
2020 Rhif 220 (Cy. 49)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) 2020
Gwnaed 4 Mawrth 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 6 Mawrth 2020
Yn dod i rym 1 Ebrill 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(e), 17(1) a (2), 26(3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, a chan baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr ac at Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/775 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Erthygl 26(3) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, o ran y rheolau ar gyfer dangos gwlad tarddiad neu darddle’r prif gynhwysyn mewn bwyd a fewnosodir yn Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014, gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2020.
Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014
2 

(1) Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 5 (hysbysiadau gwella – darpariaethau penodedig), ar ôl Rhan 4 mewnosoder—“
RHAN 5 Y ddarpariaeth yn FIC y caniateir i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno mewn perthynas â hi ar ac ar ôl 1 Ebrill 2020.

Y ddarpariaeth yn FIC Y darpariaethau sydd i’w darllen gydaʼr ddarpariaeth yn FIC
Erthygl 26(3) (dangosiad gorfodol o wlad tarddiad neu darddle’r prif gynhwysyn pan fo’n wahanol i wlad tarddiad neu darddle’r bwyd) Erthyglau 1(3) a 6 o FIC, a Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/775 o ran y rheolau ar gyfer dangos gwlad tarddiad neu darddle prif gynhwysyn y bwyd fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.”
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
4 Mawrth 2020