
2020 Rhif 1378 (Cy. 305)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2020
Gwnaed 27 Tachwedd 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 1 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym 23 Rhagfyr 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2020 a daw i rym ar 23 Rhagfyr 2020.
Dyddiad prisio
2 
1 Ebrill 2021 yw’r diwrnod a bennir fel y diwrnod y mae rhaid cyfeirio ato i bennu gwerthoedd ardrethol hereditamentau annomestig at ddibenion y rhestrau ardrethu annomestig lleol a chanolog pan fyddant yn cael eu llunio nesaf ar gyfer Cymru ar ôl i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Dirymu
3 
Mae Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2018 wedi ei ddirymu.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
27 Tachwedd 2020