
2020 Rhif 486 (Cy. 111)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020
Gwnaed 4 Mai 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 5 Mai 2020
Yn dod i rym 26 Mai 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 10(4) a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Mai 2020.
Diwygiadau i Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017
2 
Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 a 4.
3 
Hepgorer rheoliad 9A (amser ar gyfer cyflwyno’r datganiadau blynyddol cyntaf).
4 
Yn lle rheoliad 10 (terfyn amser ar gyfer cyflwyno datganiadau blynyddol) rhodder—“
Terfyn amser ar gyfer cyflwyno datganiadau blynyddol
"10. 

(1) Rhaid i ddatganiad blynyddol sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r blynyddoedd ariannol 2018-19, 2019-20 neu 2020-21 gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 26 Mai 2021.
(2) Rhaid i ddatganiad blynyddol sy’n ymwneud â blwyddyn ariannol ddilynol gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru o fewn 56 o ddiwrnodau i ddiwedd y flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi.”
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
4 Mai 2020