
2020 Rhif 1521 (Cy. 325)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
Gwnaed am 2.04 p.m. ar 11 Rhagfyr 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 6.00 p.m. ar 11 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym am 4.00 a.m. ar 12 Rhagfyr 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
RHAN 1 Cyffredinol
Enwi, dod i rym a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 12 Rhagfyr 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd” (“the Public Health Information Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020;
 ystyr “y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” (“the International Travel Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.
RHAN 2 Diwygiadau i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Hepgor gwledydd o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin
2 
Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer y cofnod a ganlyn—“
 Yr Ynysoedd Dedwydd”.
Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 2
3 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a) yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 12 Rhagfyr 2020 neu wedi hynny, a
(b) wedi bod yn yr Ynysoedd Dedwydd ddiwethaf—
(i) o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
(ii) cyn 4.00 a.m. ar 12 Rhagfyr 2020.
(2) Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod yn yr Ynysoedd Dedwydd, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.
Ychwanegiadau at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin
4 
Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), yn y lle priodol mewnosoder—“
 Gweriniaeth Botswana”“
 Teyrnas Saudi Arabia”.
Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 4
5 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan, yn union cyn 4.00 a.m. ar 12 Rhagfyr 2020—
(a) oedd person (“P”) yn ddarostyngedig i ofyniad i ynysu yn rhinwedd y ffaith iddo gyrraedd Cymru o wlad a restrir yn rheoliad 4, neu ar ôl bod mewn gwlad o’r fath, a
(b) diwrnod olaf ynysiad P yw 12 Rhagfyr 2020 neu ddiwrnod ar ôl y diwrnod hwnnw.
(2) Nid yw ychwanegu’r gwledydd a restrir yn rheoliad 4 at Ran 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn effeithio ar y gofyniad i ynysu fel y mae’n gymwys i P, nac ar y modd y pennir diwrnod olaf ynysiad P o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a) yn cyrraedd Cymru am 4.00 a.m. ar 12 Rhagfyr 2020 neu wedi hynny, a
(b) wedi bod mewn gwlad a restrir yn rheoliad 4 o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(4) At ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, mae’r cwestiwn o ran a yw P wedi cyrraedd Cymru o wlad nad yw’n esempt neu ar ôl bod mewn gwlad o’r fath i’w bennu, mewn perthynas â gwlad a restrir yn rheoliad 4, drwy gyfeirio at ba un a oedd y wlad yn wlad nad oedd yn esempt pan oedd P yno ddiwethaf (ac nid drwy gyfeirio at statws y wlad pan fo P yn cyrraedd Cymru).
(5) Yn y rheoliad hwn, mae i “gofyniad i ynysu” yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol; ac mae cyfeiriadau at ddiwrnod olaf ynysiad P i’w dehongli yn unol â rheoliad 12 o’r Rheoliadau hynny.
RHAN 3 Diwygiadau i Ran 4 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Diwygiadau i Ran 4 (gorfodi a throseddau) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
6 

(1) Mae rheoliad 16 (hysbysiadau cosb benodedig) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (6), yn lle “rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) fod yn £1000” rhodder “mae’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) i fod fel a nodir ym mharagraff (6A)”.
(3) Ar ôl paragraff (6), mewnosoder—“
(6A) Mae’r swm a bennir yn gosb benodedig ym mharagraff (6) i fod—
(a) yn achos yr hysbysiad cosb benodedig cyntaf a geir, yn £500;
(b) yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig a geir, yn £1000;
(c) yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig a geir, yn £2000;
(d) yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig a geir wedi hynny, yn £4000.”
RHAN 4 Diwygio’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd
Diwygio rheoliad 6 (troseddau) o’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd
7 
Yn rheoliad 6(2) ar ôl “yn” mewnosoder “rheoliad 3(1) neu (3) neu”.
Diwygio rheoliad 7 (hysbysiadau cosb benodedig) o’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd
8 
Yn lle rheoliad 7(5) rhodder—“
(5) Mae swm y gosb benodedig a bennir o dan baragraff 4(c) i fod—
(a) yn achos yr hysbysiad cosb benodedig cyntaf a geir, yn £1000;
(b) yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig a geir, yn £2000;
(c) yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig a geir, yn £4000;
(d) yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig a geir wedi hynny, yn £10,000.”
Diwygio’r Atodlen i’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd
9 

(1) Yn Rhan 1 o’r Atodlen, yn lle “14 o ddiwrnodau” rhodder “10 niwrnod”.
(2) Yn Rhan 2 o’r Atodlen, yn lle “14 o ddiwrnodau” rhodder “10 niwrnod”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 2.04 p.m. ar 11 Rhagfyr 2020