
2020 Rhif 175 (Cy. 37) (C. 12)
Bwyd, Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2020
Gwnaed 24 Chwefror 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 28(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018.
Enwi
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2020.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 2 Mawrth 2020
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 i rym ar 2 Mawrth 2020—
(a) adran 1 at bob diben sy’n weddill;
(b) adrannau 2 i 25;
(c) Atodlen 1.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Chwefror 2020