
2020 Rhif 1581 (Cy. 331)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020
Gwnaed 17 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraffau 1(1) ac 11M(1) o Atodlen 2, paragraff 7 o Atodlen 4, a pharagraff 21(b) o Atodlen 7, i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Yn unol â pharagraff 4(a) o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, ymgynghorwyd â’r Ysgrifennydd Gwladol wrth lunio’r Rheoliadau hyn.
Yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.
RHAN 1 Cyflwyniad
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(2) Daw’r Rhan hon a Rhan 2 i rym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
(3) Daw Rhannau 3 a 4 i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
RHAN 2 Diwygio is-ddeddfwriaeth Ymadael â’r UE
Rheoliadau Cynhyrchion Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
2 

(1) Mae Rheoliadau Cynhyrchion Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer rheoliad 2.
(3) Yn rheoliad 3 (diwygio Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012)—
(a) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(2A) Yn rheoliad 4(3) hepgorer “Cymunedol”.
(2B) Yn rheoliad 6(1)—
(a) hepgorer is-baragraff (a);
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “16(1)” rhodder “16”.”
(b) ym mharagraff (5), yn y rheoliad newydd 10A sydd i’w fewnosod—
(i) ym mharagraff (1), yn lle “yn unol ag Erthygl 16 o Reoliad 1935/2004” rhodder “sy’n cydymffurfio â pharagraff (2)”;
(ii) ym mharagraff (2), yn lle “yn y Deyrnas Unedig” rhodder “ym Mhrydain Fawr”;
(iii) ym mharagraff (3), yn lle “i’r Deyrnas Unedig” rhodder “i Brydain Fawr”;
(c) ar ôl paragraff (6) mewnosoder—“
(6A) Yn rheoliad 27(1)(a)(i), yn lle “10(4), 10(6)” rhodder “10A(1), 10A(3).
(6B) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 1, yn yr adran 10(1A) a amnewidiwyd, yn lle “10(4), 10(6)” rhodder “10A(1), 10A(3).”
(4) Hepgorer rheoliad 4.
(5) Yn yr Atodlen, yn yr Atodlen 5 newydd (datganiad o gydymffurfedd) sydd i’w mewnosod, ym mharagraff 1(a), yn lle “i’r Deyrnas Unedig” rhodder “i Brydain Fawr”.
Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Cymru) 2019
3 

(1) Mae Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4(3) (diwygio Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi’u Rhewi’n Gyflym (Cymru) 2007), yn lle is-baragraff (c), rhodder—“
(c) ym mharagraff (4)—
(i) yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “unrhyw ddisgrifiad arall a restrir yn Erthygl 8.1(a) o Gyfarwyddeb 89/108” rhodder “yr hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall”;
(ii) yn is-baragraff (b), yn lle “yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “y Deyrnas Unedig”.”
(3) Hepgorer rheoliadau 5 a 6.
(4) Yn rheoliad 7 (diwygio Rheoliadau Llestri Cegin Plastig (Amodau ar Fewnforion o Tsieina) (Cymru) 2011)—
(a) yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Yn rheoliad 3(1), yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr””.
(b) Yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Yn rheoliad 8(3)(a)(i), yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr””.
Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019
4 

