
2020 Rhif 292 (Cy. 66)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2020
Gwnaed 13 Mawrth 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 17 Mawrth 2020
Yn dod i rym 15 Ebrill 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 122(1) a 124 o Ddeddf Addysg 2002, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru yn unol ag adran 126 o’r Ddeddf honno wedi ymgynghori â’r personau hynny a’r cyrff hynny y cyfeirir atynt yn yr adran honno yr oedd yn ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn briodol.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2020 a daw i rym ar 15 Ebrill 2020.
Diwygio Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2019
2 

(1) Mae Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2019 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 1(3), yn y diffiniad o “y Ddogfen”, yn lle “dyddiedig Medi 2019.” rhodder “dyddiedig Medi 2019 ac a gyhoeddir ar wefan llyw.cymru.”
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
13 Mawrth 2020