
2020 Rhif 340 (Cy. 77)
Caffael Tir, CymruDigolledu, Cymru
Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2020
Gwnaed 23 Mawrth 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 25 Mawrth 2020
Yn dod i rym 27 Ebrill 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 30(5) o Ddeddf Digollediad Tir 1973 ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy o ran Cymru.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2020 a deuant i rym ar 27 Ebrill 2020.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Digollediad Tir 1973;
 mae i “taliad colli cartref” yr ystyr a roddir i “home loss payment” gan adran 29(1) o’r Ddeddf.
Diwygio symiau rhagnodedig y taliad colli cartref
2 
Pan fo dyddiad y dadleoli ar 27 Ebrill 2020 neu ar ôl hynny—
(a) £62,000 yw uchafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o’r Ddeddf,
(b) £6,200 yw isafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o’r Ddeddf, ac
(c) £6,200 yw swm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(2) o’r Ddeddf.
Dirymu ac arbed
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2018 wedi eu dirymu.
(2) Bydd y Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â dadleoli sy’n digwydd cyn 27 Ebrill 2020.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
23 Mawrth 2020