
2020 Rhif 163 (Cy. 31)
Gofal Cymdeithasol, Cymru A Lloegr
Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020
Gwnaed 17 Chwefror 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 20 Chwefror 2020
Yn dod i rym 1 Ebrill 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 9(1)(a), 11(2) a (3), 12, 45(1), 54, 83(4) a (5), 140(7) ac (8) a 142(5) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ac adrannau 174(7) a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020.
(2) Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005.
Diwygioʼr Prif Reoliadau
2 
Maeʼr Prif Reoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a) yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 mae i “adroddiad adolygu darpar fabwysiadydd” (“prospective adopterʼs review report”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 30CH(5)(a);”;“
 mae i “adroddiad darpar fabwysiadydd” (“prospective adopterʼs report”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 30(2);”;“
 ystyr “Cofrestr Fabwysiadu Cymru” (“the Adoption Register for Wales”) ywʼr gofrestr syʼn cynnwys gwybodaeth am blant syʼn addas iʼw mabwysiadu a darpar fabwysiadwyr syʼn addas i fabwysiadu plentyn, sydd wedi ei sefydlu o dan adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac a gynhelir ar ran Gweinidogion Cymru;”;“
 mae i “cynllun asesu darpar fabwysiadydd” (“prospective adopter assessment plan”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 29;”;“
 mae i “cynllun cam un darpar fabwysiadydd” (“prospective adopter stage one plan”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 22;”;“
 mae i “cynllun paru darpar fabwysiadydd” (“prospective adopter matching plan”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 31;”;“
 mae i “darparwr gwasanaethau maethu” (“fostering services provider”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2 o Reoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018;”;“
 mae i “paratoad ar gyfer mabwysiadu” (“preparation for adoption”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 24;”;“
 ystyr “Rheoliadau 2014” (“the 2014 Regulations”) yw Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 2014;”;
(b) yn lle’r diffiniad o “dyfarniad o gymhwyster” rhodder—“
 mae i “dyfarniad o gymhwyster” (“qualifying determination”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 30B(5)(a);”.
4 
Yn rheoliad 16(2) (gofyniad i gael gwybodaeth am deulu’r plentyn (gan gynnwys gwybodaeth am iechyd y teulu)), hepgorer “naturiol” ac ar ôl “rieni” mewnosoder “geni”.
5 
Yn rheoliad 17 (gofyniad i baratoi adroddiad ysgrifenedig)—
(a) ym mharagraff (2C), yn lle “yn (2D)” rhodder “ym mharagraff (2CH)”;
(b) yn y testun Cymraeg, ailrifer y paragraff (2D) presennol yn baragraff (2CH) o’r rheoliad hwnnw;
(c) ym mharagraff (2CH)(iii) (fel y’i hailrifwyd), yn lle “naturiol” rhodder “geni”.
6 
Yn nhestun Cymraeg rheoliad 19(1A) (penderfyniad a hysbysiad gan yr asiantaeth fabwysiadu), yn lle “17(2D)” rhodder “17(2CH)”.
7 
Ar ôl rheoliad 19 mewnosoder—“
Atgyfeirio at Gofrestr Fabwysiadu Cymru - plant
19A. 

(1) Pan fo asiantaeth fabwysiadu—
(a) wedi’i hawdurdodi i leoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu, a
(b) heb nodi darpar fabwysiadwyr penodol y maeʼn ystyried lleoliʼr plentyn ar gyfer ei fabwysiadu gyda hwy,
rhaid iʼr asiantaeth ddarparu manylion am y plentyn i’r sefydliad syʼn cynnal Cofrestr Fabwysiadu Cymru iʼw cofnodi yn y gofrestr cyn gynted â phosibl a dim hwyrach nag un mis ar ôl y dyddiad yr awdurdodwyd yr asiantaeth i leoli’r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.
(2) Pan fo asiantaeth fabwysiadu yn dod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau iʼr manylion am y plentyn, rhaid iʼr asiantaeth hysbysuʼr sefydliad syʼn cynnal y gofrestr oʼr newidiadau hynny cyn gynted ag y boʼn rhesymol ymarferol.
(3) Ym mharagraff (1), ystyr “wedi’i hawdurdodi i leoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu” yw naill ai—
(a) wedi’i hawdurdodi i leoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu yn unol â chydsyniad rhiant o dan adran 19 o’r Ddeddf, neu
(b) wedi’i hawdurdodi i leoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu yn unol â gorchymyn lleoliad a wneir yn unol ag adran 21(1) o’r Ddeddf.”
8 
Yn rheoliad 20(1) (cais i benodi swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddog o CAFCASS), ar ôl “rhiant neu warcheidwad y plentyn” mewnosoder “yn preswylio yng Nghymru a Lloegr ac”.
9 
Ar ôl rheoliad 20 mewnosoder—“
Personau sydd wedi’u hawdurdodi i fod yn dyst i gydsyniad i leoli ar gyfer mabwysiadu
20A. 

(1) Pan foʼr rhiant neuʼr gwarcheidwad yn preswylio y tu allan i Gymru a Lloegr ac yn barod i gydsynio i leoliʼr plentyn ar gyfer ei fabwysiadu o dan adran 19 oʼr Ddeddf ac, yn ôl y digwydd, i gydsynio i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 oʼr Ddeddf, rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu drefnu i berson awdurdodedig gael ei benodi i fod yn dyst wrth iʼr rhiant hwnnw neuʼr gwarcheidwad hwnnw gwblhauʼr ffurflen cydsynio i leoli neu i fabwysiadu ac anfon at y person hwnnw yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 2.
(2) Ystyr “person awdurdodedig” at ddibenion y rheoliad hwn yw mewn perthynas â ffurflen gydsynio a gwblheir—
(a) yn yr Alban, Ynad Heddwch neu Siryf;
(b) yng Ngogledd Iwerddon, Ynad Heddwch;
(c) y tu allan iʼr Deyrnas Unedig, unrhyw berson sydd am y tro wedi’i awdurdodi yn ôl y gyfraith yn y man lle y cwblheir y ddogfen i weinyddu llw at unrhyw ddiben barnwrol neu at unrhyw ddiben cyfreithiol arall, swyddog Consylaidd Prydeinig, notari cyhoeddus neu, os ywʼr person syʼn cwblhauʼr ddogfen yn gwasanaethu yn unrhyw un o luoedd arfog rheolaidd y Goron, swyddog syʼn dal comisiwn mewn unrhyw un oʼr lluoedd hynny.”
10 
Yn lle Rhan 4 rhodder—“
RHAN 4 DYLETSWYDDAU ASIANTAETH FABWYSIADU O RAN DARPAR FABWYSIADYDD
Cam 1 – y broses cyn asesu
Cofrestru diddordeb mewn mabwysiadu
21. 
Mae rheoliadau 22 i 27 yn gymwys pan fo person wedi hysbysu asiantaeth fabwysiadu ei fod am fabwysiadu plentyn a boʼr asiantaeth wedi hysbysuʼr person hwnnw ei bod wedi penderfynu bwrw ymlaen âʼr broses cyn asesu mewn cysylltiad âʼr person hwnnw.
Cynllun cam un darpar fabwysiadydd
22. 
Rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu baratoi cynllun ysgrifenedig gan ymgynghori âʼr darpar fabwysiadydd (“cynllun cam un y darpar fabwysiadydd”) syʼn cynnwys y materion canlynol—
(a) gwybodaeth am y cwnsela, yr wybodaeth aʼr paratoad ar gyfer mabwysiadu sydd iʼw darparu o dan reoliad 24,
(b) y weithdrefn ar gyfer cynnal gwiriadau heddlu o dan reoliad 25,
(c) manylion unrhyw hyfforddiant y maeʼr darpar fabwysiadydd wedi cytuno i ymgymryd ag ef,
(ch) gwybodaeth am rôl y darpar fabwysiadydd ym mroses cam un,
(d) unrhyw amserlenni cymwys,
(dd) gwybodaeth am y broses ar gyfer cyflwyno sylwadau (gan gynnwys cwyn) o dan Reoliadau 2014, ac
(e) unrhyw wybodaeth arall y maeʼr asiantaeth yn ystyried ei bod yn berthnasol.
Cofnod achos darpar fabwysiadydd
23. 

