
2020 Rhif 1618 (Cy. 339)
Treth Trafodiadau Tir, Cymru
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed am 10.20 a.m. ar 21 Rhagfyr 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru am. 5.00 p.m. ar 21 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym 22 Rhagfyr 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 24(1) a 78(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 22 Rhagfyr 2020.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2018” (“the 2018 Regulations”) dylai ffurfio is-baragraff eu hunain a cael ei rifo fel is-baragraff.
(b) Mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Neddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.
Cymhwyso
3 
Yn ddarostyngedig i reoliad 4, mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â’r trafodiadau tir a ganlyn sydd â dyddiad effeithiol ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2020—
(a) trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch y mae Tabl 2 o’r Atodlen i Reoliadau 2018 yn gymwys iddynt;
(b) trafodiadau eiddo amhreswyl y mae Tabl 3 o’r Atodlen i Reoliadau 2018 yn gymwys iddynt; a
(c) cydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent y mae Tabl 4 o’r Atodlen i Reoliadau 2018 yn gymwys iddi.
4 
Nid yw’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw drafodiad a bennir yn rheoliad 3(a) (trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch)—
(a) y rhoddwyd effaith iddo yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo ac a gyflawnwyd yn sylweddol cyn 22 Rhagfyr 2020; neu
(b) y rhoddwyd effaith iddo yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo cyn 22 Rhagfyr 2020 ac nad yw wedi ei hepgor gan reoliad 5.
5 
Mae trafodiad wedi ei hepgor gan y rheoliad hwn os yw’n drafodiad a bennir yn rheoliad 3(a) y rhoddwyd effaith iddo yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo cyn 22 Rhagfyr 2020—
(a) pan geir unrhyw amrywiad i’r contract, neu pan aseinir hawliau o dan y contract, ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2020;
(b) pan roddir effaith i’r trafodiad o ganlyniad i arfer unrhyw opsiwn, hawl rhagbrynu neu hawl debyg ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2020; neu
(c) pan geir, ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2020, aseiniad, is-werthiant neu drafodiad arall yn ymwneud â’r cyfan neu ran o bwnc y contract, y caiff person heblaw’r prynwr o dan y contract hawl i alw am drawsgludiad o ganlyniad iddo.
Diwygio Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018
6 

(1) Mae’r Atodlen i Reoliadau 2018 wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(2) Yn lle Tabl 2 rhodder—“

Tabl 2: Trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch
Band treth Y gydnabyddiaeth berthnasol Y gyfradd dreth ganrannol
Y band treth cyntaf Nid mwy na £180,000 4%
Yr ail fand treth Mwy na £180,000 ond nid mwy na £250,000 7.5%
Y trydydd band treth Mwy na £250,000 ond nid mwy na £400,000 9%
Y pedwerydd band treth Mwy na £400,000 ond nid mwy na £750,000 11.5%
Y pumed band treth Mwy na £750,000 ond nid mwy na £1,500,000 14%
Y chweched band treth Mwy na £1,500,000 16%”;
(3) Yn lle Tabl 3 rhodder—“

Tabl 3: Trafodiadau eiddo amhreswyl
Band treth Y gydnabyddiaeth berthnasol Y gyfradd dreth ganrannol
Band cyfradd sero Nid mwy na £225,000 0%
Y band treth cyntaf Mwy na £225,000 ond nid mwy na £250,000 1%
Yr ail fand treth Mwy na £250,000 ond nid mwy na £1,000,000 5%
Y trydydd band treth Mwy na £1,000,000 6%”; a
(4) Yn lle Tabl 4 rhodder—“

Tabl 4: Cydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent
Band treth Y gydnabyddiaeth berthnasol Y gyfradd dreth ganrannol
Band cyfradd sero LA Nid mwy na £225,000 0%
Y band treth cyntaf Mwy na £225,000 ond nid mwy na £2,000,000 1%
Yr ail fand treth Mwy na £2,000,000 2%”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
Am 10.20 a.m. ar 21 Rhagfyr 2020