
2020 Rhif 1448 (Cy.312)
Amaethyddiaeth, Cymru
Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) (Diwygio) 2020
Gwnaed 4 Rhagfyr 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 8 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â’r gofyniad am asesiad o’r effaith ar yr amgylchedd yn sgil prosiectau sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o’r Ddeddf honno.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) (Diwygio) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2020.
Diwygio Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2017
2 
Yn Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2017, hepgorer rheoliad 3(2)(f).
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
4 Rhagfyr 2020