar ôl paragraff 47 mewnosoder—“
48. 
Llyfrgelloedd.”
Diwygiad canlyniadol i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
3 
Hepgorer rheoliad 2 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020.
Arbediad ar gyfer troseddau a chosbau mewn perthynas â gweithredoedd blaenorol
4 
Mae rheoliadau 12 a 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw drosedd a gyflawnir, neu y credir yn rhesymol ei bod wedi ei chyflawni, cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym fel pe na bai’r diwygiadau a nodir yn rheoliad 2 wedi eu gwneud.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 2.00 p.m. ar 11 Mai 2020