
2020 Rhif 37 (Cy. 4)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2020
Gwnaed 16th Ionawr 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 20th Ionawr 2020
Yn dod i rym 1st Medi 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 122(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, a pharagraff 6B(1)(a) o Atodlen 26 iddi, a thrwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 77(2) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000, a chan adrannau 28(1), 50(4), 55(4) ac 56(3) o Ddeddf Addysg 2005, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2020.
Diwygiadau i Reoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001
2 
Yn rheoliad 2(1)(b) o Reoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001—
(a) yn lle “cyfnod o saith mlynedd” rhodder “y cyfnod”, a
(b) yn lle “2023” rhodder “2024”.
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006
3 
Yn rheoliadau 6(1)(b) a 14(b) o Reoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006—
(a) yn lle “cyfnod o saith mlynedd” rhodder “y cyfnod”, a
(b) yn lle “2023” rhodder “2024”.
Diwygiadau i Reoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006
4 
Yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006—
(a) yn lle “cyfnod o saith mlynedd” rhodder “y cyfnod”, a
(b) yn lle “2023” rhodder “2024”.
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 2015
5 
Yn rheoliad 4(1)(b) o Reoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 2015—
(a) yn lle “cyfnod o saith mlynedd” rhodder “y cyfnod”, a
(b) yn lle “2023” rhodder “2024”.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
16th Ionawr 2020