(1) Rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu sefydlu cofnod achos mewn cysylltiad âʼr darpar fabwysiadydd (“cofnod achos y darpar fabwysiadydd”) a rhoi yn y cofnod achos hwnnw—
(a) cynllun cam un y darpar fabwysiadydd,
(b) yr wybodaeth aʼr adroddiadau a gafwyd gan yr asiantaeth yn rhinwedd y Rhan hon,
(c) cynllun asesuʼr darpar fabwysiadydd;
(ch) adroddiad y darpar fabwysiadydd a sylwadauʼr darpar fabwysiadydd ar yr adroddiad hwnnw,
(d) y cofnod ysgrifenedig o drafodion y panel mabwysiadu a gynhelir o dan reoliad 30A (a phan foʼn gymwys reoliad 30B(8)), ei argymhelliad, y rhesymau dros yr argymhelliad ac unrhyw gyngor a roddir gan y panel iʼr asiantaeth,
(dd) y cofnod o benderfyniad yr asiantaeth o dan reoliad 30B(1), (6) neu yn ôl y digwydd (9),
(e) pan foʼr darpar fabwysiadydd wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad gan banel adolygu annibynnol, argymhelliad y panel adolygu hwnnw,
(f) pan foʼn gymwys, adroddiad adolyguʼr darpar fabwysiadydd a sylwadauʼr darpar fabwysiadydd ar yr adroddiad hwnnw,
(ff) cynllun paruʼr darpar fabwysiadydd, ac
(g) unrhyw ddogfennau eraill neu wybodaeth arall a gafwyd gan yr asiantaeth ac y maeʼn ystyried y dylid eu cynnwys neu ei chynnwys yn y cofnod achos hwnnw.
(2) Caiff yr asiantaeth fabwysiadu ofyn iʼr darpar fabwysiadydd ddarparu unrhyw wybodaeth bellach y maeʼn rhesymol iʼr asiantaeth ei gwneud yn ofynnol.
(3) Pan fo paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â chwpl, rhaid i’r asesiad o’u haddasrwydd i fabwysiadu plentyn gael ei ystyried ar y cyd a rhaid iʼr asiantaeth sefydlu un cofnod achos.
Gofyniad i ddarparu cwnsela, gwybodaeth a pharatoad ar gyfer mabwysiadu
24. 

(1) Rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu—
(a) darparu gwasanaeth cwnsela ar gyfer y darpar fabwysiadydd,
(b) mewn achos adran 83, esbonio iʼr darpar fabwysiadydd, a darparu gwybodaeth ysgrifenedig am y weithdrefn mewn perthynas â mabwysiadu plentyn oʼr wlad y maeʼr darpar fabwysiadydd yn dymuno mabwysiadu ohoni a goblygiadau cyfreithiol gwneud hynny,
(c) mewn unrhyw achos arall, esbonio iʼr darpar fabwysiadydd, a darparu gwybodaeth ysgrifenedig am y weithdrefn mewn perthynas â lleoli ar gyfer mabwysiadu a mabwysiadu a goblygiadau cyfreithiol gwneud hynny,
(ch) darparu iʼr darpar fabwysiadydd unrhyw wybodaeth a deunyddiau hyfforddi sydd ar gael ac syʼn ymwneud â mabwysiadu plentyn, a
(d) gwneud trefniadau iʼr darpar fabwysiadydd gael unrhyw baratoad ar gyfer mabwysiadu y maeʼr asiantaeth yn ystyried ei fod yn briodol.
(2) Ym mharagraff (1)(d), mae “paratoad ar gyfer mabwysiadu” yn cynnwys darparu gwybodaeth iʼr darpar fabwysiadydd am—
(a) ystod oedran, rhyw, anghenion tebygol a chefndir plant y caiff yr asiantaeth fabwysiadu eu lleoli ar gyfer eu mabwysiadu;
(b) arwyddocâd mabwysiadu i blentyn a theuluʼr plentyn,
(c) cyswllt rhwng plentyn a rhiant geni neu warcheidwad, brodyr a chwiorydd a pherthnasau eraill y plentyn pan awdurdodir lleoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu neu pan fo wediʼi fabwysiadu,
(ch) y sgiliau syʼn angenrheidiol ar riant mabwysiadol,
(d) safbwynt y plentyn a theuluʼr plentyn ar fabwysiadu,
(dd) gweithdrefnauʼr asiantaeth fabwysiadu mewn perthynas ag asesu darpar fabwysiadydd a lleoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu, ac
(e) y weithdrefn mewn perthynas â lleoli ar gyfer mabwysiadu a mabwysiadu.
Gofyniad i gynnal gwiriadau heddlu
25. 

(1) Mewn cysylltiad âʼr darpar fabwysiadydd ac unrhyw aelod arall o aelwyd y darpar fabwysiadydd syʼn 18 oed neu drosodd, rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu gael tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 syʼn cynnwys gwybodaeth addasrwydd syʼn ymwneud â phlant (o fewn ystyr “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) oʼr Ddeddf honno).
(2) Ni chaiff asiantaeth fabwysiadu ystyried darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn os ywʼr person hwnnw neu unrhyw aelod o aelwyd y person hwnnw syʼn 18 oed neu drosodd—
(a) wediʼi gollfarnu o dramgwydd penodedig a gyflawnwyd pan oedd yn 18 oed neu drosodd, neu
(b) wedi cael rhybuddiad gan gwnstabl mewn cysylltiad ag unrhyw dramgwydd oʼr fath.
(3) Ym mharagraff (2), ystyr “tramgwydd penodedig” yw—
(a) tramgwydd yn erbyn plentyn;
(b) tramgwydd a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 3;
(c) tramgwydd yn groes i adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 mewn perthynas â nwyddau y gwaherddir eu mewnforio o dan adran 42 o Ddeddf Cydgrynhoi Tollau 1876 (gwaharddiadau a chyfyngiadau syʼn ymwneud â phornograffi) pan oedd y nwyddau gwaharddedig yn cynnwys ffotograffau anweddus o blant o dan 16 oed;
(ch) unrhyw dramgwydd arall syʼn ymwneud ag anaf corfforol i blentyn, ac eithrio tramgwydd ymosod cyffredin neu guro,
ac mae iʼr ymadrodd “tramgwydd yn erbyn plentyn” yr ystyr a roddir i “offence against a child” gan adran 26(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000, er gwaethaf diddymu’r ddarpariaeth honno, ac eithrio nad ywʼn cynnwys tramgwydd yn groes i adran 9 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003 (gweithgaredd rhywiol gyda phlentyn) mewn achos pan oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed a bod y plentyn yn 13 oed neu drosodd ar adeg cyflawniʼr tramgwydd.
(4) Ni chaiff asiantaeth fabwysiadu ystyried person yn addas i fabwysiadu plentyn os ywʼr person hwnnw neu unrhyw aelod o aelwyd y person hwnnw syʼn 18 oed neu drosodd—
(a) wediʼi gollfarnu o dramgwydd a bennir ym mharagraff 1 o Ran 2 o Atodlen 3 a gyflawnwyd pan oedd yn 18 oed neu drosodd, neu wedi cael rhybuddiad gan gwnstabl mewn cysylltiad ag unrhyw dramgwydd oʼr fath, neu
(b) yn dod o fewn paragraff 2 neu 3 o Ran 2 o Atodlen 3,
er gwaethaf bod y tramgwyddau a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 3 wediʼu diddymu.
(5) Pan fo asiantaeth fabwysiadu yn dod yn ymwybodol bod darpar fabwysiadydd neu aelod o aelwyd y darpar fabwysiadydd yn dod o fewn paragraff (2) neu (4), rhaid iʼr asiantaeth hysbysu’r darpar fabwysiadydd cyn gynted â phosibl na ellir ei ystyried yn addas i fabwysiadu plentyn.
Gwybodaeth cyn asesu arall
26. 
Rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu—
(a) cael yr wybodaeth am y darpar fabwysiadydd a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 4,
(b) cael adroddiad ysgrifenedig gan ymarferydd meddygol cofrestredig am iechyd y darpar fabwysiadydd yn dilyn archwiliad llawn y mae rhaid iddo gynnwys y materion a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 4 onid yw adroddiad oʼr fath wedi’i wneud o fewn 6 mis ar ôl iʼr panel ystyried yr achos o dan reoliad 30A aʼi fod ar gael iʼr asiantaeth,
(c) cael adroddiad ysgrifenedig am bob un oʼr cyfweliadau âʼr personau a enwebwyd gan y darpar fabwysiadydd i ddarparu geirda personol ar gyfer y darpar fabwysiadydd,
(ch) pan foʼr asiantaeth fabwysiadu yn ystyried ei bod yn angenrheidiol, gael geirda personol gan gyn-briod, cyn-bartner sifil neu gyn-bartner y darpar fabwysiadydd,
(d) pan nad yr awdurdod lleol y mae gan y darpar fabwysiadydd ei gartref yn ei ardal ydyw, ganfod a oes gan yr awdurdod lleol y mae gan y darpar fabwysiadydd ei gartref yn ei ardal unrhyw wybodaeth am y darpar fabwysiadydd a all fod yn berthnasol i asesiad o addasrwydd y darpar fabwysiadydd i fabwysiadu ac os felly gael gan yr awdurdod hwnnw adroddiad ysgrifenedig syʼn nodiʼr wybodaeth honno, a
(dd) pan fo gan y darpar fabwysiadydd ei gartref yn ardal yr awdurdod lleol am lai na deuddeng mis, hefyd ganfod a oes gan yr awdurdod lleol yr oedd gan y darpar fabwysiadydd ei gartref yn ei ardal cyn hynny unrhyw wybodaeth am y darpar fabwysiadydd a all fod yn berthnasol i asesiad o addasrwydd y darpar fabwysiadydd i fabwysiadu ac os felly gael gan yr awdurdod hwnnw adroddiad ysgrifenedig syʼn nodiʼr wybodaeth honno.
Penderfyniad cyn asesu
27. 

(1) Rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu, gan ystyried yr wybodaeth a gafwyd o dan reoliadau 25 a 26, benderfynu—
(a) a all y darpar fabwysiadydd fod yn addas i fabwysiadu plentyn, neu
(b) nad ywʼr darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid iʼr asiantaeth wneud ei phenderfyniad o dan baragraff (1) o fewn cyfnod o ddau fis iʼr dyddiad yr hysbysodd yr asiantaeth fabwysiadu y darpar fabwysiadydd ei bod wedi penderfynu bwrw ymlaen âʼr broses cyn asesu yn unol â rheoliad 21.
(3) Caiff yr asiantaeth fabwysiadu oedi gwneud y penderfyniad o dan baragraff (1)—
(a) pan fo wediʼi bodloni bod rhesymau da dros wneud hynny oherwydd, er enghraifft, fod oedi wedi bod wrth gael gwybodaeth am y darpar fabwysiadydd, neu
(b) ar gais y darpar fabwysiadydd.
(4) Pan foʼr asiantaeth fabwysiadu yn penderfynu y gall y darpar fabwysiadydd fod yn addas i fabwysiadu plentyn, rhaid iʼr asiantaeth—
(a) cyn gynted ag y boʼn ymarferol, hysbysuʼr darpar fabwysiadydd oʼi phenderfyniad, a
(b) esbonio iʼr darpar fabwysiadydd fod rhaid iddo hysbysuʼr asiantaeth fabwysiadu ei fod yn dymuno parhau âʼr broses asesu o fewn chwe mis iʼr dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.
(5) Pan foʼr asiantaeth fabwysiadu yn penderfynu nad ywʼr darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn, rhaid iʼr asiantaeth, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl gwneud y penderfyniad, hysbysuʼr darpar fabwysiadydd oʼi phenderfyniad ynghyd â’r rhesymau dros ei phenderfyniad.
Cam 2 – y penderfyniad asesu
Asesiad cam 2
28. 

(1) Mae rheoliadau 28 i 30E yn gymwys pan foʼr darpar fabwysiadydd yn hysbysuʼr asiantaeth fabwysiadu ei fod yn dymuno parhau âʼr broses asesu o fewn chwe mis iʼr dyddiad yr hysbysodd yr asiantaeth y darpar fabwysiadydd y gall fod yn addas i fabwysiadu o dan reoliad 27(4).
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan foʼr darpar fabwysiadydd yn hysbysuʼr asiantaeth fabwysiadu ei fod yn dymuno parhau âʼr broses asesu fwy na chwe mis ar ôl cael ei hysbysu yn unol â rheoliad 27(4).
(3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys, rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu hysbysuʼr darpar fabwysiadydd na chaiff y darpar fabwysiadydd fwrw ymlaen âʼr broses asesu onid yw’r broses cyn asesu yn cael ei hailadrodd i’r graddau y mae’r asiantaeth fabwysiadu yn ystyried ei bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw’n parhau i fod wedi’i fodloni y gall y darpar fabwysiadydd fod yn addas i fabwysiadu plentyn.
Cynllun asesu darpar fabwysiadydd
29. 
Rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu baratoi cynllun ysgrifenedig gan ymgynghori âʼr darpar fabwysiadydd (“cynllun asesuʼr darpar fabwysiadydd”) syʼn cynnwys y materion canlynol—
(a) y weithdrefn ar gyfer asesu addasrwydd y darpar fabwysiadydd i fabwysiadu plentyn,
(b) unrhyw amserlenni cymwys;
(c) y trefniadau iʼr darpar fabwysiadydd gael unrhyw gwnsela ychwanegol neu baratoad ychwanegol ar gyfer mabwysiadu,
(ch) manylion unrhyw hyfforddiant y maeʼr darpar fabwysiadydd wedi cytuno i ymgymryd ag ef,
(d) gwybodaeth am rôl y darpar fabwysiadydd yn y broses asesu,
(dd) gwybodaeth am y broses ar gyfer cyflwyno sylwadau neu wneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad o dan reoliad 30B(5)(c), ac
(e) unrhyw faterion eraill y maeʼr asiantaeth yn ystyried eu bod yn berthnasol.
Adroddiad darpar fabwysiadydd
30. 

(1) Rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu gael yr wybodaeth am y darpar fabwysiadydd a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 4.
(2) Rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu baratoi adroddiad ysgrifenedig (“adroddiad y darpar fabwysiadydd”) syʼn cynnwys—
(a) yr wybodaeth am y darpar fabwysiadydd a theuluʼr darpar fabwysiadydd a bennir yn Rhannau 1 a 3 o Atodlen 4,
(b) crynodeb, wediʼi ysgrifennu gan ymarferydd iechyd cofrestredig yr asiantaeth, o gyflwr iechyd y darpar fabwysiadydd,
(c) unrhyw wybodaeth berthnasol a gafwyd gan yr asiantaeth o dan reoliad 26(d),
(ch) unrhyw sylwadau gan yr asiantaeth ar y materion y cyfeirir atynt yn rheoliadau 24 a 25,
(d) asesiad yr asiantaeth o addasrwydd y darpar fabwysiadydd i fabwysiadu plentyn, ac
(dd) unrhyw wybodaeth arall y maeʼr asiantaeth yn ystyried ei bod yn berthnasol.
(3) Mewn achos adran 83, rhaid i adroddiad y darpar fabwysiadydd hefyd gynnwys—
(a) enwʼr wlad y maeʼr darpar fabwysiadydd yn dymuno mabwysiadu plentyn ohoni (“y wlad tarddiad”),
(b) cadarnhad bod y darpar fabwysiadydd yn bodloniʼr gofynion cymhwystra i fabwysiadu plentyn oʼr wlad tarddiad,
(c) unrhyw wybodaeth ychwanegol a gafwyd o ganlyniad i ofynion y wlad tarddiad, ac
(ch) asesiad yr asiantaeth o addasrwydd y darpar fabwysiadydd i fabwysiadu plentyn syʼn preswylioʼn arferol y tu allan i Ynysoedd Prydain.
(4) Pan foʼr asiantaeth fabwysiadu yn cael gwybodaeth o dan baragraff (1) neu wybodaeth arall mewn perthynas ag asesuʼr darpar fabwysiadydd sy’n arwain at y farn bod y darpar fabwysiadydd yn annhebygol o gael ei ystyried yn addas i fabwysiadu plentyn, caiff baratoi adroddiad y darpar fabwysiadydd o dan baragraff (2) er gwaethaf, o bosibl, nad ywʼr asiantaeth wedi cael yr holl wybodaeth am y darpar fabwysiadydd a all fod yn ofynnol gan y rheoliad hwn.
(5) Pan yw’r asiantaeth fabwysiadu wedi paratoi adroddiad y darpar fabwysiadydd, rhaid iʼr asiantaeth—
(a) hysbysuʼr darpar fabwysiadydd bod cais y darpar fabwysiadydd iʼw atgyfeirio at y panel mabwysiadu,
(b) rhoi copi o adroddiad y darpar fabwysiadydd iʼr darpar fabwysiadydd,
(c) gwahodd y darpar fabwysiadydd i anfon unrhyw sylwadau yn ysgrifenedig at yr asiantaeth o fewn 10 niwrnod gwaith, syʼn dechrau âʼr dyddiad y daw’r hysbysiad i law, ac
(ch) esbonio iʼr darpar fabwysiadydd y caiff yr asiantaeth fabwysiadu, o dan amgylchiadau eithriadol, estyn yr amserlen y cyfeirir ati yn is-baragraff (c).
