
2020 Rhif 1362 (Cy. 301)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2020
Gwnaed am 2.14 p.m. ar 27 Tachwedd 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru ar 5.00 p.m. ar 27 Tachwedd 2020
Yn dod i rym am 4.00 a.m. ar 28 Tachwedd 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
RHAN 1 Cyffredinol
Enwi, dod i rym a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 28 Tachwedd 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.
RHAN 2 Diwygiadau i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Hepgor gwledydd o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt
2 
Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer y cofnodion a ganlyn—“
 Estonia”“
 Latfia”.
Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 2
3 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a) yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 28 Tachwedd 2020 neu wedi hynny, a
(b) wedi bod mewn gwlad a restrir yn rheoliad 2 ddiwethaf—
(i) o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
(ii) cyn 4.00 a.m. ar 28 Tachwedd 2020.
(2) Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod mewn gwlad a restrir yn rheoliad 2, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.
Ychwanegiadau at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt
4 
Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), yn y lle priodol mewnosoder—“
 Aruba”“
 Gweriniaeth Ddemocrataidd Timor-Leste”“
 Gweriniaeth Kiribati”“
 Gweriniaeth Vanuatu”“
 Gwladwriaeth Annibynnol Samoa”“
 Gwladwriaethau Ffederal Micronesia”“
 Mongolia”“
 Teyrnas Bhutan”“
 Teyrnas Tonga”“
 Ynysoedd Solomon”.
Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 4
5 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan, yn union cyn 4.00 a.m. ar 28 Tachwedd 2020—
(a) oedd person (“P”) yn ddarostyngedig i ofyniad i ynysu yn rhinwedd y ffaith iddo gyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 4, neu ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath, a
(b) diwrnod olaf ynysiad P yw 28 Tachwedd 2020 neu ddiwrnod ar ôl y diwrnod hwnnw.
(2) Nid yw ychwanegu’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn rheoliad 4 at Ran 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn effeithio ar y gofyniad i ynysu fel y mae’n gymwys i P, nac ar y modd y pennir diwrnod olaf ynysiad P o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a) yn cyrraedd Cymru am 4.00 a.m. ar 28 Tachwedd 2020 neu wedi hynny, a
(b) wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 4 o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(4) At ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, mae’r cwestiwn o ran a yw P wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt neu ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath i’w bennu, mewn perthynas â gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 4, drwy gyfeirio at ba un a oedd y wlad neu’r diriogaeth yn wlad neu’n diriogaeth nad oedd yn esempt pan oedd P yno ddiwethaf (ac nid drwy gyfeirio at statws y wlad neu’r diriogaeth pan fo P yn cyrraedd Cymru).
(5) Yn y rheoliad hwn, mae i “gofyniad i ynysu” yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol; ac mae cyfeiriadau at ddiwrnod olaf ynysiad P i’w dehongli yn unol â rheoliad 12 o’r Rheoliadau hynny.
RHAN 3 Diwygiadau i Ran 3 a hepgor Rhan 3A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol a diwygiad canlyniadol
Diwygiadau i Ran 3 (gofyniad i ynysu etc.) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
6 

(1) Mae Rhan 3 (gofyniad i ynysu etc.) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 9(2)(b), yn lle “38” rhodder “39”.
(3) Hepgorer rheoliad 12A.
Darpariaeth arbed mewn cysylltiad â rheoliad 6(3)
7 
Pan, yn union cyn 4.00 a.m. ar 28 Tachwedd 2020, yr oedd rheoliad 12A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys i berson, mae’r rheoliad hwnnw yn parhau i fod yn gymwys i’r person hwnnw er gwaethaf ei ddirymiad gan reoliad 6(3).
Hepgor Rhan 3A (teithio o Ddenmarc) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol a diwygiad canlyniadol
8 

(1) Hepgorer Rhan 3A (teithio o Ddenmarc) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
(2) Mae rheoliad 14(1) yn Rhan 4 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yn is-baragraff (c), ar y diwedd mewnosoder “neu”;
(b) yn is-baragraff (f), hepgorer “neu”;
(c) hepgorer is-baragraff (g).
RHAN 4 Diwygio Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Diwygio paragraff 13 o Atodlen 2 (personau esempt)
9 
Ym mharagraff 13(2)(c) o Atodlen 2 (personau esempt) i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, yn lle “gan yr” rhodder “gan Weinidogion Cymru neu’r”.
RHAN 5 Diwygiadau i’r rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Ychwanegiadau at y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon penodedig
10 

(1) Mae Atodlen 4 (digwyddiadau chwaraeon penodedig) i’r Rheoliadau Teithio Ryngwladol wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 3, ar y diwedd mewnosoder—“
(n) Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol – Meistri Ladbrookes.”
(3) Ym mharagraff 7, ar y diwedd mewnosoder—“
(m) Motorsport UK – Pencampwriaeth Rali Groes Prydain a’r Bencampwriaeth Gefnogi.”
(4) Ym mharagraff 10, ar y diwedd mewnosoder—“
(l) Taith Snwcer y Byd – Meistri’r Almaen;
(m) Taith Snwcer y Byd – Y Meistri;
(n) Taith Snwcer y Byd – Pencampwriaeth y Chwaraewyr;
(o) Taith Snwcer y Byd – Pencampwriaeth Agored Cymru.”
(5) Ar ôl paragraff 24 mewnosoder—“
25. 
Nofio – Cyfarfod Rhyngwladol British Swimming.”
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 2.14 p.m. ar 27 Tachwedd 2020