
2020 Rhif 232 (Cy. 54)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) (Diwygio) 2020
Gwnaed 5 Mawrth 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 6 Mawrth 2020
Yn dod i rym 6 Mawrth 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 13, 45C(1), (2) a (3)(a), 45F(2)(a) a (b), 45P(2) a 60A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.

Yn unol ag adran 45Q(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, mae Gweinidogion Cymru yn datgan eu bod o’r farn nad yw’r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C(3)(c) o’r Ddeddf honno sy’n gosod neu’n galluogi gosod cyfyngiad neu ofyniad arbennig neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall sy’n cael neu a fyddai’n cael effaith sylweddol ar hawliau person.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 6 Mawrth 2020.
Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1 (clefydau a syndromau hysbysadwy), ar ôl “Brwselosis” mewnosoder “Clefyd coronafirws 2019 (COVID-19)”.
(3) Yn Atodlen 2 (cyfryngau achosol), ar ôl “Coronafirws y syndrom anadlu acíwt difrifol (SARS)” mewnosoder “Coronafirws y syndrom anadlu acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2)”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
5 Mawrth 2020