
2020 Rhif 1477 (Cy. 316)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed am 3.52 p.m. ar 8 Rhagfyr 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 6.00 p.m. ar 8 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym 10 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45B, 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi, dod i rym a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym 10 Rhagfyr 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
(a) ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020, a
(b) ystyr “Rheoliadau Rhif 4” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) 2020.
Diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
2 
Yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol—
(a) yn y mannau a ganlyn, yn lle “14” rhodder “10” (gan dreiglo yn ôl yr angen)—
(i) rheoliad 3(1)(b)(ii);
(ii) rheoliad 7(1)(b)(ii);
(iii) rheoliad 8(1)(b);
(iv) Atodlen 1, paragraff 2(ia);
(v) Atodlen 2, paragraffau 2(1)(a), 3(1)(b), 4(a), a 38(2)(c);
(b) yn rheoliad 10(4), ar ôl paragraff (e) mewnosoder—“
(ea) pan fo P yn blentyn nad yw’n byw ar yr un aelwyd â rhieni P, neu ag un o rieni P, i barhau â threfniant sydd eisoes yn bodoli er mwyn cael mynediad at, a chyswllt rhwng, P a rhieni P, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i P, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros P, neu sy’n gofalu amdano;”
(c) yn rheoliad 12, yn lle “14 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar” rhodder “10 niwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod ar ôl”.
Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 2
3 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan, yn union cyn 10 Rhagfyr 2020—
(a) oedd person (“P”) yn ddarostyngedig i ofyniad i ynysu, a
(b) byddai diwrnod olaf ynysiad P, oni bai am baragraff (2), yn 10 Rhagfyr 2020 neu wedi hynny.
(2) Mae rheoliad 12 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys i P fel pe bai “10 niwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod ar ôl” wedi ei roi yn lle “14 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar”.
(3) Ym mharagraff (1)—
(a) mae i “gofyniad i ynysu” yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, a
(b) mae’r cyfeiriad at ddiwrnod olaf ynysiad P i’w ddehongli yn unol â rheoliad 12 o’r Rheoliadau hynny.
Diwygio Rheoliadau Rhif 4
4 

(1) Mae Rheoliadau Rhif 4 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 11—
(a) ym mharagraff (4), yn lle “â” rhodder “â’r diwrnod ar ôl”;
(b) ym mharagraff (5), ar ôl “dechrau â’r” mewnosoder “diwrnod ar ôl y”.
(3) Yn rheoliad 12—
(a) ym mharagraff (4), yn lle “â” rhodder “â’r diwrnod ar ôl”;
(b) ym mharagraff (5), ar ôl “dechrau â’r” mewnosoder “diwrnod ar ôl y”.
(4) Yn rheoliad 13—
(a) ym mharagraff (4), yn lle “14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r” rhodder “10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y”;
(b) ym mharagraff (5)—
(i) yn is-baragraff (a), yn lle “14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r” rhodder “10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y”;
(ii) yn is-baragraff (b), yn lle “14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â” rhodder “10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl”.
(5) Yn rheoliad 14—
(a) ym mharagraff (4), yn lle “14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r” rhodder “10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y”;
(b) ym mharagraff (5)—
(i) yn is-baragraff (a), yn lle “14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r” rhodder “10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y”;
(ii) yn is-baragraff (b), yn lle “14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â” rhodder “10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl”.
(6) Yn rheoliad 15(2), ar ôl is-baragraff (h) mewnosoder—“
(i) pan fo’r person yn blentyn nad yw’n byw ar yr un aelwyd â rhieni’r plentyn, neu ag un o rieni’r plentyn, parhau â threfniant sydd eisoes yn bodoli er mwyn cael mynediad at, a chyswllt rhwng, y plentyn a rhieni’r plentyn, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu sy’n gofalu amdano.”
(7) Yn rheoliad 18(2)(a), hepgorer paragraff (iv).
5 
Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 4 Pan fo person, yn union cyn 10 Rhagfyr 2020, yn ddarostyngedig i ofyniad yn rheoliad 11(2), 12(2), 13(2) neu 14(2) o Reoliadau Rhif 4, mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hynny yn gymwys i’r person sy’n ddarostyngedig i’r diwygiadau a wneir yn rheoliad 4 o 10 Rhagfyr 2020.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 3.52 p.m. ar 8 Rhagfyr 2020