
2020 Rhif 272 (Cy. 64)
Bywyd Gwyllt, Cymru
Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 2) (Cymru) 2020
Made 10 Mawrth 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 11 Mawrth 2020
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 22(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
At ddibenion adran 26(4)(a) o’r Ddeddf honno, nid yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod unrhyw awdurdod lleol yn cael ei effeithio gan y Gorchymyn hwn. Yn unol â’r adran honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfle i unrhyw berson arall yr effeithir arno i gyflwyno gwrthwynebiadau neu sylwadau mewn perthynas â phwnc y Gorchymyn hwn.

Yn unol ag adran 26(4)(b) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur, a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru, sef y cyrff cynghorol sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, yn gallu eu cynghori orau a ddylid gwneud y Gorchymyn hwn ai peidio.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 2) (Cymru) 2020, a daw i rym 21 diwrnod ar ôl y diwrnod y cafodd ei osod.
Amrywio Atodlen 2
2 
Yn Atodlen 2 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (1981) (adar y caniateir eu lladd neu eu cymryd) yn Rhan 1 (y tu allan i’r tymor caeedig) —
(a) yng ngholofn 1, ar ôl “except” hepgorer “, in England,”;
(b) yng ngholofn 2, ar ôl “except” hepgorer “, in England,”.
Lesley Griffiths
Gweinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
10 Mawrth 2020