
2020 Rhif 1573 (Cy. 330)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Hadau, Cymru
Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed 15 Rhagfyr 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 18 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Yn unol â pharagraff 4(a) o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol o ran y Rheoliadau hyn sy’n dod i rym cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

Oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud y Rheoliadau hyn heb fod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym fel a ganlyn—
(a) daw rheoliadau 1, 3 a 5 i rym ar 30 Rhagfyr 2020;
(b) daw rheoliadau 2 a 4 i rym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019
2 

(1) Mae Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1—
(a) ym mharagraff (2), hepgorer “, ac eithrio rheoliadau 3 a 4,”;
(b) hepgorer paragraff (3).
(3) Yn rheoliad 2—
(a) ym mharagraff (2)—
(i) yn is-baragraffau (a), (c), (d), (i), (j), (k) ac (o)—(aa) yn yr is-baragraff (ii) newydd sydd i’w fewnosod gan bob un o’r is-baragraffau hynny, ar ôl “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” mewnosoder “neu wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;(bb) hepgorer yr is-baragraff (iii) newydd sydd i’w fewnosod gan bob un o’r is-baragraffau hynny;
(ii) yn is-baragraff (b), yn lle “yn unol â chytundeb masnach y Swistir” rhodder “o “(neu, mewn perthynas â” hyd at y diwedd”;
(iii) yn is-baragraff (d), yn lle’r is-baragraff (i) newydd sydd i’w fewnosod gan yr is-baragraff hwnnw rhodder—“
(i) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir yn Lloegr, Ran 1 o Atodlen 2 i Reoliadau Tatws Hadyd (Lloegr) 2015;”;
(iv) yn is-baragraffau (e), (f) ac (n), yn lle’r geiriau cyn y diffiniadau newydd sydd i’w mewnosod gan yr is-baragraffau hynny rhodder “ym mharagraff (1), yn y lle priodol mewnosoder—”;
(v) yn is-baragraff (g), yn lle’r diffiniad newydd o “gradd” sydd i’w fewnosod gan yr is-baragraff hwnnw rhodder—“
 mae “gradd” (“grade”) yn cynnwys gradd Prydain Fawr;”;
(vi) yn lle is-baragraff (h) rhodder—“
(h) hepgorer y diffiniad o “Rhestr Genedlaethol”;”;
(vii) yn is-baragraff (l), yn y diffiniad newydd o “tatws hadyd o amrywogaeth gadwraeth” sydd i’w fewnosod gan yr is-baragraff hwnnw, yn lle “y Rhestr Genedlaethol” rhodder “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”;
(viii) yn is-baragraff (m), yn lle “ym mharagraff (b) hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig”” rhodder“hepgorer paragraffau (b) ac (c) ac, ar y diwedd mewnosoder—“neu
(b) tatws hadyd a gynhyrchir mewn gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi;””;
(ix) yn is-baragraff (p), yn y diffiniad newydd o “gradd yr Undeb” sydd i’w fewnosod gan yr is-baragraff hwnnw, yn lle “mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir” rhodder “yng Ngogledd Iwerddon”;
(x) yn lle is-baragraff (q) rhodder—“
(q) ym mharagraff (1), yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 ystyr “gradd gyfatebol” (“equivalentgrade”) yw—
(a) o ran Gogledd Iwerddon, radd Undeb gyfatebol;
(b) o ran un o Diriogaethau Dibynnol y Goron neu wlad y caniatawyd cywerthedd iddi, radd a gydnabyddir gan Weinidogion Cymru fel un sy’n cyfateb i un o raddau Prydain Fawr;”;“
 ystyr “gradd Prydain Fawr” (“GB grade”) yw—
(a) o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, gradd Prydain Fawr a bennir yn unol ag Atodlen 4 wrth ardystio, sef—
(i) yn achos tatws hadyd cyn-sylfaenol, gradd PBTC Prydain Fawr neu radd PB Prydain Fawr;
(ii) yn achos tatws hadyd sylfaenol, gradd S Prydain Fawr, gradd SE Prydain Fawr neu radd E Prydain Fawr;
(iii) yn achos tatws hadyd ardystiedig, gradd A Prydain Fawr neu radd B Prydain Fawr;