(6) Ar ddiwedd y cyfnod o 10 niwrnod gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(c) (neu, pan foʼr asiantaeth fabwysiadu yn estyn yr amserlen honno, cyn gynted â phosibl ar ôl i sylwadauʼr darpar fabwysiadydd ddod i law), rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu gyflwyno i’r panel mabwysiadu—
(a) adroddiad y darpar fabwysiadydd a sylwadauʼr darpar fabwysiadydd,
(b) yr adroddiadau ysgrifenedig aʼr geirdaon y cyfeirir atynt yn rheoliad 26(b) i (d) (ond yn achos adroddiadau a gafwyd yn unol â rheoliad 26(b), dim ond os yw ymarferydd iechyd cofrestredig yr asiantaeth yn ei chynghori i wneud hynny), ac
(c) unrhyw wybodaeth berthnasol arall a gafwyd gan yr asiantaeth.
(7) Rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu gael, iʼr graddau y maeʼn rhesymol ymarferol, unrhyw wybodaeth berthnasol arall syʼn ofynnol gan y panel mabwysiadu ac anfon yr wybodaeth honno at y panel.
Swyddogaethauʼr panel mabwysiadu
30A. 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid iʼr panel mabwysiadu ystyried achos y darpar fabwysiadydd a gaiff ei atgyfeirio ato gan yr asiantaeth fabwysiadu a gwneud argymhelliad iʼr asiantaeth o ran a ywʼr darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn.
(2) Wrth ystyried pa argymhelliad iʼw wneud, o ran y panel mabwysiadu—
(a) rhaid iddo bwyso a mesur a chymryd i ystyriaeth yr holl wybodaeth ac adroddiadau a ddaeth iddo yn unol â rheoliad 30(6),
(b) caiff ofyn iʼr asiantaeth fabwysiadu gael unrhyw wybodaeth berthnasol arall y maeʼr panel yn ystyried ei bod yn angenrheidiol, ac
(c) rhaid iddo gael y cyngor cyfreithiol y maeʼn ystyried ei fod yn angenrheidiol mewn perthynas âʼr achos.
(3) Mewn perthynas ag achos darpar fabwysiadydd y mae adroddiad wediʼi baratoi mewn cysylltiad ag ef yn unol â rheoliad 30(4), rhaid iʼr panel mabwysiadu naill ai—
(a) gofyn iʼr asiantaeth mabwysiadu baratoi adroddiad darpar fabwysiadydd pellach, gan gwmpasuʼr holl faterion a nodir yn rheoliad 30(2), neu
(b) argymell nad ywʼr darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn.
(4) Pan foʼr panel mabwysiadu yn gwneud argymhelliad iʼr asiantaeth fabwysiadu fod y darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn, caiff y panel hefyd ystyried a rhoi cyngor iʼr asiantaeth am nifer y plant y gall y darpar fabwysiadydd fod yn addas iʼw mabwysiadu, ystod eu hoedran, eu rhyw aʼu hanghenion tebygol.
(5) Cyn gwneud unrhyw argymhelliad, rhaid iʼr panel mabwysiadu wahodd y darpar fabwysiadydd i fynychu cyfarfod oʼr panel.
Penderfyniad a hysbysiad gan yr asiantaeth fabwysiadu
30B. 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu benderfynu a ywʼr darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn o fewn pedwar mis iʼr dyddiad y cafodd yr asiantaeth hysbysiad y darpar fabwysiadydd ei fod yn dymuno bwrw ymlaen âʼr broses asesu.
(2) Caiff yr asiantaeth fabwysiadu oedi gwneud y penderfyniad o dan baragraff (1)—
(a) mewn achos pan foʼr asiantaeth fabwysiadu yn ystyried bod amgylchiadau eithriadol syʼn golygu na all wneud y penderfyniad o fewn yr amser hwnnw, neu
(b) ar gais y darpar fabwysiadydd.
(3) Ni chaiff unrhyw aelod oʼr panel mabwysiadu gymryd rhan mewn unrhyw benderfyniad a wneir gan yr asiantaeth fabwysiadu o dan baragraff (1).
(4) Pan foʼr asiantaeth fabwysiadu yn penderfynu cymeradwyoʼr darpar fabwysiadydd fel rhywun addas i fabwysiadu plentyn, rhaid iddi hysbysuʼr darpar fabwysiadydd oʼi phenderfyniad.
(5) Pan foʼr asiantaeth fabwysiadu yn ystyried nad ywʼr darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn, rhaid iddi—
(a) hysbysuʼr darpar fabwysiadydd nad ywʼn bwriadu cymeradwyoʼr darpar fabwysiadydd fel rhywun addas i fabwysiadu plentyn (“dyfarniad o gymhwyster”),
(b) anfon gydaʼr hysbysiad hwnnw ei rhesymau ynghyd â chopi o argymhelliad y panel mabwysiadu os ywʼr argymhelliad hwnnw yn wahanol, ac
(c) cynghoriʼr darpar fabwysiadydd y caiff y darpar fabwysiadydd, o fewn 40 niwrnod gwaith syʼn dechrau âʼr dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad—
(i) cyflwyno unrhyw sylwadau y maeʼr darpar fabwysiadydd yn dymuno eu gwneud iʼr asiantaeth, neu
(ii) gwneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad gan banel adolygu annibynnol oʼr dyfarniad o gymhwyster.
(6) Os nad ywʼr darpar fabwysiadydd, o fewn y cyfnod o 40 niwrnod gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(c), wedi cyflwyno unrhyw sylwadau nac wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad gan banel adolygu annibynnol, rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu fwrw ymlaen i wneud ei phenderfyniad a hysbysuʼr darpar fabwysiadydd oʼi phenderfyniad ynghyd âʼr rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.
(7) Os ywʼr asiantaeth fabwysiadu, o fewn y cyfnod o 40 niwrnod gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(c), yn cael sylwadau gan y darpar fabwysiadydd, caiff atgyfeirioʼr achos ynghyd âʼr holl wybodaeth berthnasol at y panel mabwysiadu ar gyfer ystyriaeth bellach.
(8) Rhaid iʼr panel mabwysiadu ystyried unrhyw achos a atgyfeirir ato o dan baragraff (7) a gwneud argymhelliad newydd iʼr asiantaeth fabwysiadu o ran a ywʼr darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn.
(9) Rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu wneud penderfyniad ar yr achos ond—
(a) os ywʼr achos wediʼi atgyfeirio iʼr panel mabwysiadu o dan baragraff (7), dim ond ar ôl ystyried argymhellion y panel mabwysiadu o dan baragraff (8) a rheoliad 30A y caiff yr asiantaeth wneud y penderfyniad, neu
(b) os ywʼr darpar fabwysiadydd wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad gan banel adolygu annibynnol oʼr dyfarniad o gymhwyster, dim ond ar ôl ystyried argymhelliad y panel adolygu annibynnol ac argymhelliad y panel mabwysiadu a wnaed o dan reoliad 30A y caiff yr asiantaeth wneud y penderfyniad.
(10) Cyn gynted â phosibl ar ôl gwneud ei phenderfyniad o dan baragraff (9), rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu hysbysuʼr darpar fabwysiadydd oʼi phenderfyniad, gan ddatgan ei rhesymau dros y penderfyniad hwnnw os ywʼn ystyried nad ywʼr darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn, ac o argymhelliad y panel mabwysiadu o dan baragraff (8), os yw hwn yn wahanol i benderfyniad yr asiantaeth.
(11) Mewn achos pan fo panel adolygu annibynnol wedi gwneud argymhelliad, rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu anfon copi oʼr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (10) at Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth sydd iʼw hanfon at y panel adolygu annibynnol
30C. 

(1) Os ywʼr asiantaeth fabwysiadu yn cael hysbysiad gan Weinidogion Cymru fod darpar fabwysiadydd wedi gwneud cais am adolygiad gan banel adolygu annibynnol o ddyfarniad o gymhwyster, rhaid iʼr asiantaeth, o fewn 10 niwrnod gwaith i gael yr hysbysiad hwnnw, anfon yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2) at Weinidogion Cymru.
