
2020 Rhif 493 (Cy. 116)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) (Diwygio) 2020
Gwnaed 6 Mai 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 7 Mai 2020
Yn dod i rym 30 Mai 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 2(a) o Atodlen 10 iddi.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) (Diwygio) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mai 2020.
Diwygio Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010
2 
Mae Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Tymor penodiad aelodau cyfetholedig
3 
Yn rheoliad 5 (tymor penodiad aelodau cyfetholedig), hepgorer “a rhaid peidio â’u hailbenodi fel aelodau cyfetholedig wedi diwedd eu tymor”.
Aelodau sy’n gymwys i’w hailbenodi
4 

(1) Mae rheoliad 10 (aelodau sy’n gymwys i’w hailbenodi) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1), yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3) a (4), caiff aelod” rhodder “Caiff aelod”.
(3) Hepgorer paragraffau (2), (3) a (4).
Ethol cadeirydd ac is-gadeirydd
5 

(1) Mae rheoliad 15 (ethol cadeirydd ac is-gadeirydd) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Ar ddiwedd ei dymor, mae aelod a etholwyd yn gadeirydd neu’n is-gadeirydd yn gymwys i’w ailethol am gyfnod pellach o ddwy flynedd ar yr hwyaf, ond heb fod yn hwy mewn unrhyw achos na gweddill tymor yr aelod a etholwyd fel aelod o Gyngor.”
(3) Ym mharagraff (2), ar ôl “mharagraff (1)” mewnosoder “neu’r cyfnod o ddwy flynedd y cyfeirir ato ym mharagraff (1A)”.
(4) Ym mharagraff (4), ar ôl “penodi” mewnosoder “nac ailbenodi”.
(5) Ym mharagraff (5), ar ôl “penodi” mewnosoder “nac ailbenodi”.
Penodi pwyllgorau lleol
6 

(1) Mae rheoliad 17 (penodi pwyllgorau sydd i’w hadwaen fel pwyllgorau lleol) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Ar ddiwedd ei dymor, mae aelod a etholwyd yn gadeirydd neu’n is-gadeirydd yn gymwys i’w ailethol am gyfnod pellach o dair blynedd ar yr hwyaf, ond heb fod yn hwy mewn unrhyw achos na gweddill tymor yr aelod hwnnw fel aelod o’r Cyngor perthnasol.”
(3) Ym mharagraff (2), ar ôl “penodi” mewnosoder “nac ailbenodi”.
Cymhwyster aelodau o’r bwrdd i’w hailbenodi
7 

(1) Mae rheoliad 35 (cymhwyster Aelodau o’r Bwrdd i’w hailbenodi ar y Bwrdd CIC) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1)—
(a) yn lle “baragraffau (1)(a) a (b)” rhodder “baragraff (1)(a)”;
(b) yn lle “dair blynedd” rhodder “bum mlynedd”.
(3) Ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1ZA) Caiff aelod o’r Bwrdd a benodir o dan baragraff (1)(b) o reoliad 34 wasanaethu am gyfnod o dair blynedd fan hwyaf.”
(4) Ym mharagraff (2), yn lle “dair blynedd” rhodder “bum mlynedd”.
(5) Ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(2ZA) Wrth gyfrifo’r cyfnod o dair blynedd y cyfeirir ato ym mharagraff (1ZA) rhaid cyfuno pob cyfnod o wasanaeth fel aelod o’r Bwrdd, gan gynnwys pob cyfnod o wasanaeth cyn 1 Ebrill 2010 a phob cyfnod o wasanaeth o ganlyniad i unrhyw benodiad o dan baragraff (1)(a) i (dd) o reoliad 34.”
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
6 Mai 2020