
2020 Rhif 286 (Cy. 65)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2020
Made 11 Mawrth 2020
Coming into force 1 Ebrill 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 80(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 187(2)(n) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2016” yw Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2016.
Diwygio Rheoliadau 2016
2 

(1) Mae Rheoliadau 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y lle priodol mewnosoder—“
 mae i “cyflogaeth” yr un ystyr ag a roddir i “employment” yn adran 230(5) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 ac mae’n cynnwys unigolion sydd wedi eu cyflogi pa un ai fel cyflogai neu fel gweithiwr;”;“
 mae i “gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd” (“residential family centre service”) yr un ystyr ag a roddir yn adran 2(1)(c) o’r Ddeddf a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi, yn ddarostyngedig i reoliad 4 o Reoliadau 2017;”;“
 mae i “gwasanaeth cartref gofal” (“care home service”) yr un ystyr ag a roddir yn adran 2(1)(a) o’r Ddeddf a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, yn ddarostyngedig i reoliad 2 o Reoliadau 2017;”.
(3) Yn rheoliad 3 (pennu gweithwyr gofal cymdeithasol)—
(a) ym mharagraff (2)—
(i) yn lle is-baragraff (b) rhodder—“
(b) sydd, yn ystod eu cyflogaeth gyda darparwr gwasanaeth, yn darparu gofal a chymorth i unrhyw berson yng Nghymru mewn cysylltiad—
(i) â gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i oedolion,
(ii) â gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant,
(iii) â gwasanaeth llety diogel o fewn ystyr paragraff 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf,
(iv) â gwasanaeth cymorth cartref er mwyn darparu gofal a chymorth i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf, neu
(v) â gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd,
a ddarperir gan y darparwr hwnnw;”;
(ii) ar ôl is-baragraff (b) fel y’i hamnewidir gan y Rheoliadau hyn mewnosoder—“
(bb) sydd, o dan gontract am wasanaethau, yn darparu gofal a chymorth i unrhyw berson yng Nghymru mewn cysylltiad—
(i) â gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i oedolion,
(ii) â gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant,
(iii) â gwasanaeth llety diogel o fewn ystyr paragraff 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf,
(iv) â gwasanaeth cymorth cartref er mwyn darparu gofal a chymorth i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf, neu
(v) â gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd,
a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth;”;
(iii) hepgorer is-baragraff (d);
(b) hepgorer paragraff (3).
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Mawrth 2020