(2) Maeʼr wybodaeth ganlynol wediʼi phennu at ddibenion paragraff (1)—
(a) yr holl ddogfennau a gwybodaeth a gyflwynwyd iʼr panel mabwysiadu yn unol â rheoliad 30,
(b) unrhyw adroddiadau eraill neu wybodaeth arall a gyflwynwyd gan yr asiantaeth fabwysiadu i’r panel mabwysiadu gan gynnwys unrhyw wybodaeth berthnasol mewn perthynas âʼr darpar fabwysiadydd a gafwyd gan yr asiantaeth ar ôl y dyddiad y cyflwynwyd y dogfennau aʼr wybodaeth y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) iʼr panel mabwysiadu, ac
(c) y dogfennau y cyfeirir atynt yn rheoliad 30B(5)(a) a (b).
Adolygu a therfynu cymeradwyaeth
30CH. 

(1) Rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu adolygu cymeradwyaeth pob darpar fabwysiadydd yn unol âʼr rheoliad hwn, oni bai—
(a) bod plentyn wedi’i leoli ar gyfer ei fabwysiadu gyda’r darpar fabwysiadydd neu fod yr asiantaeth yn ystyried lleoli plentyn gyda’r darpar fabwysiadydd yn unol â rheoliadau 32 i 34, neu
(b) mewn achos adran 83, fod y darpar fabwysiadydd wedi ymweld â’r plentyn yn y wlad y mae’r plentyn yn preswylio’n arferol ynddi ac wedi cadarnhau’n ysgrifenedig ei fod yn dymuno bwrw ymlaen â’r mabwysiadu.
(2) Rhaid cynnal adolygiad o fewn blwyddyn ar ôl cael y gymeradwyaeth fan bellaf, ac ar ôl hynny pa bryd bynnag y mae’r asiantaeth fabwysiadu yn ystyried ei bod yn angenrheidiol, ond o leiaf unwaith y flwyddyn.
(3) Wrth ymgymryd ag adolygiad oʼr fath, rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu—
(a) gwneud unrhyw ymholiadau a chael unrhyw wybodaeth y maeʼn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn adolygu a ywʼr darpar fabwysiadydd yn parhau i fod yn addas i fabwysiadu plentyn, a
(b) ceisio ac ystyried barn y darpar fabwysiadydd.
(4) Fel rhan o bob adolygiad, rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu ystyried—
(a) pam nad oes plentyn wedi’i leoli gydaʼr darpar fabwysiadydd eto,
(b) unrhyw drefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu ac a ddylent barhau neu gael eu haddasu,
(c) pan ddychwelir plentyn sydd wedi’i leoli gyda’r darpar fabwysiadydd iʼr asiantaeth fabwysiadu yn unol ag adran 35(1) neu (2) oʼr Ddeddf, y rhesymau dros ddychwelyd y plentyn, ac
(ch) a ywʼr darpar fabwysiadydd yn parhau i fod yn addas i fabwysiadu plentyn.
(5) Rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu—
(a) nodiʼn ysgrifenedig y trefniadau syʼn llywodraethuʼr dull y maeʼr adolygiad o ddarpar fabwysiadydd iʼw gynnal a rhaid iddi ddwyn y trefniadau ysgrifenedig i sylw—
(i) y darpar fabwysiadydd, a
(ii) unrhyw berson arall y maeʼr asiantaeth yn ystyried ei fod yn berthnasol;
(b) sicrhau bod—
(i) yr wybodaeth a gafwyd mewn cysylltiad âʼr darpar fabwysiadydd,
(ii) manylion y trafodion mewn unrhyw gyfarfod a drefnwyd gan yr asiantaeth i ystyried unrhyw agwedd ar yr adolygiad, a
(iii) manylion unrhyw benderfyniad a wnaed yng nghwrs yr adolygiad neu o ganlyniad iʼr adolygiad,
yn cael eu cofnodi’n ysgrifenedig aʼu rhoi yng nghofnod achos y darpar fabwysiadydd.
(6) Os ywʼr asiantaeth fabwysiadu, ar ddiwedd yr adolygiad, yn ystyried na all y darpar fabwysiadydd fod yn addas mwyach i fabwysiadu plentyn, rhaid iddi—
(a) paratoi adroddiad ysgrifenedig (“adroddiad adolyguʼr darpar fabwysiadydd”) syʼn cynnwys—
(i) yr wybodaeth a gafwyd am y materion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (3) a (4),
(ii) rhesymauʼr asiantaeth, a
(iii) unrhyw wybodaeth arall y maeʼr asiantaeth yn ystyried ei bod yn berthnasol,
(b) hysbysuʼr darpar fabwysiadydd bod yr achos iʼw atgyfeirio at y panel mabwysiadu, ac
(c) rhoi copi oʼr adroddiad iʼr darpar fabwysiadydd a gwahodd y darpar fabwysiadydd i anfon unrhyw sylwadau at yr asiantaeth o fewn 10 niwrnod gwaith syʼn dechrau âʼr dyddiad y rhoddir yr adroddiad hwnnw iʼr darpar fabwysiadydd.
(7) Ar ddiwedd y cyfnod o 10 niwrnod gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(c) (neuʼn gynharach os daw sylwadauʼr darpar fabwysiadydd i law cyn iʼr cyfnod hwnnw ddod i ben), rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu anfon adroddiad adolyguʼr darpar fabwysiadydd, ynghyd â sylwadauʼr darpar fabwysiadydd, os oes rhai, at y panel mabwysiadu.
(8) Rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu gael, iʼr graddau y maeʼn rhesymol ymarferol, unrhyw wybodaeth berthnasol arall syʼn ofynnol gan y panel mabwysiadu ac anfon yr wybodaeth honno at y panel.
(9) Rhaid iʼr panel mabwysiadu ystyried adroddiad adolyguʼr darpar fabwysiadydd, sylwadauʼr darpar fabwysiadydd, os oes rhai, ac unrhyw wybodaeth arall a roddir iddo gan yr asiantaeth fabwysiadu a gwneud argymhelliad iʼr asiantaeth o ran a ywʼr darpar fabwysiadydd yn parhau i fod yn addas i fabwysiadu plentyn.
(10) Rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu wneud penderfyniad o ran a ywʼr darpar fabwysiadydd yn parhau i fod yn addas i fabwysiadu plentyn ac mae rheoliad 30B(2) i (11) yn gymwys mewn perthynas âʼr penderfyniad hwnnw gan yr asiantaeth.
Dyletswyddauʼr asiantaeth fabwysiadu mewn achos adran 83
30D. 
Pan foʼr asiantaeth fabwysiadu yn penderfynu mewn achos adran 83 gymeradwyo darpar fabwysiadydd fel rhywun addas i fabwysiadu plentyn, rhaid iʼr asiantaeth anfon at Weinidogion Cymru—
(a) cadarnhad ysgrifenedig oʼr penderfyniad ac unrhyw argymhelliad y maeʼr asiantaeth yn ei wneud mewn perthynas â nifer y plant y gall y darpar fabwysiadydd fod yn addas iʼw mabwysiadu, ystod eu hoedran, eu rhyw, eu hanghenion tebygol aʼu cefndir,
(b) yr holl ddogfennau a gwybodaeth a roddwyd iʼr panel mabwysiadu yn unol â rheoliad 30,
(c) cofnod trafodion y panel mabwysiadu, ei argymhelliad aʼr rhesymau dros ei argymhelliad,
(ch) os gwnaeth y darpar fabwysiadydd gais i Weinidogion Cymru am adolygiad gan banel adolygu annibynnol o ddyfarniad o gymhwyster, gofnod trafodion y panel hwnnw, ei argymhelliad aʼr rhesymau dros ei argymhelliad, a
(d) unrhyw wybodaeth arall syʼn ymwneud âʼr achos y mae Gweinidogion Cymru neuʼr awdurdod tramor perthnasol yn ei gwneud yn ofynnol.
Cymhwyso Rhan 4 gydag addasiadau i bersonau penodedig
30DD. 

(1) Maeʼr paragraff hwn yn gymwys pan foʼr asiantaeth fabwysiadu wediʼi bodloni bod y darpar fabwysiadydd—
(a) yn rhiant maeth a gymeradwywyd, neu
(b) wedi mabwysiadu plentyn, ar unrhyw adeg—
(i) yng Nghymru a Lloegr, ar ôl cael ei asesuʼn addas i fabwysiadu yn unol âʼr Rheoliadau hyn neu Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005, neu
(ii) ar ôl cael ei asesuʼn addas i fabwysiadu yn unol â Rheoliadau Mabwysiadau ag Elfen Dramor 2005 (“Rheoliadau 2005”).
