
2020 Rhif 1390 (Cy. 308)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) (Diwygio) (Cymru) 2020
Gwnaed 1 Rhagfyr 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 3 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym 1 Ionawr 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 93(1) ac (8) a 94(1)(b), (c) a (d) a (7) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (“y Ddeddf”).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori yn unol ag adran 93(2) o’r Ddeddf ac maent wedi eu bodloni ynglŷn â’r materion a bennir yn adran 93(6).
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) (Diwygio) (Cymru) 2020 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2021.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 2007
2 

(1) Mae Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, yn lle “recovery and recycling obligations”, ym mhob lle y mae’n digwydd, ac eithrio’r diffiniad o’r ymadrodd hwnnw yn rheoliad 2(2), rhodder “recycling obligations”.
(3) Yn rheoliad 2(2)—
(a) hepgorer y diffiniad o “energy recovery”;
(b) yn y diffiniadau o “PERN” a “PRN”, yn lle “recovery” rhodder “recycling”;
(c) yn y diffiniad o “producer responsibility obligations” hepgorer “recovery and”;
(d) yn y diffiniad o “recovery” hepgorer y geiriau o “and for the purposes of” hyd at y diwedd;
(e) hepgorer y diffiniad o “recovery and recycling obligations”;
(f) yn lle’r diffiniad o “recycling obligations” rhodder—“
 “recycling obligations” has the meaning given in regulation 4(4)(b);”.
(4) Yn rheoliad 4(4)(b)(i) hepgorer “recover and”.
(5) Yn rheoliad 7(4)(ca)(i)(aa)—
(a) yn lle “recover” rhodder “recycle”;
(b) hepgorer y geiriau o “and of this” hyd at y diwedd.
(6) Yn rheoliad 16(3), yn lle “recover”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “recycle”.
(7) Yn rheoliad 20(3) hepgorer “respectively for recovery and”.
(8) Yn rheoliad 22(2)—
(a) yn is-baragraff (a) hepgorer “respectively for recovery and”;
(b) yn is-baragraff (c) hepgorer “recover and”.
(9) Yn rheoliad 24—
(a) ym mharagraff (1)(a)(i), yn lle “recovery” rhodder “recycling”;
(b) ym mharagraff (2), yn lle “recovery”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “recycling”.
(10) Yn Atodlen 2—
(a) yn y pennawd hepgorer “Recovery and”;
(b) ym mharagraff 1(1)—
(i) yn y geiriau o flaen is-baragraff (a)—(aa) ar ôl “allocation method”, mewnosoder “and subject to paragraph 1A,”;(bb) hepgorer “recover and”;
(ii) yn is-baragraff (a), yn lle “recover” rhodder “recycle”;
(iii) hepgorer is-baragraff (b);
(iv) yn is-baragraff (c)—(aa) yn lle “recover”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, rhodder “recycle”;(bb) yn lle “recover by recycling” rhodder “recycle”;
(c) ar ôl paragraff 1, mewnosoder—“
1A. 

(1) For the purposes of paragraph 1(1)(a), where ∑Q is greater than ∑Z, a producer’s obligation is to recycle an amount of packaging waste equal to ∑Q.
(2) In this paragraph—
(a) “∑Q” means the sum of Q, as calculated in accordance with paragraph 3(3), for each recyclable material handled by the producer in the preceding year and for each class of producer to which the producer belongs;
(b) “∑Z” means the sum of Z, as calculated in accordance with paragraph 3(1), for each class of producer to which the producer belongs.”;
(d) ym mharagraff 3—
(i) yn is-baragraff (1)—(aa) yn lle “recovered” rhodder “recycled”;(bb) yn y diffiniad o “X”, yn lle “recovery” rhodder “recycling”;(cc) yn y diffiniad o “Z”, yn lle “recovered” rhodder “recycled”;
(ii) hepgorer is-baragraff (2);
(iii) yn is-baragraff (3), yn lle “recover by recycling” rhodder “recycle”;
(iv) yn is-baragraff (4), yn y fformiwla, yn lle “67” rhodder “72”;
(e) yn lle paragraff 5 rhodder—“
5. 
The following is prescribed as the recycling target “X”—
(a) for the year 2021, 76%;
(b) for the year 2022, 77%.”;
(f) ym mharagraff 6, yn lle Tabl 2 rhodder—“

Table 2
Recycling targets
Materials 2021 2022
Glass 81 82
Plastic 59 61
Aluminium 66 69
Steel 86 87
Paper/Board 79 83
Wood 35 35”;
(g) yn lle paragraff 8 rhodder—“
8. 
The recycling allocation “B” is 35 for each of the years 2021 and 2022.”.
(11) Yn Atodlen 3, yn Rhan 3, ym mharagraff 11(b) hepgorer “is to be recycled through the scheme and by which it”.
(12) Yn Atodlen 7, ym mharagraff 2 hepgorer is-baragraff (c).
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
1 Rhagfyr 2020