
2020 Rhif 1623 (Cy. 340)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
Cymeradywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed 21 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym am 12.01 a.m. ar 22 Rhagfyr 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 10.00 a.m. ar 22 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 12.01 a.m. ar 22 Rhagfyr 2020.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 25(3)(a)(v), yn lle “neu 10(1)” rhodder “, 10(1) neu 11(3)”.
(3) Yn rheoliad 27(1)(e), yn lle “neu 10(1)” rhodder “, 10(1) neu 11(3)”.
(4) Yn rheoliad 42(1)(d), yn lle “neu 10(1)” rhodder “, 10(1) neu 11(3)”.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

21 Rhagfyr 2020