(2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, mae Rhan 4 yn cael effaith yn ddarostyngedig iʼr addasiadau a nodir yn Atodlen 4A.
(3) Pan foʼr darpar fabwysiadydd yn rhiant maeth a gymeradwywyd ac yn cydsynio, caiff yr asiantaeth fabwysiadu ofyn am gael mynediad at unrhyw gofnodion perthnasol a luniwyd mewn perthynas âʼr gymeradwyaeth honno gan y darparwr gwasanaethau maethu.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “rhiant maeth a gymeradwywyd” yw person sydd wediʼi gymeradwyo fel rhiant maeth yn unol â Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018 ond nid ywʼn cynnwys person y mae plentyn wediʼi leoli gydag ef o dan reoliad 26 (cymeradwyo dros dro berthynas, cyfaill neu berson arall sydd â chysylltiad ag C) neu 28 (cymeradwyo dros dro ddarpar fabwysiadydd penodol fel rhiant maeth) o Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015.
Atgyfeirio at Gofrestr Fabwysiadu Cymru – darpar fabwysiadwyr
30E. 

(1) Pan fo paragraff (2) yn gymwys, rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu ddarparu manylion am y darpar fabwysiadydd i’r sefydliad syʼn cynnal Cofrestr Fabwysiadu Cymru iʼw cofnodi yn y gofrestr cyn gynted â phosibl a beth bynnag dim hwyrach nag un mis ar ôl y penderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(a).
(2) Ac eithrio mewn achos adran 83, maeʼr paragraff hwn yn gymwys—
(a) pan fo asiantaeth fabwysiadu, yn unol â rheoliad 30B, wedi penderfynu bod darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn,
(b) pan na foʼr asiantaeth wedi nodi plentyn penodol y maeʼn ystyried ei leoli gydaʼr darpar fabwysiadydd hwnnw, ac
(c) pan foʼr asiantaeth wedi cael cydsyniad y darpar fabwysiadydd.
Cynllun paru darpar fabwysiadydd
31. 
Ac eithrio mewn achos adran 83, pan fo asiantaeth fabwysiadu wedi cymeradwyo darpar fabwysiadydd fel rhywun addas i fabwysiadu plentyn yn unol â rheoliad 30B, rhaid iʼr asiantaeth baratoi cynllun ysgrifenedig gan ymgynghori âʼr darpar fabwysiadydd (“cynllun paruʼr darpar fabwysiadydd”) syʼn cynnwys—
(a) gwybodaeth am ddyletswyddauʼr asiantaeth fabwysiadu o dan Rannau 5 a 6,
(b) gwybodaeth am rôl y darpar fabwysiadydd o ran nodi plentyn y byddaiʼn fabwysiadydd priodol ar ei gyfer,
(c) gwybodaeth am y broses ar gyfer cyflwyno sylwadau (gan gynnwys cwyn) o dan Reoliadau 2014, ac
(ch) unrhyw faterion eraill y maeʼr asiantaeth yn ystyried eu bod yn berthnasol.”
11 
Yn rheoliad 33(4) (swyddogaeth y panel mabwysiadu o ran lleoliad arfaethedig), yn lle “rheoliad 28” rhodder “rheoliad 30B”.
12 
Yn rheoliad 43 (mynediad at gofnodion achos a datgelu gwybodaeth), ym mharagraff (1)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (f), yn lle’r atalnod llawn rhodder “;”;
(b) ar ôl is-baragraff (f) mewnosoder—“
(ff) i ddarparwr gwasanaethau maethu o fewn pymtheng niwrnod gwaith i gais o dan reoliad 7(2)(f) o Reoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018.”
13 
Yn Atodlen 1—
(a) yn Rhan 3 (gwybodaeth am deulu’r plentyn ac eraill), yn y pennawd cyn paragraff 1, yn lle “naturiol” rhodder “geni”;
(b) yn Rhan 5 (manylion ynghylch iechyd rhieni a brodyr a chwiorydd naturiol y plentyn)—
(i) ym mhennawd y Rhan, hepgorer “naturiol” ac ar ôl “rhieni” mewnosoder “geni”;
(ii) ym mharagraffau 1, 2 a 3, yn lle “naturiol”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “geni”.
14 
Yn Rhan 1 o Atodlen 3 (tramgwyddau a bennir at ddibenion rheoliad 23(3)(b))—
(a) yn y pennawd, yn lle “Rheoliad 23(3)(b)” rhodder “Rheoliad 25(3)(b)”,
(b) yn lle paragraffau 2 a 3 (tramgwyddau yn yr Alban) rhodder—“
2. 
Tramgwydd o dan adran 1 (treisio) ac adran 18 (treisio plentyn ifanc) o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Yr Alban) 2009.
3. 
Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995, ac eithrio mewn achos pan oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed ar adeg cyflawniʼr tramgwydd.”,
(c) yn lle paragraffau 7 ac 8 (tramgwyddau yng Ngogledd Iwerddon) rhodder—“
7. 
Tramgwydd o dan Erthygl 5 (treisio) ac Erthygl 12 (treisio plentyn o dan 13 oed) o Orchymyn Tramgwyddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008.
8. 
Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968, ac eithrio yn yr achos pan oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed ar adeg cyflawniʼr tramgwydd.”, a
(d) hepgorer paragraff 10.
15 
Yn lle Atodlen 4 rhodder—“
ATODLEN 4
RHAN 1 Gwybodaeth sydd iʼw darparu yn ystod cam 1
Rheoliad 26(a)
Gwybodaeth am y darpar fabwysiadydd
1. 
Enw, rhyw, dyddiad a man geni a chyfeiriad gan gynnwys ardal yr awdurdod lleol.
2. 
Os ywʼr darpar fabwysiadydd yn briod neu wedi ffurfio partneriaeth sifil ac os ywʼn gwneud cais ar ei ben ei hun am asesiad oʼi addasrwydd i fabwysiadu, y rhesymau dros hyn.
3. 
Manylion unrhyw achosion blaenorol mewn llys teulu y buʼr darpar fabwysiadydd yn cymryd rhan ynddynt.
4. 
Enwau a chyfeiriadau tri chanolwr a fydd yn rhoi geirda personol am y darpar fabwysiadydd, na chaiff mwy nag un ohonynt fod yn berthynas iddo.
5. 
Enw a chyfeiriad ymarferydd meddygol cofrestredig y darpar fabwysiadydd.
6. 
O ran y darpar fabwysiadydd—
(a) os ywʼn briod, dyddiad a man y briodas;
(b) os yw wedi ffurfio partneriaeth sifil, dyddiad a man cofrestruʼr bartneriaeth honno;
(c) os oes partner ganddo, manylion y berthynas honno.
7. 
Manylion unrhyw briodas, partneriaeth sifil neu berthynas flaenorol.
8. 
A ywʼr darpar fabwysiadydd wedi ymgartrefu neuʼn preswylioʼn arferol mewn rhan o Ynysoedd Prydain ac os ywʼn preswylioʼn arferol, ers pa bryd.
Gwybodaeth am gartref etc. y darpar fabwysiadydd
9. 
Manylion aelodau eraill o aelwyd y darpar fabwysiadydd (gan gynnwys unrhyw blant iʼr darpar fabwysiadydd pa un a ydynt yn preswylio ar yr aelwyd ai peidio).
RHAN 2 Adroddiad ar iechyd y darpar fabwysiadydd
Rheoliad 26(b)
1. 
Enw, dyddiad geni, rhyw, pwysau a thaldra.
2. 
Hanes iechyd teulu y rhieni, unrhyw frodyr a chwiorydd a phlant y darpar fabwysiadydd, gyda manylion unrhyw salwch corfforol neu salwch meddwl difrifol ac unrhyw glefyd neu anhwylder etifeddol.
3. 
Anffrwythlondeb neu resymau dros benderfynu peidio â chael plant (os ywʼn gymwys).
4. 
Hanes iechyd yn y gorffennol, gan gynnwys manylion unrhyw salwch corfforol neu salwch meddwl difrifol, anabledd, damwain, derbyn i ysbyty neu fynd i adran cleifion allanol, ac ym mhob achos unrhyw driniaeth a roddwyd.
5. 
Hanes obstetrig (os ywʼn gymwys).
6. 
Manylion unrhyw salwch presennol, gan gynnwys y driniaeth aʼr prognosis.
7. 
