
2020 Rhif 295 (Cy. 67)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
Gwnaed 13 Mawrth 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 17 Mawrth 2020
Yn dod i rym 1 Hydref 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(e), 26(3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, ac, mewn perthynas â rheoliad 2(3), (5) ac (8), gan baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, a fewnosodir yn Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 gan rheoliad 2(3) a (5) o’r Rheoliadau hyn, gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliad yr UE hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
I’r graddau y mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o’r Ddeddf honno.

Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2021.
Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014
2 

(1) Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5 (bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu etc. sy’n cynnwys sylwedd neu gynnyrch alergenaidd etc.), ym mharagraff (2)—
(a) yn is-baragraff (a), ar ôl “ragbecynnu,” mewnosoder “neu”;
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “, neu” rhodder “.”;
(c) hepgorer is-baragraff (c).
(3) Ar ôl rheoliad 5, mewnosoder—“
Bwydydd sydd wedi eu rhagbecynnu i’w gwerthu’n uniongyrchol – dyletswydd i restru cynhwysion
5A. 

(1) Rhaid i weithredwr busnes bwyd sy’n cynnig gwerthu bwyd y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ddarparu’n uniongyrchol ar y pecyn neu ar label sydd ynghlwm wrth y pecyn y manylion sy’n ofynnol o dan y canlynol—
(a) Erthygl 9(1)(b) (rhestr cynhwysion), fel y’i darllenir gyda’r canlynol—
(i) Erthygl 13(1) i (3),
(ii) Erthygl 15,
(iii) Erthygl 16(2), i’r graddau y mae’n ymwneud â’r manylion sy’n ofynnol o dan Erthygl 9(1)(b),
(iv) Erthygl 17, fel y’i darllenir gyda Rhannau A ac C o Atodiad 6 ac, yn achos cynhwysyn sy’n defnyddio dynodiad briwgig fel enw, y pwyntiau canlynol o Ran B o Atodiad 6—(aa) pwynt 1, a(bb) pwynt 3, fel y’i darllenir gyda rheoliad 4 ac Atodlen 2,
(v) Erthygl 18, fel y’i darllenir gydag Atodiad 7 a pharagraff (1)(a)(iv) o’r rheoliad hwn,
(vi) Erthygl 19(1), a
(vii) Erthygl 20;
(b) Erthygl 9(1)(c) (labelu sylweddau neu gynhyrchion penodol sy’n peri alergeddau neu anoddefeddau) fel y’i darllenir gydag Erthygl 21(1) ac Atodiad 2.
(2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd—
(a) a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol neu i arlwywr mawr ac eithrio drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell, a
(b) sydd wedi ei ragbecynnu i’w werthu’n uniongyrchol.”
(4) Yn rheoliad 6 (bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu etc. – gofyniad cyffredinol i’w henwi), ym mharagraff (2)—
(a) yn is-baragraff (a), ar ôl “ragbecynnu,” mewnosoder “neu”;
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “, neu” rhodder “.”;
(c) hepgorer is-baragraff (c).
(5) Ar ôl rheoliad 6, mewnosoder—“
Bwydydd sydd wedi eu rhagbecynnu i’w gwerthu’n uniongyrchol – gofyniad cyffredinol i’w henwi
6A. 

(1) Rhaid i weithredwr busnes bwyd sy’n cynnig gwerthu bwyd y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ddarparu’r manylion sy’n ofynnol o dan Erthygl 9(1)(a) (enw’r bwyd), fel y’i darllenir gyda’r canlynol—
(a) Erthygl 17(1) i (4),
(b) Rhan A o Atodiad 6, ac
(c) yn achos bwyd a gynigir i’w werthu gan ddefnyddio dynodiad briwgig yn enw—
(i) Erthygl 17(5),
(ii) pwynt 1 o Ran B o Atodiad 6, a
(iii) pwynt 3 o Ran B o Atodiad 6, fel y’i darllenir gyda rheoliad 4 ac Atodlen 2.
(2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd—
(a) a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol neu i arlwywr mawr, a
(b) sydd wedi ei ragbecynnu i’w werthu’n uniongyrchol.
(3) Rhaid i’r manylion ym mharagraff (1) gael eu darparu’n uniongyrchol ar y pecyn neu ar label sydd ynghlwm wrth y pecyn, ac eithrio yn achos cynnig i werthu a wneir drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell.”
(6) Yn rheoliad 10(1) (trosedd)—
(a) yn is-baragraff (b), hepgorer “neu”;
(b) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—“
(ba) â rheoliad 5A(1)(b); neu”.
(7) Yn rheoliad 12 (cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf), ym mharagraff (1)(a)—
(a) ar ôl paragraff (ii), mewnosoder—“
(iia) rheoliad 5A(1);”;
(b) ar ôl paragraff (iii), mewnosoder—“
(iiia) rheoliad 6A(1) neu (3);”.
(8) Yn Atodlen 1 (darpariaethau y Rheoliadau hyn sy’n cynnwys cyfeiriadau newidiadwy at FIC neu Reoliad 828/2014 yn rhinwedd rheoliad 2(3)), mewnosoder y cofnodion a ganlyn yn y lleoedd priodol—“Rheoliad 5A(1)”;“Rheoliad 6A(1)”.
(9) Yn Atodlen 4 (cymhwyso ac addasu darpariaethau’r Ddeddf), yn Rhan 1, ym mharagraff 1, yn adran 10(1A)(d) wedi ei haddasu—
(a) ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—“
(ia) regulation 5A(1);”;
(b) ar ôl is-baragraff (ii) mewnosoder—“
(iia) regulation 6A(1) or (3);”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
13 Mawrth 2020