
2020 Rhif 399 (Cy. 88)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed 3 Ebrill 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 6 Ebrill 2020
Yn dod i rym am 12.01 a.m. ar 7 Ebrill 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i fygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynycher a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 ac mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, dod i rym a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym am 12.01 a.m. ar 7 Ebrill 2020.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020.
Busnesau llety gwyliau sy’n darparu gwasanaethau ar-lein etc.
2 
Yn rheoliad 5 o’r prif Reoliadau, yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) I’r graddau y mae rheoliad 4(4) yn gymwys i unrhyw fusnes arall a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1, mae’r rhwymedigaeth ar y person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes yn gymwys yn ddarostyngedig i’r angen i ddarparu llety i unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym ac—
(a) na allant ddychwelyd i’w prif breswylfa, neu
(b) sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa.
(3A) I’r graddau y mae rheoliad 4(4) yn gymwys i fusnes a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1, mae’r rhwymedigaeth ar y person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes yn gymwys yn ddarostyngedig i’r angen—
(a) i gynnal y busnes, neu i gadw unrhyw fangre a ddefnyddir yn y busnes ar agor, at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano;
(b) i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—
(i) drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar-lein,
(ii) dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu
(iii) drwy’r post.”
Cyfyngiad ar fannau gwaith eraill
3 
Ar ôl rheoliad 6 o’r prif Reoliadau mewnosoder—“
Cyfyngiad cyffredinol ar fannau gwaith
6A. 

(1) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am waith a gyflawnir mewn mangre lle mae person yn gweithio, pan yw gwaith o’r fath yn cael ei gyflawni yn ystod cyfnod yr argyfwng, gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr).
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fangre a ddefnyddir i gynnal busnes, neu ddarparu gwasanaeth, a restrir yn Atodlen 1.”
Cyfyngiadau ar fannau addoli, amlosgfeydd, mynwentydd a chanolfannau cymunedol
4 
Yn rheoliad 7 o’r prif Reoliadau—
(a) ym mharagraff (2), ar ôl “addoli”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “(ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr)”;
(b) ym mharagraff (4), ar ôl “amlosgfa”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “(ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr)”;
(c) ar ôl paragraff (4) mewnosoder—“
(4A) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am fynwent gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng pob person mewn claddedigaeth sy’n digwydd yn y fynwent yn ystod cyfnod yr argyfwng (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr).”;
(d) ym mharagraff (5)(b), ar ôl “fangre” mewnosoder “(ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr)”;
(e) ar ôl paragraff (5) mewnosoder—“
(6) At ddiben y rheoliad hwn—
(a) mae “claddu” yn cynnwys rhoi lludw person marw yn y ddaear;
(b) mae “mynwent” yn cynnwys claddfa ac unrhyw fan arall sydd sy’n cael ei ddefnyddio i gladdu’r meirw.”
(f) yn y pennawd, ar ôl “amlosgfeydd” mewnosoder “, mynwentydd”.
Canllawiau ar gynnal pellter o 2 fetr rhwng personau
5 
Ar ôl rheoliad 7 o’r prif Reoliadau mewnosoder—“
Canllawiau ar gynnal pellter o 2 fetr rhwng personau
7A. 

(1) Rhaid i berson sy’n ddarostyngedig i ofyniad neu gyfyngiad yn—
(a) rheoliad 4(1) fel y mae’n gymwys i ffreuturau yn y gweithle,
(b) rheoliad 6(1),
(c) rheoliad 6A(1), neu
(d) rheoliad 7(1), (3), (4A) neu (5),roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch y camau rhesymol sydd i’w cymryd i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau.
(2) O ran Gweinidogion Cymru—
(a) cânt ddiwygio canllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1), a
(b) rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau).
(3) Caiff canllawiau o dan y rheoliad hwn gynnwys (drwy gyfeirio neu drosi) ganllawiau, codau ymarfer neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan berson arall (er enghraifft, cymdeithas fasnach, corff sy’n cynrychioli aelodau o ddiwydiant neu undeb llafur).”
Mynd i angladdau
6 
Yn rheoliad 8(2)(g) o’r prif Reoliadau, yn lle paragraffau (i) i (iv) rhodder—“
(i) fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii) os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii) fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd.”
Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
7 

(1) Mae’r prif Reoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(3), ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—“
(da) mae “mangre” yn cynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ac unrhyw dir;”.
(3) Yn rheoliad 3(2), yn lle “15” rhodder “16”.
(4) Yn rheoliad 10—
(a) ym mharagraff (1)(a), ar ôl “6” mewnosoder “, 6A”;
(b) ym mharagraff (12), ar ôl “6,” mewnosoder “6A,”.
(5) Yn rheoliad 12(1)(a), ar ôl “6,” mewnosoder “ 6A,”.
(6) Yn rheoliad 13—
(a) ym mharagraff (2), yn lle “awdurdod lleol a bennir yn yr hysbysiad.” rhodder “—“
(a) awdurdod lleol, neu
(b) person a ddynodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn,fel y caiff yr hysbysiad ei bennu.”;
(b) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(2A) Caiff Gweinidogion Cymru eu dynodi hwy eu hunain o dan baragraff (2)(b).”;
(c) ym mharagraff (3), yn lle “Rhaid i’r awdurdod lleol a bennir yn yr hysbysiad” rhodder “Pan fo awdurdod lleol wedi ei bennu yn yr hysbysiad rhaid iddo”;
(d) ym mharagraff (8), ar ôl “£120” mewnosoder “ac nid yw paragraff (7) yn gymwys”;
(e) ym mharagraff (11)(a), yn lle “yr awdurdod lleol, a” rhodder “—“
(i) yr awdurdod lleol, neu
(ii) y person a ddynodir o dan baragraff (2)(b),a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig y mae’r achos yn ymwneud ag ef, a”.
(7) Yn Atodlen 1—
(a) ym mharagraff 29, yn lle “yn”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, rhodder “oddi ar”;
(b) yn lle paragraff 44, rhodder—“
44. 
Siopau cyflenwadau amaethyddol neu ddyframaethu.
44A. 
Marchnadoedd neu arwerthiannau da byw.”
(c) ym mhennawd yr Atodlen ar ôl “gyfyngiadau” mewnosoder “penodol”.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
3 Ebrill 2020