
2020 Rhif 257 (Cy. 59)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2020
Gwnaed 10 Mawrth 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 12 Mawrth 2020
Yn dod i rym 3 Ebrill 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a) ac (f), 17(2), 26(1)(a) a (3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy ac adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd. Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau penodol at ddarpariaethau yn Rheoliad (EC) Rhif 2016/128 gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Ebrill 2020.
Diwygio Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) 2007
2 

(1) Mae Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “y Rheoliad CE” (“the EC Regulation”) yn lle “I neu II” rhodder “1, 2 neu 3”.
(3) Yn rheoliad 4(2) (tramgwyddau a chosbau)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (ch) hepgorer “a”;
(b) ar ddiwedd is-baragraff (d) yn lle “.” rhodder “;”;
(c) ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—“
(dd) Erthygl 8(2)(a)(i) (gwahardd ychwanegu sylwedd a restrir yn Atodiad 3, Rhan A at fwydydd neu ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu bwydydd);
(e) Erthygl 8(2)(a)(ii) (gwahardd ychwanegu sylwedd a restrir yn Atodiad 3, Rhan B at fwydydd neu ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu bwydydd oni bai bod y sylwedd hwnnw yn cael ei ychwanegu neu ei ddefnyddio yn unol â’r amodau a bennir yn y Rhan honno).”
(4) Ar ôl rheoliad 4 mewnosoder—“
Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â bwyd sy’n cynnwys sylwedd a restrir yn Atodiad 3, Rhan B
4A. 
Nid oes tramgwydd wedi’i gyflawni o dan baragraff (1) o reoliad 4 yn rhinwedd paragraff (2)(e) o’r rheoliad hwnnw mewn cysylltiad ag ychwanegu sylwedd at unrhyw fwyd neu ei ddefnyddio i weithgynhyrchu unrhyw fwyd os—
(a) yw’r bwyd wedi’i roi ar y farchnad cyn 1 Ebrill 2021; a
(b) yw’r sylwedd o dan sylw yn dod o fewn y cofnod yn Atodiad 3, Rhan B sy’n ymwneud â thraws-fraster ac eithrio traws-fraster sy’n digwydd yn naturiol mewn braster sy’n dod o anifeiliaid.”
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
10 Mawrth 2020