(b) o ran tatws hadyd a gynhyrchir yn Lloegr neu’r Alban, gradd Prydain Fawr a bennir yn unol â’r rheoliadau tatws hadyd perthnasol;”;“
 ystyr “gradd Undeb gyfatebol” (“equivalent Uniongrade”) yw—
(a) o ran “Gradd PBTC Prydain Fawr”, “gradd PBTC yr Undeb”;
(b) o ran “Gradd PB Prydain Fawr”, “gradd PB yr Undeb”;
(c) o ran “Gradd S Prydain Fawr”, “gradd S yr Undeb”;
(d) o ran “Gradd SE Prydain Fawr”, “gradd SE yr Undeb”;
(e) o ran “Gradd E Prydain Fawr”, “gradd E yr Undeb”;
(f) o ran “Gradd A Prydain Fawr”, “gradd A yr Undeb”;
(g) o ran “Gradd B Prydain Fawr”, “gradd B yr Undeb”;”;“
 ystyr “gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi” (“country granted equivalence”) yw gwlad y mae Gweinidogion Cymru wedi asesu bod tatws hadyd o’r wlad honno yn cael eu cynhyrchu o dan amodau sy’n cyfateb i ofynion y Rheoliadau hyn;”;“
 ystyr “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr” (“GBVarietyList”) yw rhestr o amrywogaethau tatws a baratowyd ac a gyhoeddwyd yn unol â rheoliad 3 o’r Rheoliadau Rhestrau Cenedlaethol;”;”;
(xi) yn lle is-baragraff (r) rhodder—“
(r) hepgorer paragraff (2);”;
(b) yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Yn rheoliad 4, yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr”.”;
(c) ym mharagraff (4)—
(i) yn y testun Saesneg, ar ôl “accordance with”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “to the end substitute”;
(ii) yn y paragraff (ii) newydd, ar ôl “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” mewnosoder “neu wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;
(iii) hepgorer y paragraff (iii) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraff hwnnw;
(d) ym mharagraff (5)—
(i) o flaen is-baragraff (a) mewnosoder—“
(za) ym mharagraff (1)(a), yn lle “y Rhestr Genedlaethol” rhodder “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”;”;
(ii) yn is-baragraff (b), yn y paragraff (3A) newydd, yn lle “the United Kingdom”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “Great Britain”;
(e) ym mharagraff (6), yn yr is-baragraff (c) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraff hwnnw, yn lle “y diwrnod ymadael” rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
(f) ym mharagraff (7)—
(i) yn is-baragraff (a)—(aa) ym mharagraff (i), yn lle “yn y Deyrnas Unedig” rhodder “ym Mhrydain Fawr”;(bb) ym mharagraff (ii), yn yr is-baragraff (iii) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraff hwnnw, yn lle “y diwrnod ymadael” rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
(ii) yn lle is-baragraff (b) rhodder—“
(b) ym mharagraff (6)(b), yn lle “mewn Rhestr Genedlaethol neu yn y Catalog Cyffredin” rhodder “yn Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”;”;
(g) ym mharagraffau (8) a (9)—
(i) yn y paragraff (ii) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraffau hynny, ar ôl “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” mewnosoder “neu wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;
(ii) hepgorer y paragraff (iii) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraffau hynny;
(h) yn lle paragraff (10) rhodder—“
(10) Yn rheoliad 16 ac yn y pennawd, yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Ynysoedd Prydain”.”;
(i) ym mharagraff (11), yn y rheoliad 23A newydd a’i bennawd, sydd i’w mewnosod gan y paragraff hwnnw—
(i) yn lle “ar y diwrnod ymadael” rhodder “ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”, yn lle “cyn y diwrnod ymadael” rhodder “cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu” ac yn lle “y mae’r diwrnod ymadael” rhodder “y mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
