
2020 Rhif 247 (Cy. 56)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2020
Gwnaed 9 Mawrth 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 10 Mawrth 2020
Yn dod i rym 1 Ebrill 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 125, 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2020.
Diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006
2 
Yn rheoliad 4 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006 (cyfrifo ffioedd)—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “£14.30” rhodder “£14.70”;
(b) ym mharagraff (2), yn lle “£46.00” rhodder “£47.00”;
(c) ym mharagraff (3), yn lle “£199.10” rhodder “£203.00”;
(d) ym mharagraff (4), yn lle “£199.10” rhodder “£203.00”;
(e) ym mharagraff (5), yn lle “£14.30” rhodder “£14.70”.
Dirymu
3 
Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2019 wedi eu dirymu.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
9 Mawrth 2020