
2020 Rhif 1516 (Cy. 324)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gorchymyn Ceisiadau Cynllunio (Addasiadau a Datgymhwyso Dros Dro) (Rhif 3) (Cymru) (Coronafeirws) 2020
Gwnaed 10 Rhagfyr 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 14 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym 9 Ionawr 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 61Z(8) a (9), 62(11), 62R a 333(4B) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, a thrwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59, 62(1) a (2), 71(1), (2)(a) a (2A) a 333(7) o’r Ddeddf honno sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy (fel y’u cymhwysir yn achos adran 62(1) gydag addasiadau gan Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2016), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ceisiadau Cynllunio (Addasiadau a Datgymhwyso Dros Dro) (Rhif 3) (Cymru) (Coronafeirws) 2020.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 9 Ionawr 2021.
Ymgynghori cyn ymgeisio: rhoi gwybodaeth ar gael
2 

(1) Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2G(2)(b), yn lle “8 Ionawr 2021” rhodder “8 Hydref 2021”.
Datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: gwneud ceisiadau
3 

(1) Mae Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 12(6A)(b), yn lle “8 Ionawr 2021” rhodder “8 Hydref 2021”.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Lleol, un o Weinidogion Cymru
10 Rhagfyr 2020