
2020 Rhif 1451 (Cy. 313)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gorchymyn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Sefydlu ac Aelodaeth) 2020
Gwnaed 7 Rhagfyr 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 9 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym 30 Rhagfyr 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 22(1), (2), 4(a) ac (c) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Sefydlu ac Aelodaeth) 2020.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Rhagfyr 2020.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “data gwasanaethau iechyd” (“health service data”) yw data a brosesir ar gyfer darparu neu hybu gwasanaethau o dan y Ddeddf neu mewn cysylltiad â darparu neu hybu gwasanaethau o’r fath;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
 ystyr “fferyllydd cofrestredig” (“registered pharmacist”) yw person sydd wedi ei gofrestru’n fferyllydd yn Rhan 1 neu 4 o’r gofrestr a gynhelir o dan erthygl 19 o Orchymyn Fferylliaeth 2010;
 ystyr “IGDC” (“DHCW”) yw Iechyd a Gofal Digidol Cymru;
 ystyr “nyrs gofrestredig” (“registered nurse”) yw nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio sydd wedi ei chofrestru neu ei gofrestru yn y gofrestr a gynhelir o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001 yn rhinwedd cymhwyster sy’n gymhwyster a gymeradwyir at ddibenion cofrestru yn y rhan berthnasol o’r gofrestr;
 ystyr “optometrydd” (“optometrist”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr optometryddion a gynhelir o dan adran 7 o Ddeddf Optegwyr 1989;
 ystyr “platfformau, systemau a gwasanaethau digidol” (“digital platforms, systems and services”) yw caledwedd, meddalwedd a threfniadau eraill ar gyfer casglu, storio, prosesu, dadansoddi, defnyddio a lledaenu data gwasanaethau iechyd yn ddigidol;
 ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd cofrestredig” (“registered healthcare professional”) yw person sydd wedi ei gofrestru ar y gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2001;
 ystyr “swyddog clinigol” (“clinical officer”) yw swyddog sy’n broffesiynolyn gofal iechyd cofrestredig; ymarferydd meddygol cofrestredig; nyrs gofrestredig; fferyllydd cofrestredig; ymarferydd deintyddol; neu optometrydd;
 ystyr “ymarferydd deintyddol” (“dental practitioner”) yw person sydd wedi ei gofrestru o dan Ddeddf Deintyddion 1984;
 ystyr “ymarferydd meddygol cofrestredig” (“registered medical practitioner”) yw person sydd wedi ei gofrestru’n llawn o fewn yr ystyr a roddir i “fully registered person” yn Neddf Feddygol 1983 sy’n dal trwydded i ymarfer o dan y Ddeddf honno.
Sefydlu IGDC
2 
Mae Awdurdod Iechyd Arbennig o’r enw Iechyd a Gofal Digidol Cymru neu Digital Health and Care Wales wedi ei sefydlu.
Swyddogaethau IGDC
3 
Mae IGDC i arfer unrhyw swyddogaethau a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â—
(a) darparu, dylunio, rheoli, datblygu a chyflenwi platfformau, systemau a gwasanaethau digidol;
(b) casglu, dadansoddi, defnyddio a lledaenu data gwasanaethau iechyd;
(c) darparu cyngor a chanllawiau i Weinidogion Cymru ynghylch gwella platfformau, systemau a gwasanaethau digidol;
(d) cefnogi cyrff a phersonau a nodir mewn cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru i IGDC mewn perthynas â materion sy’n berthnasol i blatfformau, systemau a gwasanaethau digidol;
(e) unrhyw fater arall er mwyn sicrhau y darperir neu yr hybir gwasanaethau o dan y Ddeddf.
Aelodaeth IGDC
4 

(1) Aelodaeth IGDC yw—
(a) cadeirydd;
(b) is-gadeirydd;
(c) dim mwy na 5 aelod nad ydynt yn swyddogion IGDC yn ychwanegol at y cadeirydd a’r is-gadeirydd;
(d) dim mwy na 5 aelod sy’n swyddogion IGDC y mae rhaid iddynt gynnwys;
(i) prif swyddog;
(ii) swyddog cyllid;
(iii) swyddog clinigol;
(e) dim mwy na 3 aelod cyswllt nad ydynt yn gymwys i bleidleisio mewn unrhyw drafodion gan IGDC ac nad ydynt wedi eu cynnwys at ddibenion y cyfrifiad ym mharagraff (2).
(2) Ni chaiff nifer yr aelodau sy’n swyddogion IGDC fod yn fwy na nifer yr aelodau nad ydynt yn swyddogion o’r fath.
(3) Mae aelodau IGDC y cyfeirir atynt yn erthygl 4(1)(a),(b) ac (c) i’w hadnabod fel yr aelodau nad ydynt yn swyddogion.
(4) Mae aelodau IGDC y cyfeirir atynt yn erthygl 4(1)(d) i’w hadnabod fel y swyddog-aelodau.
(5) Mae aelodau IGDC y cyfeirir atynt yn erthygl 4(1)(e) i’w hadnabod fel yr aelodau cyswllt.
Cyfarfodydd cyhoeddus
5 
Mae Deddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960 i fod yn gymwys i IGDC.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
7 Rhagfyr 2020