(1) Mae Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer rheoliad 2.
(3) Hepgorer rheoliadau 4, 5, 6 a 7.
(4) Yn rheoliad 8 (diwygio Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015)—
(a) Ym mharagraff (3), yn lle is-baragraff (b) rhodder—“
(b) yn lle is-baragraff (d), rhodder—“
(d) ei fod yn ddŵr mwynol naturiol a fwriedir ar gyfer—
(i) ei symud i Ogledd Iwerddon; neu
(ii) ei allforio i drydedd wlad.””;
(b) yn lle paragraff (4)(a)(iii), rhodder—“
(iii) yn lle is-baragraff (d) rhodder—“
(d) yn achos dŵr a echdynnwyd o’r ddaear mewn trydedd wlad—
(i) pan fo’r Asiantaeth yn rhoi cydnabyddiaeth yn unol â Rhan 2 o Atodlen 1;
(ii) pan fo ganddo gydnabyddiaeth gyfatebol yn Lloegr a roddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â rheoliad 4(1)(d)(i) o Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Lloegr) 2007 a Rhan 2 o Atodlen 3 iddynt;
(iii) pan fo ganddo gydnabyddiaeth gyfatebol yn yr Alban a roddir gan Asiantaeth Safonau Bwyd yr Alban yn unol â rheoliad 4(1)(d)(i) o Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Yr Alban) (Rhif 2) 2007, a Rhan 2 o Atodlen 3 iddynt;
(iv) pan fo ganddo gydnabyddiaeth gyfatebol yng Ngogledd Iwerddon a roddir gan yr Asiantaeth yn unol â rheoliad 4(2)(d)(i) o Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Gogledd Iwerddon) 2015, a Rhan 2 o Atodlen 1 iddynt.”;”
(c) ym mharagraff 5, yn y rheoliad newydd 4A sydd i’w fewnosod—
(i) ym mharagraff (6), yn lle “mae’r diwrnod ymadael” rhodder “mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
(ii) ym mharagraff (12), yn lle “y diwrnod ymadael”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.
(d) yn lle paragraff (7), rhodder—“
(7) Yn rheoliad 27A—
(a) ym mharagraff (b)—
(i) hepgorer “neu o Wladwriaeth AEE arall”;
(ii) yn lle “Erthyglau 1 i 3 o Reoliad 115/2010” rhodder “y ddeddfwriaeth berthnasol ynghylch dŵr wedi’i botelu sy’n gymwys yn y rhan honno o’r Deyrnas Unedig”;
(b) ym mharagraff (c)—
(i) yn lle “wlad nad yw’n Wladwriaeth AEE arall” rhodder “drydedd wlad”;
(ii) yn lle’r geiriau o “a awdurdodwyd” i “Erthyglau 1 i 3” rhodder “sy’n cydymffurfio â gofynion Erthyglau 1 a 2””;
(e) ym mharagraff (8)(b), ar ôl paragraff (i) mewnosoder—“
(ia) ar ôl “yr Asiantaeth”, yn lle “neu” rhodder “ei bod yn cyfateb i ofynion y Rheoliadau hyn, neu gan””.
RHAN 3 Diwygio is-ddeddfwriaeth Cymru
Rheoliadau Bwyd a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004
5 

(1) Mae Rheoliadau Bwyd a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodlen, yn Rhan 2, yn y tabl—
(a) Hepgorer y cofnod ar gyfer Erthygl 8.6;
(b) yn y cofnod ar gyfer Erthygl 9.3, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn”, rhodder “Awdurdod Diogelwch Bwyd”.
Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004
6 

(1) Mae Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4 (gofynion o dan Reoliad (EC) Rhif 178/2002: tramgwyddau), yn lle paragraff (a) rhodder—“
(a) Article 12 (food and feed exported from Great Britain) in so far as it relates to food;”.
Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007
7 

(1) Mae Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn lle’r diffiniad o “trydedd wlad” rhodder—“
 ystyr “trydedd wlad” (“third country”), ac eithrio yn yr ymadrodd “mewnforyn trydedd wlad” (“third country import”) yw unrhyw wlad neu diriogaeth ac eithrio’r Ynysoedd Prydeinig;”.
(3) Yn lle rheoliad 4 rhodder—“
Cyfwerthoedd y bunt â’r Ewro
4. 
Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at nifer penodedig o Ewros (“EUR”) i’w ddarllen fel y swm hwnnw wedi ei drosi i bunnoedd (“GBP”) gan ddefnyddio’r gyfradd gyfnewid o GBP1 = EUR1.1413.”
(4) Yn lle’r pennawd i’r Atodlen, rhodder—“
DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH”.
Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2009
8 