Manylion unrhyw yfed alcohol a all beri pryder neu a ywʼr darpar fabwysiadydd yn ysmygu neuʼn defnyddio cyffuriau syʼn creu arferiad.
8. 
Unrhyw wybodaeth berthnasol arall y maeʼr asiantaeth fabwysiadu yn ystyried y gall gynorthwyoʼr panel mabwysiadu aʼr asiantaeth fabwysiadu.
RHAN 3 Gwybodaeth sydd iʼw darparu yn ystod cam 2
Rheoliad 30(1)
Gwybodaeth am y darpar fabwysiadydd
1. 
Llun a disgrifiad corfforol.
2. 
Tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol.
3. 
Cred grefyddol.
4. 
Y berthynas âʼr plentyn (os oes un).
5. 
Disgrifiad o bersonoliaeth a diddordebauʼr darpar fabwysiadydd.
6. 
Coeden deulu gyda manylion y darpar fabwysiadydd, brodyr a chwiorydd y darpar fabwysiadydd ac unrhyw blant y darpar fabwysiadydd, gydaʼu hoedrannau (neu eu hoedrannau pan fuont farw).
7. 
Cronoleg oʼr darpar fabwysiadydd ers ei eni.
8. 
Sylwadauʼr darpar fabwysiadydd am ei brofiad ei hun o gael ei rianta a sut y mae hyn wedi dylanwadu arno.
9. 
Manylion unrhyw brofiad sydd gan y darpar fabwysiadydd o ofalu am blant (gan gynnwys fel rhiant, llys-riant, rhiant maeth, gwarchodwr plant neu ddarpar fabwysiadydd) ac asesiad o alluʼr darpar fabwysiadydd yn hyn o beth.
10. 
Unrhyw wybodaeth arall syʼn dangos sut y maeʼr darpar fabwysiadydd ac unrhyw un arall syʼn byw ar aelwyd y darpar fabwysiadydd yn debygol o ymwneud â phlentyn sydd wediʼi leoli ar gyfer ei fabwysiadu gydaʼr darpar fabwysiadydd.
Y Teulu Ehangach
11. 
Disgrifiad o deulu ehangach y darpar fabwysiadydd aʼu rôl aʼu pwysigrwydd iʼr darpar fabwysiadydd aʼu rôl aʼu pwysigrwydd tebygol i blentyn sydd wediʼi leoli ar gyfer ei fabwysiadu gydaʼr darpar fabwysiadydd.
Gwybodaeth am gartref etc. y darpar fabwysiadydd
12. 
Gwybodaeth am gartref y darpar fabwysiadydd aʼr gymdogaeth y maeʼr darpar fabwysiadydd yn byw ynddi.
13. 
Gwybodaeth am gymuned leol y darpar fabwysiadydd, gan gynnwys i ba raddau y maeʼr teulu wedi integreiddio âʼi grwpiau cyfoedion, ei gyfeillgarwch aʼi rwydweithiau cymdeithasol.
Addysg a chyflogaeth
14. 
Manylion hanes a chyraeddiadau addysgol y darpar fabwysiadydd a barn y darpar fabwysiadydd am sut y mae hyn wedi dylanwadu arno.
15. 
Manylion hanes cyflogaeth y darpar fabwysiadydd a sylwadauʼr darpar fabwysiadydd am sut y mae hyn wedi dylanwadu arno.
16. 
Cyflogaeth bresennol y darpar fabwysiadydd a barn y darpar fabwysiadydd am gyflawni cydbwysedd rhwng cyflogaeth a gofal plant.
Incwm
17. 
Manylion incwm a gwariant y darpar fabwysiadydd.
Gwybodaeth arall
18. 
Gwybodaeth am alluʼr darpar fabwysiadydd i—
(a) darparu ar gyfer anghenion plentyn, yn benodol anghenion emosiynol ac anghenion o ran datblygu ymddygiadol,
(b) rhannu hanes plentyn a materion emosiynol cysylltiedig, ac
(c) deall a chefnogi plentyn drwy deimladau posibl o golled a thrawma.
19. 
O ran y darpar fabwysiadydd—
(a) ei resymau dros ddymuno mabwysiadu plentyn,
(b) ei farn aʼi deimladau am fabwysiadu aʼi arwyddocâd,
(c) ei farn am ei allu i rianta,
(ch) ei farn am gyfrifoldeb rhiant aʼr hyn y maeʼn ei olygu,
(d) ei farn am amgylchedd cartref addas i blentyn,
(dd) ei farn am bwysigrwydd a gwerth addysg,
(e) ei farn aʼi deimladau am bwysigrwydd magwraeth grefyddol a diwylliannol plentyn, ac
(f) ei farn aʼi deimladau am gyswllt rhwng plentyn a’i rieni geni a pherthnasau eraill.
20. 
Barn aelodau eraill o aelwyd y darpar fabwysiadydd aʼr teulu ehangach mewn perthynas â mabwysiadu.
21. 
Unrhyw wybodaeth berthnasol arall a allai gynorthwyoʼr panel mabwysiadu neuʼr asiantaeth fabwysiadu.
ATODLEN 4A
Addasu Rhan 4
Rheoliad 30DD(2)
1. 
Nid yw rheoliad 22 yn gymwys.
2. 
Nid yw rheoliadau 24, 25 a 26 ond yn gymwys pan fo asiantaeth fabwysiadu yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.
3. 
Nid yw rheoliadau 27 ac 28 yn gymwys.
4. 
Mae rheoliad 30 yn gymwys fel pe bai—
(a) paragraffau (1) a (4) wediʼu hepgor,
(b) y paragraff canlynol wediʼi roi yn lle paragraff (2)—“
(2) Rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu baratoi adroddiad ysgrifenedig (“adroddiad y darpar fabwysiadydd”) syʼn cynnwys—
(a) pan foʼn gymwys, grynodeb wediʼi ysgrifennu gan ymarferydd iechyd cofrestredig yr asiantaeth, o gyflwr iechyd y darpar fabwysiadydd,
(b) pan foʼn gymwys, unrhyw sylwadau gan yr asiantaeth am y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 25,
(c) pan foʼn gymwys, unrhyw wybodaeth berthnasol a gafwyd gan yr asiantaeth o dan reoliad 26,
(ch) asesiad yr asiantaeth o addasrwydd y darpar fabwysiadydd i fabwysiadu plentyn, a
(d) unrhyw wybodaeth arall y maeʼr asiantaeth yn ystyried ei bod yn berthnasol.”, ac
(c) “pan foʼn gymwys” wediʼi fewnosod ar ddechrau paragraff (6)(b).
5. 
Nid yw rheoliad 30A(3) yn gymwys.
6. 
Mae rheoliad 30B yn gymwys fel pe baiʼr paragraff canlynol wediʼi roi yn lle paragraff (1)—“
(1) Rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu benderfynu a ywʼr darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn o fewn pedwar mis iʼr dyddiad y cafodd yr asiantaeth hysbysiad y darpar fabwysiadydd ei fod yn dymuno bwrw ymlaen âʼr broses cyn asesu.””
Diwygiadau canlyniadol i Reoliadau eraill
16 
Maeʼr diwygiadau i Reoliadau eraill wedi eu nodi yn Atodlen 1.
Diwygiadau amrywiol
17 
Mae Atodlen 2 yn gwneud diwygiadau i destun Cymraeg y Prif Reoliadau.
Darpariaeth drosiannol
18 
Mewn achos pan fo asiantaeth fabwysiadu wedi dechrau asesu addasrwydd darpar fabwysiadydd yn unol â Rhan 4 o’r Prif Reoliadau, cyn iʼr Rheoliadau hyn ddod i rym, rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu barhau âʼr asesiad hwnnw fel pe na baiʼr Rheoliadau hyn wedi eu gwneud.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
17 Chwefror 2020
ATODLEN 1
Diwygiadau Canlyniadol i Reoliadau Eraill
Rheoliad 16
Rheoliadau Mabwysiadau ag Elfen Dramor 2005
1 

(1) Mae Rheoliadau Mabwysiadau ag Elfen Dramor 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 13 (gofynion syʼn gymwys mewn cysylltiad â chymhwystra ac addasrwydd)—
(a) yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) A couple or a person who wishes to adopt a child habitually resident in a Convention country outside the British Islands must notify the agency that they want to adopt a child, and give the agency any information it may require for the purposes of the pre-assessment process set out in Part 4 of the Agencies Regulations or corresponding Welsh provision.”;
(b) ym mharagraff (2)—
(i) yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle’r geiriau o “in Wales” i “(as the case may be)” rhodder—“may not proceed with the pre-assessment process referred to in paragraph (1), unless at the date of that notification—”, a
(ii) yn is-baragraffau (a) a (b), yn lle “an application”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “a notification” ac yn lle “date of application”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “date of notification”.
