Mae’r Offeryn Statudol hwn wedi ei argraffu i gywiro camgymeriadau yn O.S. 2020/44 (Cy. 5) ac mae’n cael ei ddyroddi’n rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.
2020 Rhif 177 (Cy. 38)
Amaethyddiaeth, Cymru
Anifeiliaid, Cymru
Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) 2020
Gwnaed 24 Chwefror 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 26 Chwefror 2020
Yn dod i rym 20 Mawrth 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o’r Ddeddf honno mewn perthynas â’r meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 20 Mawrth 2020.
Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011
2 

(1) Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 12(4), yn lle’r geiriau o “ecinodermiaid” hyd at “awdurdod lleol” rhodder “ecinodermiaid byw, tiwnigogion byw a gastropodau morol byw a chynhyrchion cyfansawdd sy’n cynnwys cynhyrchion pysgodfeydd wedi eu prosesu a fwriedir i’w bwyta gan bobl, caiff yr awdurdod gorfodi”.
(3) Yn rheoliad 20—
(a) ym mharagraff (7), hepgorer y geiriau o “, ond mae ganddo’r hawl” hyd at y diwedd;
(b) hepgorer paragraff (8).
(4) Yn rheoliad 23(6), hepgorer y geiriau o “ond mae ganddo’r hawl” hyd at y diwedd.
(5) Yn Atodlen 2, ym mharagaff 9(1), yn y testun Saesneg, ar ôl “purposes” mewnosoder “of”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
24 Chwefror 2020