
2020 Rhif 154 (Cy. 28)
Addysg
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Rhif 2) (Dirymu) 2020
Gwnaed 13 Chwefror 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 14 Chwefror 2020
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 2
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22(2)(b) ac (c) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Rhif 2) (Dirymu) 2020.
2 
Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
Dirymu
3 
Mae Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Rhif 2) 2020 wedi eu dirymu.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
13 Chwefror 2020