(1) Mae Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(1)—
(a) yn y diffiniad o “mewnforio”, yn lle “o Aelod-wladwriaeth arall neu o wlad arall y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig”;
(b) yn y diffiniad o “rhif cyfeirnod swyddogol”, yn lle “rhif cyfeirnod a ddyrennir gan yr Aelod-wladwriaeth mewn cysylltiad â chael ei gymeradwyo fel cyfleuster arbelydru (sef y rhif a ddangosir ar ei gyfer yn y rhestr yn Atodlen 3)” rhodder “rhif a ddangosir ar ei gyfer yn y rhestr yn Atodlen 3”.
(3) Yn rheoliad 5(1)—
(a) Yn lle is-baragraff (b) rhodder—“
(b) ei fod wedi’i arbelydru yn un o’r cyfleusterau a restrir yn y Tabl yn Atodlen 3 neu Atodlen 4;”;
(b) Yn is-baragraff (ch), hepgorer “arall”.
(4) Yn lle’r pennawd i Atodlen 3, rhodder—“
RHESTR O GYFLEUSTERAU YN AELOD-WLADWRIAETHAU YR UE AC YN Y DEYRNAS UNEDIG”.
Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2009
9 
Yn Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2009, yn lle’r pennawd i Atodlen 1, rhodder—“
DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH”.
Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009
10 

(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a) ar ôl y diffiniad o “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”, hepgorer yr “ac”;
(b) yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw unrhyw wlad neu diriogaeth ac eithrio’r Ynysoedd Prydeinig.”
(3) Yn rheoliad 4—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “ac Aelod-wladwriaethau” rhodder “a Gweinidogion Cymru”;
(b) ym mharagraff (4), yn lle “ddeddfwriaeth yr UE” rhodder “unrhyw ddeddfwriaeth arall sy’n gymwys”.
(4) Yn rheoliad 5(1), yn lle “ac Aelod-wladwriaethau” rhodder “a Gweinidogion Cymru”.
(5) Hepgorer rheoliadau 14, 15 a 16.
(6) Yn rheoliad 17—
(a) hepgorer paragraff (3);
(b) ym mharagraff (5), hepgorer is-baragraffau (a) a (b).
(7) Yn rheoliad 19(1)—
(a) yn is-baragraff (a), hepgorer “14, 15 neu”;
(b) yn is-baragraff (b)—
(i) hepgorer “14, 15 neu”;
(ii) yn lle “rheoliadau hynny” rhodder “rheoliad hwnnw”.
(8) Yn rheoliad 20(2), hepgorer “neu reoliad 16”.
(9) Yn rheoliad 22, hepgorer y diffiniad o “y tiriogaethau perthnasol” a’r “ac” o’i flaen.
(10) Yn rheoliad 28(1), hepgorer is-baragraffau (b) ac (ch).
(11) Hepgorer rheoliad 35.
(12) Yn rheoliad 41—
(a) ym mharagraff 1(b), hepgorer “neu baragraff (4) neu (5) o reoliad 35”;
(b) ar ôl paragraff 1(d) mewnosoder—“
(e) yn mynd yn groes i ddarpariaethau unrhyw offeryn a wneir o dan Erthygl 53 o Reoliad 178/2002 neu’n methu â chydymffurfio â hwy.”
(13) Yn Atodlen 6, yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 5(1)(b) o Reoliad 2019/1602, yn yr ail golofn, yn lle “IMSOC” rhodder “system rheoli gwybodaeth gyfrifiadurol briodol”.
Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013
11 

(1) Mae Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2—
(a) yn Rhan 1, ym mharagraff 6, yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd”;
(b) yn Rhan 2—
(i) ym mharagraff 2, yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd”;
(ii) ym mharagraff 4, yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd”.
Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2013
12 

