
2020 Rhif 1602 (Cy. 332)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2020
Gwnaed am 2.49 p.m. ar 18 Rhagfyr 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 5.00 p.m. ar 18 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym am 4.00 a.m. ar 19 Rhagfyr 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
RHAN 1 Cyffredinol
Enwi, dod i rym a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 19 Rhagfyr 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.
RHAN 2 Diwygiadau i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Hepgor gwledydd a thiriogaethau o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt
2 
Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer y cofnodion a ganlyn—“
 Gweriniaeth Namibia”“
 Uruguay”“
 Ynysoedd y Wyryf yr Unol Daleithiau”.
Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 2
3 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a) yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 19 Rhagfyr 2020 neu wedi hynny, a
(b) wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2 ddiwethaf—
(i) o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
(ii) cyn 4.00 a.m. ar 19 Rhagfyr 2020.
(2) Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.
RHAN 3 Diwygiad i Ran 3 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Diwygiad i Ran 3 (gofyniad i ynysu etc.) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
4 

(1) Mae Rhan 3 (gofyniad i ynysu etc.) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 8(2)(b) mewnosoder—“
(c) person—
(i) nad yw’n ofynnol iddo ynysu mwyach o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Lloegr) 2020 yn rhinwedd rheoliad 4(13A) o’r Rheoliadau hynny,
(ii) sydd yng Nghymru am un neu ragor o’r rhesymau a restrir yn rheoliad 10(4)(b) i (k) o’r Rheoliadau hyn, a
(iii) sy’n aros yng Nghymru am ddim hwy nag sy’n angenrheidiol.”
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 2.49 p.m. ar 18 Rhagfyr 2020