
2020 Rhif 319 (Cy. 72)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
Gwnaed 19 Mawrth 2020
Yn dod i rym 1 Ebrill 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 9 a 45(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.

Gosodwyd drafft oʼr Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 140(3)(a) oʼr Ddeddf honno ac feʼi cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020.
(2) Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2020 yn union ar ôl i Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020 ddod i rym.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005.
Diwygioʼr Prif Reoliadau
2 

(1) Mae’r Prif Reoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 30 (adroddiad darpar fabwysiadydd), ym mharagraff (2)(d), ar ôl “plentyn” mewnosoder “, ac wrth benderfynu ar addasrwydd cwpl i fabwysiadu plentyn rhaid iʼr asiantaeth roi sylw priodol iʼr angen am sadrwydd a sefydlogrwydd yn eu perthynas”.
(3) Yn Atodlen 4A (addasu Rhan 4), ym mharagraff 4(b), ym mharagraff (2)(ch) sydd wedi ei amnewid, ar ôl “plentyn” mewnosoder “, ac wrth benderfynu ar addasrwydd cwpl i fabwysiadu plentyn rhaid iʼr asiantaeth roi sylw priodol iʼr angen am sadrwydd a sefydlogrwydd yn eu perthynas”.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
19 Mawrth 2020