
2020 Rhif 1606 (W. 333)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2020
Made 18 Rhagfyr 2020
Laid before Parliament 22 Rhagfyr 2020
Coming into force 30 Ionawr 2021
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 94(5) a (5A), 95(3) a (3A) a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 30 Ionawr 2021.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(2)(a), yn lle “31 Ionawr 2021” rhodder “30 Medi 2021”.
(3) Yn rheoliad 2(2), yn lle “31 Ionawr 2021” rhodder “30 Medi 2021”.
(4) Yn rheoliad 4(a), yn lle “1 Chwefror 2021” rhodder “1 Hydref 2021”.
(5) Yn rheoliad 4(b), yn lle “31 Ionawr 2021” rhodder “30 Medi 2021”.
Kirsty Williams
Minister for Education, one of the Welsh Ministers
18 December 2020