
2020 Rhif 1648 (Cy. 346) (C. 51)
Amaethyddiaeth, Cymru
Rheoliadau Deddf Amaethyddiaeth 2020 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2020
Gwnaed 29 Rhagfyr 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 57(3)(b) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Amaethyddiaeth 2020 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2020.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ionawr 2021
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 i rym ar 1 Ionawr 2021—
(a) paragraffau 7 ac 8 o Ran 2 o Atodlen 5 (darpariaethau sy’n ymwneud â Chymru), a
(b) adran 46 (Cymru), i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
29 Rhagfyr 2020