
2020 Rhif 470 (Cy. 108)
Amaethyddiaeth, Cymru
Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Rhanddirymiad Tyfu Amrywiaeth o Gnydau) (Cymru) 2020
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed 28 Ebrill 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 29 Ebrill 2020
Yn dod i rym 30 Ebrill 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan Erthyglau 69(1) a 70(4) o Reoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol, er mwyn datrys problemau sy’n deillio o lifogydd yng Nghymru, rhanddirymu’r darpariaethau yn y Rheoliad hwnnw ar gyfer blwyddyn hawlio 2020 mewn cysylltiad â’r gofynion o ran tyfu amrywiaeth o gnydau, a bod cyfiawnhad dros wneud hynny, ac mae rhychwant a chyfnod y rhanddirymiad hwnnw, ym marn Gweinidogion Cymru, yn hollol angenrheidiol.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Rhanddirymiad Tyfu Amrywiaeth o Gnydau) (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Ebrill 2020.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013” yw Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin ac sy’n diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 637/2008 a Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 (OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 608), fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith ddomestig yn rhinwedd adran 1 o Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020.
(5) Mae i’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013.
Rhanddirymu’r gofynion o ran tyfu amrywiaeth o gnydau
2 
At ddibenion Erthygl 43(1) (taliadau uniongyrchol: gofyniad i gydymffurfio ag arferion amaethyddol sy’n llesol i’r hinsawdd a’r amgylchedd) o Reoliad (EU) Rhif 1307/2013—
(a) nid yw’r darpariaethau a ganlyn yn Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 yn cael effaith mewn cysylltiad â hectarau cymwys yng Nghymru—
(i) Erthygl 43(2)(a) (tyfu amrywiaeth o gnydau fel un o’r arferion amaethyddol sy’n llesol i’r hinsawdd a’r amgylchedd);
(ii) Erthygl 44 (gofynion o ran tyfu amrywiaeth o gnydau);
(iii) Atodiad IX, Adran I, paragraff (1) (rhestr o arferion sy’n cyfateb i dyfu amrywiaeth o gnydau);
(b) mae is-baragraff cyntaf Erthygl 43(9) o Reoliad (EU) Rhif 1307/2013 yn cael effaith mewn perthynas â hectarau cymwys yng Nghymru fel pe bai’r cyfeiriad at 44 wedi ei hepgor.
3 

(1) Mae rheoliad 2 yn cael effaith hyd at ddiwedd blwyddyn hawlio 2020.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae “blwyddyn hawlio 2020” i’w ddehongli yn unol ag adran 1(7) o Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
28 Ebrill 2020