
2020 Rhif 1356 (Cy. 300)
Dehongli Deddfwriaeth, Cymru
Rheoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2020
Gwnaed 26 Tachwedd 20
Yn dod i rym 27 Tachwedd 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 6(2) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 43(2) o’r Ddeddf honno.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2020.
(2) Deuant i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
Diwygiadau i Atodlen 1 i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019
2 

(1) Mae’r Tabl yn Atodlen 1 i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (diffiniadau o eiriau ac ymadroddion sy’n ymddangos yn Neddfau Senedd Cymru ac mewn is-offerynnau Cymreig) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Mewnosoder y cofnodion a ganlyn yn y lleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor—“
Cod Dedfrydu (Sentencing Code) ystyr “Cod Dedfrydu” yw’r cod sydd wedi ei gynnwys yn Neddf Dedfrydu 2020 (p. 17) (gweler adran 1 o’r Ddeddf honno)”;“
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Equality and Human Rights Commission) ystyr “Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol” yw’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2006 (p. 3)”;“
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (Public Accounts Committee) ystyr “Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus” yw pwyllgor Senedd Cymru a sefydlwyd yn unol ag adran 30 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (ac y cyfeirir ato yn yr adran honno fel y “Pwyllgor Archwilio”)”;“
Ymddiriedolaeth Genedlaethol (National Trust) ystyr “Ymddiriedolaeth Genedlaethol” yw’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol dros Fannau o Ddiddordeb Hanesyddol neu Harddwch Naturiol a gorfforwyd gan Ddeddf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1907 (p. cxxxvi)”.
(3) Yn y diffiniad o “graddfa safonol”, ar ôl “yr ystyr a roddir i “standard scale”” mewnosoder—“
 —
(a) yn achos trosedd y mae’r troseddwr wedi ei euogfarnu ohoni ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2020, gan adran 122 o’r Cod Dedfrydu;
(b) yn achos trosedd yr oedd y troseddwr wedi ei euogfarnu ohoni cyn y dyddiad hwnnw,”.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
26 Tachwedd 2020