
2020 Rhif 1610 (Cy. 336)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020
Cymeradywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed am 9.12 p.m. ar 19 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym am 11.59 p.m. ar 19 Rhagfyr 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 21 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 11.59 p.m. ar 19 Rhagfyr 2020.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(3), yn lle “21 Rhagfyr 2020” rhodder “20 Rhagfyr 2020”.
(3) Yn rheoliad 57(1)(t)(i), ar y diwedd rhodder “, o fewn unrhyw ardal Haen 4 neu o fewn unrhyw ardal arall lle y gosodir cyfyngiadau llymach na’r rhai sy’n gymwys yn yr ardal Haen 3”.
(4) Yng Ngholofn 3 y tabl yn Atodlen 5, yn lle’r testun ar ôl “Lefel Rhybudd yr Ardal” rhodder “4”.
(5) Yn Atodlen 6—
(a) ym mharagraff 1, yn lle “Yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 22 Rhagfyr 2020 ac sy’n dod i ben â 28 Rhagfyr 2020” rhodder “Ar 25 Rhagfyr 2020”;
(b) hepgorer paragraff 2;
(c) hepgorer paragraff 3;
(d) ym mharagraff 4(2), yn y testun sy’n addasu paragraff 3 o Atodlen 4—
(i) ym mharagraff 3(1), yn lle “yn ystod cyfnod y Nadolig” rhodder “ar 25 Rhagfyr 2020”;
(ii) hepgorer paragraff 3A;
(e) hepgorer paragraff 4(3);
(f) hepgorer paragraff 4(4);
(g) ym mharagraff 5—
(i) yn is-baragraff (1)(a), yn lle “yn ystod cyfnod y Nadolig yn rhinwedd yr addasiadau a wneir ym mharagraff 3 neu 4” rhodder “ar 25 Rhagfyr 2020 yn rhinwedd yr addasiadau a wneir ym mharagraff 4”;
(ii) yn lle is-baragraff (1)(b) rhodder—“
(b) pan oedd yr aelwyd, yn union 25 Rhagfyr 2020, yn rhan o aelwyd estynedig a ffurfiwyd o dan neu yn rhinwedd paragraff 3 o Atodlen 4 (“aelwyd estynedig cyn y Nadolig”) fel y mae’n gymwys heb yr addasiadau a wneir ym mharagraff 4.”;
(iii) yn is-baragraff (3), yn lle “cyfnod y Nadolig” rhodder “y dydd ar 25 Rhagfyr 2020”;
(iv) hepgorer is-baragraff (4).
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 9.12 p.m. ar 19 Rhagfyr 2020