(ii) ar ôl “label swyddogol”, yn yr ail le y mae’n digwydd, mewnosoder “ar gyfer tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig”;
(j) yn lle paragraff (12) rhodder—“
(12) Yn Atodlen 1—
(a) ym mharagraff 3(a), yn lle “mewn Rhestr Genedlaethol neu yn y Catalog Cyffredin” rhodder “yn Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”;
(b) ym mharagraffau 5, 6 a 10, yn lle “yr Undeb”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “Prydain Fawr”;
(c) ym mharagraff 8(b)—
(i) yn y testun Saesneg, yn lle “Union”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “GB”;
(ii) yn y testun Cymraeg—(aa) ym mharagraff (i), ar ôl “gradd S” mewnosoder “Prydain Fawr”;(bb) ym mharagraff (ii), ar ôl “gradd SE” mewnosoder “Prydain Fawr”; ac(cc) ym mharagraff (iii), ar ôl “gradd E” mewnosoder “Prydain Fawr”.”;
(k) ym mharagraff (13)—
(i) yn is-baragraff (b)(i), yn lle “UK” rhodder “GB”;
(ii) yn lle is-baragraff (c) rhodder—“
(c) ym mharagraff 8(b)—
(i) ym mharagraff (i), yn lle “Aelod-wladwriaeth” rhodder “wlad”;
(ii) ym mharagraff (vi), yn lle “Restr Genedlaethol” rhodder “Restr Amrywogaethau Prydain Fawr”;”;
(iii) yn is-baragraffau (d)(ii) ac (e), yn lle “UK” rhodder “GB”, ac yn lle “y DU” rhodder “Prydain Fawr”;
(l) ym mharagraff (14)(a) a (b), yn lle “y DU” rhodder “Prydain Fawr”;
(m) ym mharagraff (16)—
(i) yn is-baragraff (a), yn lle “yn lle “Undeb” rhodder “Deyrnas Unedig”” rhodder “yn lle “un o raddau’r Undeb” rhodder “un o raddau Prydain Fawr””;
(ii) yn is-baragraff (b)(i), yn lle “y DU” rhodder “Prydain Fawr”;
(iii) yn lle is-baragraff (b)(ii) rhodder—“
(ii) yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “PB” yng ngholofn 2, ym mharagraff (1)(b), yn lle “gradd PB yr Undeb” rhodder “gradd PB Prydain Fawr neu radd gyfatebol”;”;
(n) ym mharagraff (17)—
(i) yn is-baragraff (a), yn lle “yn lle “Undeb” rhodder “Deyrnas Unedig”” rhodder “yn lle “un o raddau’r Undeb” rhodder “un o raddau Prydain Fawr””;
(ii) yn is-baragraff (b)(i), yn lle “y DU” rhodder “Prydain Fawr”;
(iii) yn lle is-baragraff (b)(ii) i (iv) rhodder—“
(ii) yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “S”, yng ngholofn 2, ym mharagraff (1)(a), yn lle “radd S yr Undeb” rhodder “radd S Prydain Fawr neu radd gyfatebol”;
(iii) yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “SE”, yng ngholofn 2, ym mharagraff (1)(a), yn lle “radd S yr Undeb neu’n radd SE yr Undeb” rhodder “radd S Prydain Fawr, gradd SE Prydain Fawr neu radd gyfatebol”;
(iv) yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “E”, yng ngholofn 2—(aa) ym mharagraff (1)(a), yn lle “radd S yr Undeb neu radd SE yr Undeb” rhodder “radd S Prydain Fawr, gradd SE Prydain Fawr neu radd gyfatebol”;(bb) ym mharagraff (1)(b), yn lle “radd S yr Undeb, gradd SE yr Undeb neu radd E yr Undeb” rhodder “radd S Prydain Fawr, gradd SE Prydain Fawr, gradd E Prydain Fawr neu radd gyfatebol.”;
(o) yn lle paragraff (18) rhodder—“
(18) Yn Rhan 3, yn Nhabl 3—
(a) ym mhennawd colofn 1, yn lle “yr Undeb” rhodder “Prydain Fawr”;
(b) yng ngholofn 2, yn lle “radd A yr Undeb”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “radd A Prydain Fawr neu radd gyfatebol”;
(c) yng ngholofn 2, yn lle “radd B yr Undeb” rhodder “radd B Prydain Fawr neu radd gyfatebol.”
(4) Hepgorer rheoliadau 3 a 4.
Rheoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
3 

(1) Mae Rheoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(3), hepgorer “, 5”.
(3) Hepgorer rheoliad 5.
Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
4 

(1) Mae Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y testun Cymraeg, ailrifer rheoliadau 2 i 6 yn rheoliadau 1 i 5, ac mae’r paragraffau a ganlyn yn cyfeirio at y rheoliadau hynny fel y’u hailrifwyd.