(1) Mae Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2013 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “o’r darpariaethau UE” rhodder “o ddarpariaethau cyfraith yr UE a ddargedwir”;
(b) ym mharagraff (2), yn lle “darpariaethau UE” rhodder “darpariaethau cyfraith yr UE a ddargedwir”.
(3) Yn rheoliad 8(2) (cymhwyso adrannau amrywiol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990), yn nhestun adran 9 a addaswyd, yn lle “the EU requirements”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “the retained EU law requirements”.
Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013
13 

(1) Mae Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 10(b), yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr”.
(3) Yn rheoliad 14(1)(d), yn lle “nhiriogaeth yr UE” rhodder “y Deyrnas Unedig”.
(4) Hepgorer rheoliad 15.
(5) Yn Atodlen 1—
(a) yn Nhabl 1, yn y cofnod ar gyfer Erthygl 26.1, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”;
(b) Yn Nhabl 2—
(i) yn y cofnod ar gyfer Erthygl 21.1 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 22), yn yr ail golofn, yn lle “mewn iaith a deellir yn hawdd gan y prynwyr” rhodder “yn Saesneg, neu yn Gymraeg a Saesneg”;
(ii) yn y cofnod ar gyfer Erthygl 26.2, yn yr ail golofn, yn lle “y Comisiwn” rhodder “yr Awdurdod”.
(6) Yn Atodlen 2, yn Nhabl 1—
(a) yn y cofnod ar gyfer Erthygl 10, yn yr ail golofn, yn lle “restr yr Undeb” rhodder “y rhestr ddomestig”;
(b) yn y cofnod ar gyfer Erthygl 19.2, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”;
(c) yn y cofnod ar gyfer Erthygl 19.3, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”.
(7) Yn Atodlen 3, yn Nhabl 1, yn y cofnod ar gyfer Erthygl 9.5, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”.
(8) Yn Atodlen 4, yn Nhabl 1—
(a) yn y cofnod ar gyfer Erthygl 4, yn yr ail golofn, yn lle “yn rhestr yr Undeb” rhodder “yn y rhestr ddomestig”;
(b) yn y cofnod ar gyfer Erthygl 14.1, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”;
(c) yn y cofnod ar gyfer Erthygl 14.2, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”.
Rheoliadau Mêl (Cymru) 2015
14 

(1) Mae Rheoliadau Mêl (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 17—
(a) Ym mharagraff (1)—
(i) hepgorer “Aelod-wladwriaeth neu drydedd”;
(ii) yn lle’r geiriau o “un o’r mynegiadau a ganlyn” hyd at y diwedd, rhodder “y mynegiad “blend of honeys from more than one country”, neu geiriad yn Saesneg ag ystyr cyfatebol.”;
(b) ym mharagraff (6), yn lle’r geiriau o “mynegiadau a ganlyn” hyd at y diwedd, rhodder “mynegiad “cyfuniad o felau o fwy nag un wlad”, neu geiriad yn Gymraeg ag ystyr cyfatebol.”
Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau (Cymru) 2016
15 

(1) Mae Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau (Cymru) 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 6—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn is-baragraff (d), yn lle “yr Undeb Ewropeaidd, enw neu enw busnes a chyfeiriad y sawl a’i mewnforiodd i farchnad yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “y Deyrnas Unedig, enw neu enw busnes a chyfeiriad y sawl a’i mewnforiodd i farchnad y Deyrnas Unedig”;
(ii) yn is-baragraff (e), yn lle “wledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “drydedd wlad”;
(b) ar ôl paragraff (8) mewnosoder—“
(9) Yn y rheoliad hwn, ystyr “trydedd wlad” yw unrhyw wlad ac eithrio yr Ynysoedd Prydeinig.”
RHAN 4 Darpariaeth Arbed
Arbed datganiadau a wnaed o dan reoliad 35 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009
16 
Er gwaethaf dirymu rheoliad 35 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 (gan reoliad 10(11) o’r Rheoliadau hyn), mae unrhyw ddatganiad a wneir o dan reoliad 35 sydd mewn grym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn cael effaith ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu fel pe bai wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru mewn offeryn statudol o dan Erthygl 53 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru
17 Rhagfyr 2020