(3) Yn rheoliad 15 (gweithdrefn mewn cysylltiad â chynnal asesiad), ym mharagraff (1), ar ôl “Part 4 of the Agencies Regulations” mewnosoder “or corresponding Welsh provision”.
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Rhagnodedig) (Mabwysiadu gydag Elfen Dramor) (Cymru) 2005
2 
Yn rheoliad 3 (pŵer i godi am gyfleusterau syʼn cael eu darparu syʼn ymwneud â mabwysiadu gydag elfen dramor) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Rhagnodedig) (Mabwysiadu gydag Elfen Dramor) (Cymru) 2005, ym mharagraff (5)(b)(ii), yn lle “rheoliad 28” rhodder “rheoliad 30B”.
Rheoliadau Adolygu Penderfyniadauʼn Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) (Cymru) 2010
3 

(1) Mae Rheoliadau Adolygu Penderfyniadauʼn Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) (Cymru) 2010 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o “adroddiad darpar fabwysiadydd”, yn lle “rheoliad 26” rhodder “rheoliad 30”.
(3) Yn rheoliad 3(a) (penderfyniad cymhwysol – disgrifiad penodedig at ddibenion adran 12(2) o Ddeddf 2002)—
(a) yn is-baragraff (i), yn lle “rheoliad 28(4)” rhodder “rheoliad 30B(5)”, a
(b) yn is-baragraff (ii), yn lle “reoliad 30” rhodder “reoliad 30CH(2)”.
(4) Yn rheoliad 12 (swyddogaethau panel a gyfansoddwyd i adolygu penderfyniad ar addasrwydd i fabwysiadu)—
(a) ym mharagraff (2)(b)(i), yn lle “rheoliad 26(4), a phan foʼn gymwys, rheoliad 26(5)” rhodder “rheoliad 30(2), a phan foʼn gymwys, reoliad 30(3)”,
(b) ym mharagraff (3), yn lle “reoliad 26(4), a phan foʼn gymwys, rheoliad 26(5)” rhodder “reoliad 30(2), a phan fo’n gymwys, rheoliad 30(3)”,
(c) ym mharagraff (4), yn lle “rheoliad 26(4), a phan foʼn gymwys rheoliad 26(5), oʼr Rheoliadau Asiantaethau yn cynnwys yr holl wybodaeth a oedd yn ofynnol gan reoliad 26(4) neu, os ywʼn gymwys, rheoliad 26(5)” rhodder “rheoliad 30(4) oʼr Rheoliadau Asiantaethau yn cynnwys yr holl wybodaeth a oedd yn ofynnol gan reoliad 30(2), a phan fo’n gymwys, rheoliad 30(3)”, a
(d) ym mharagraff (5)(a), yn lle “rheoliad 29” rhodder “rheoliad 30C”.
Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 2014
4 
Yn rheoliad 9 (swyddogaethau penodedig o dan Ddeddf 2002) o Reoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 2014, ar ôl paragraff (1)(f)(i) mewnosoder—“
(ia) Rhan 4 (dyletswyddau asiantaeth fabwysiadu o ran darpar fabwysiadydd) iʼr graddau y maeʼr swyddogaethau hynnyʼn ymwneud â phenderfyniad o dan reoliad 27 (penderfyniad cyn asesu) nad yw darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn;”.
ATODLEN 2
Diwygiadau Amrywiol i’r Prif Reoliadau
Rheoliad 17
Diwygiadau i’r Prif Reoliadau
1 
Mae testun Cymraeg y Prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2 
Yn rheoliad 2 (dehongli), ar ôl y diffiniad o “Deddf 1989” mewnosoder—“
 ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act”) yw Deddf Ffrwythlondeb ac Embryoleg Dynol 2008;”.
3 
Yn rheoliad 14 (gofyniad i ddarparu cwnsela etc.)—
(a) yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan nad oes gan dad y plentyn neu’r fenyw sy’n rhiant i’r plentyn yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2008 gyfrifoldeb rhiant am y plentyn ac mae’r asiantaeth fabwysiadu yn gwybod pwy yw’r person hwnnw.”, a
(b) ym mharagraff (3)—
(i) ar ôl “tad”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “neu’r fenyw sy’n rhiant yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2008”,
(ii) yn is-baragraff (b)(i), yn lle “adran 4” rhodder “adran 4 neu 4ZA”, a
(iii) yn is-baragraff (b)(ii)—(aa) yn lle “preswylio neu orchymyn cyswllt” rhodder “trefniadau plentyn”, a(bb) yn lle “preswyliad, cyswllt” rhodder “gorchmynion trefniadau plentyn”.
4 
Yn rheoliad 17(1)(ch), (d) ac (e) (gofyniad i baratoi adroddiad ysgrifenedig), ar ôl “tad y plentyn” ac “ei dad” mewnosoder “neu’r fenyw sy’n rhiant i’r plentyn yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2008”.
5 
Yn rheoliad 19(3) (penderfyniad a hysbysiad gan yr asiantaeth fabwysiadu)—
(a) yn lle is-baragraff (b) rhodder—“
(b) unrhyw berthynas neu berson arwyddocaol arall yr ymgynghorodd yr asiantaeth ag ef o dan reoliad 14(1) gan gynnwys—
(i) unrhyw berson a enwir mewn gorchymyn trefniadau plentyn o dan adran 8 o Ddeddf 1989, fel person y mae’r plentyn i dreulio amser gydag ef neu i gael cyswllt ag ef fel arall, neu
(ii) unrhyw berson y mae gorchymyn o dan adran 34 o Ddeddf 1989 (cyswllt rhiant â phlant mewn gofal) wedi ei wneud o’i blaid,
pan fo’r gorchymyn hwnnw mewn grym yn union cyn yr awdurdodir yr asiantaeth i leoli’r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu;”;
(b) yn is-baragraff (c), ar ôl “tad y plentyn” mewnosoder “neu’r fenyw sy’n rhiant i’r plentyn yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2008”.
6 
Yn rheoliad 34(4)(b) (penderfyniad yr asiantaeth fabwysiadu o ran y lleoliad arfaethedig), ar ôl “tad y plentyn,” mewnosoder “neu’r fenyw sy’n rhiant i’r plentyn yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2008,”.
7 
Yn rheoliad 39(2)(b) (tynnu cydsyniad yn ôl), ar ôl “tad y plentyn” mewnosoder “neu’r fenyw sy’n rhiant i’r plentyn yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2008”.
8 
Ym mharagraffau 13(a)(i) a 14 o Ran 1 o Atodlen 1 (gwybodaeth am y plentyn), ar ôl “ei dad” mewnosoder “neu’r fenyw sy’n rhiant i’r plentyn yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2008”.
9 
Yn Rhan 3 o Atodlen 1 (gwybodaeth am deulu’r plentyn ac eraill)—
(a) yn y pennawd o flaen paragraff 1, ar ôl “am y plentyn” mewnosoder “neu fenyw sy’n rhiant yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2008 nad oes ganddi gyfrifoldeb rhiant am y plentyn”,
(b) yn lle paragraff 16 rhodder—“
16. 
Os nad yw rhieni’r plentyn yn briod neu’n bartïon mewn partneriaeth sifil, a oes gan y tad neu’r fenyw sy’n rhiant i’r plentyn yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2008 gyfrifoldeb rhiant am y plentyn ac os felly, sut y cafwyd ef.”,
(c) yn lle paragraff 17 rhodder—“
17. 
Os na wyddys pwy yw tad y plentyn neu ble y mae, neu pwy yw’r fenyw sy’n rhiant i’r plentyn yn rhinwedd adran 42 neu 43 o Ddeddf 2008 neu ble y mae, yr wybodaeth amdano neu amdani sy’n hysbys a phwy a’i rhoes, a’r camau a gymerwyd i ddarganfod pwy yw’r rhiant.”,
(d) yn y pennawd o flaen paragraff 24, ar ôl “tad” mewnosoder “neu’r fenyw sy’n rhiant i’r plentyn yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2008”, ac
(e) ym mharagraff 27, ar ôl “thad y plentyn” mewnosoder “neu’r fenyw sy’n rhiant i’r plentyn yn rhinwedd adran 42 neu 43 o Ddeddf 2008”.