(3) Yn rheoliad 4—
(a) yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Yn rheoliad 3, yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a) “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr” yw’r rhestr o amrywogaethau planhigion a baratowyd ac a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â darpariaethau Rheoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001;
(b) ystyr “gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi” yw—
(i) gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi o dan Benderfyniad y Cyngor 2003/17/EC ar gywerthedd archwiliadau maes a gynhelir mewn trydydd gwledydd ar gnydau sy’n cynhyrchu hadau ac ar gywerthedd hadau a gynhyrchir mewn trydydd gwledydd; neu
(ii) gwlad y mae Gweinidogion Cymru wedi asesu bod yr hadau o’r wlad honno yn cael eu cynhyrchu o dan amodau sy’n cyfateb i ofynion y Rheoliadau hyn o ran yr hadau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt;
(c) ystyr “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” yw unrhyw un o Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw;
(ch) ystyr “Rhestr Amrywogaethau Gogledd Iwerddon” yw’r rhestr o amrywogaethau planhigion a baratowyd ac a gyhoeddwyd gan yr Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig yng Ngogledd Iwerddon yn unol â’r ddeddfwriaeth sy’n cyfateb o ran ei heffaith i Reoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001.”;”
(b) yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Yn rheoliad 4(2), yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr”.”;
(c) yn lle paragraff (4) rhodder—“
(4) Yn rheoliad 7, yn lle’r geiriau o “Rhestr Genedlaethol” hyd at y diwedd rhodder “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr, Rhestr Amrywogaethau Gogledd Iwerddon neu restr gyfatebol mewn gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi”.”;
(d) hepgorer paragraff (5);
(e) yn lle paragraff (6) rhodder —“
(6) Yn rheoliad 10, ym mharagraff (a), yn lle “Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu’r Catalog Cyffredin” rhodder “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”.”;
(f) ym mharagraff (9)—
(i) yn lle is-baragraff (a) rhodder—“
(a) yn y pennawd, yn lle “o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “o wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;”;
(ii) ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—“
(aa) yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Rhaid i hadau sy’n cael eu mewnforio o wlad y caniatawyd cywerthedd iddi—
(a) bod yn amrywogaeth a restrwyd yn Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr; a
(b) bod wedi eu labelu—
(i) o ran hadau llysiau safonol, â label cyflenwr yn unol â pharagraff 25(4) neu (5) o Atodlen 3;
(ii) o ran yr holl hadau eraill, â label a gymeradwywyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar gyfer ardystio amrywogaethau i reoli hadau sy’n symud yn y fasnach ryngwladol.”;”;
(iii) yn is-baragraff (b), yn lle “i’r Deyrnas Unedig” rhodder “o wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;
(iv) hepgorer is-baragraff (c);
(g) ym mharagraff (10)—
(i) yn y rheoliad 32A newydd a’i bennawd sydd i’w mewnosod gan y paragraff hwnnw, ar ôl “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” mewnosoder “neu wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;
(ii) yn y rheoliad 32B newydd a’i bennawd sydd i’w mewnosod gan y paragraff hwnnw—(aa) yn lle “ar y diwrnod ymadael” rhodder “ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”, yn lle “cyn y diwrnod ymadael” rhodder “cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu” ac yn lle “y mae’r diwrnod ymadael” rhodder “y mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;(bb) yn lle “ddwy flynedd” rhodder “un flwyddyn”;
(h) ym mharagraff (11)—
(i) yn is-baragraff (a)(iii), yn yr is-baragraff (6)(b)(i)(bb) newydd sydd i’w fewnosod gan yr is-baragraff hwnnw, yn lle “United Kingdom National” rhodder “GB Variety”;
(ii) yn lle is-baragraff (e) rhodder—“
(e) ym mharagraff 43(2), yn lle “Restr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu’r Catalog Cyffredin” rhodder “Restr Amrywogaethau Prydain Fawr”;”;
(i) ym mharagraff (12)—
(i) yn is-baragraff (c)(i), yn lle “UK” rhodder “GB”;
(ii) yn lle is-baragraff (e) rhodder—“
(e) ym mharagraffau 12(2)(a) a 14(1)(a), yn lle “Restr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu’r Catalog Cyffredin” rhodder “Restr Amrywogaethau Prydain Fawr”;”;
(iii) yn is-baragraffau (g) a (j), yn lle “UK” rhodder “GB”;
(j) ym mharagraff (13)—
(i) yn is-baragraff (d)—(aa) o flaen paragraff (i), mewnosoder—“
(ai) yn is-baragraffau (2) a (3), yn lle “Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig” rhodder “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”;”;(bb) ym mharagraff (i), yn yr is-baragraff (5A) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraff hwnnw, yn lle “the United Kingdom”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “Great Britain”;
(ii) yn is-baragraff (e)(ii), yn lle “UK” rhodder “GB”;
(iii) ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—“
(ea) ym mharagraff 9—
(i) yn is-baragraffau (1), (5) a (6), yn lle “Genedlaethol y Deyrnas Unedig” rhodder “Amrywogaethau Prydain Fawr”;
(ii) yn is-baragraff (8), yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “yn y Deyrnas Unedig” rhodder “ym Mhrydain Fawr”;”;
(iv) yn lle is-baragraff (f) rhodder—“
(f) ym mharagraff 10—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle’r geiriau o “Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig” hyd at y diwedd rhodder “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr ar yr amod bod cais wedi ei wneud i’w cofnodi yn Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr neu Restr Amrywogaethau Gogledd Iwerddon”;
(ii) yn is-baragraff (4), yn lle “yn y Rhestr Genedlaethol berthnasol” rhodder “yn Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr, Rhestr Amrywogaethau Gogledd Iwerddon neu restr gyfatebol gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;
(iii) hepgorer is-baragraffau (7) ac (8);”;
(v) yn lle is-baragraff (g) rhodder—“
(g) ym mharagraff 11(2), yn lle “Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu’r Catalog Cyffredin” rhodder “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”;”;
(vi) yn is-baragraff (h)(ii)(bb), yn lle “y mae’r diwrnod ymadael” rhodder “y mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
(vii) yn lle is-baragraff (l) rhodder—“
(l) hepgorer paragraff 16;”;
(viii) yn lle is-baragraff (n) rhodder—“
(n) ym mharagraff 18, yn lle “Restr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu’r Catalog Cyffredin” rhodder “Restr Amrywogaethau Prydain Fawr”;”.
(4) Yn rheoliad 5—
(a) ym mharagraff (2)—
(i) yn is-baragraffau (a), (b), (c), (f), ac (i)—(aa) yn yr is-baragraff (ii) newydd sydd i’w fewnosod gan bob un o’r is-baragraffau hynny, ar ôl “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” mewnosoder “neu wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;(bb) hepgorer yr is-baragraff (iii) newydd sydd i’w fewnosod gan bob un o’r is-baragraffau hynny;
(ii) ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—“
(ca) yn y lle priodol mewnosoder—
 “ystyr “gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi” (“country granted equivalence”) yw gwlad sydd wedi ei hasesu o dan reoliad 5(3) ac y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y deunyddiau planhigion o’r wlad yn cael eu cynhyrchu o dan amodau sy’n cyfateb i ofynion y Rheoliadau hyn o ran deunyddiau planhigion;”;”;
(iii) yn is-baragraff (g), yn lle “, unrhyw Aelod-wladwriaeth neu unrhyw Diriogaeth Ddibynnol y Goron” rhodder “, unrhyw Diriogaeth Ddibynnol y Goron neu unrhyw wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;
(b) yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Yn rheoliad 4(3), yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr”.”;
(c) yn lle paragraff (4) rhodder—“
(4) Yn rheoliad 5, ym mharagraff (3), yn lle “Undeb Ewropeaidd” rhodder “Deyrnas Unedig”.”;
(d) hepgorer paragraffau (6), (7) ac (8);
(e) ym mharagraff (9)—
(i) yn is-baragraffau (a) ac (c)(i), yn lle “UK” rhodder “GB”;
(ii) yn is-baragraff (c)(ii), yn lle “is-baragraffau (b)(i) ac (x)” rhodder “is-baragraff (b)(i)”;
(f) ym mharagraffau (13)(a), (15)(a) ac (16), yn yr is-baragraff (ii) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraffau hynny, yn lle “y mae’r diwrnod ymadael” rhodder “y mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.
Rheoliadau Hadau (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
5 

(1) Mae Rheoliadau Hadau (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer rheoliad 1(2)(b) a Rhan 3.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
15 Rhagfyr 2020