
2020 Rhif 1351 (Cy. 299)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2020
Gwnaed 25 Tachwedd 2020
Yn dod i rym 4 Ionawr 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 60(4) a 98(2) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 98(3) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Ionawr 2021.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “athro neu athrawes addysg bellach” (“further education teacher”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori athro neu athrawes addysg bellach fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;
 ystyr “athro neu athrawes ysgol” (“school teacher”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori athro neu athrawes ysgol fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 ac nid yw’n cynnwys person sydd wedi ei gofrestru ar sail dros dro o dan adran 9(5) o’r Ddeddf honno;
 ystyr “cydlynydd anghenion addysgol arbennig” (“special educational needs co-ordinator”) yw person sydd â chyfrifoldeb am gydlynu’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion y nodir bod ganddynt anghenion addysgol arbennig o dan Ran 4 o Ddeddf Addysg 1996;
 ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
 ystyr “gwasanaethau perthnasol” (“relevant services”) yw—
(a) cyngor neu gymorth mewn perthynas â darpariaeth ddysgu ychwanegol,
(b) rheoli darpariaeth ddysgu ychwanegol,
(c) asesu anghenion dysgu ychwanegol,
(d) cyngor neu gymorth mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol, ac
(e) rheoli disgyblion neu fyfyrwyr (yn ôl y digwydd) ag anghenion dysgu ychwanegol;
 ystyr “gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach” (“further education learning support worker”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;
 ystyr “gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol” (“school learning support worker”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014.
(2) Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Ddeddf ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
Cymhwyster neu brofiad rhagnodedig cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgol
3 
Ni chaiff corff llywodraethu ysgol ddynodi person yn gydlynydd anghenion dysgu ychwanegol o dan adran 60(2) o’r Ddeddf ond os yw’r person hwnnw—
(a) yn athro neu athrawes ysgol, neu
(b) yn gydlynydd anghenion addysgol arbennig o fewn yr ysgol yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Cymhwyster rhagnodedig cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol mewn sefydliad o fewn y sector addysg bellach
4 
Ni chaiff corff llywodraethu sefydliad o fewn y sector addysg bellach ddynodi person yn gydlynydd anghenion dysgu ychwanegol o dan adran 60(2) o’r Ddeddf ond os yw’r person hwnnw yn athro neu athrawes addysg bellach.
Swyddogaethau cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgol
5 
Y tasgau y mae cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgol yn gyfrifol am eu cyflawni, neu am sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni, yw—
(a) nodi anghenion dysgu ychwanegol disgybl a chydlynu’r gwaith o wneud darpariaeth ddysgu ychwanegol sy’n diwallu anghenion dysgu ychwanegol disgybl,
(b) sicrhau gwasanaethau perthnasol a fydd yn cefnogi darpariaeth ddysgu ychwanegol disgybl fel y bo’n ofynnol,
(c) cadw cofnodion o benderfyniadau ynghylch anghenion dysgu ychwanegol a chynlluniau datblygu unigol,
(d) hybu cynhwysiant disgybl ag anghenion dysgu ychwanegol yn yr ysgol a’i fynediad at gwricwlwm, cyfleusterau a gweithgareddau allgyrsiol yr ysgol,
(e) monitro effeithiolrwydd unrhyw ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a wneir,
(f) cynghori’r athrawon ysgol yn yr ysgol ynghylch y dulliau addysgu gwahaniaethol sy’n briodol ar gyfer disgyblion unigol ag anghenion dysgu ychwanegol,
(g) goruchwylio a hyfforddi gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgol sy’n gweithio gyda disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, ac
(h) cyfrannu at hyfforddiant mewn swydd ar gyfer athrawon ysgol yn yr ysgol er mwyn cynorthwyo’r cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol i gyflawni’r tasgau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (e).
Swyddogaethau cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol mewn sefydliad o fewn y sector addysg bellach
6 
Y tasgau y mae cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol mewn sefydliad o fewn y sector addysg bellach yn gyfrifol am eu cyflawni, neu am sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni, yw—
(a) nodi anghenion dysgu ychwanegol myfyriwr a chydlynu’r gwaith o wneud darpariaeth ddysgu ychwanegol sy’n diwallu anghenion dysgu ychwanegol myfyriwr,
(b) sicrhau gwasanaethau perthnasol a fydd yn cefnogi darpariaeth ddysgu ychwanegol myfyriwr fel y bo’n ofynnol,
(c) cadw cofnodion o benderfyniadau ynghylch anghenion dysgu ychwanegol a chynlluniau datblygu unigol,
(d) hybu cynhwysiant myfyriwr ag anghenion dysgu ychwanegol yn y sefydliad o fewn y sector addysg bellach a’i fynediad at gwricwlwm, cyfleusterau a gweithgareddau allgyrsiol y sefydliad o fewn y sector addysg bellach,
(e) monitro effeithiolrwydd unrhyw ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a wneir,
(f) cynghori’r athrawon yn y sefydliad o fewn y sector addysg bellach ynghylch y dulliau addysgu gwahaniaethol sy’n briodol ar gyfer myfyrwyr unigol ag anghenion dysgu ychwanegol,
(g) goruchwylio a hyfforddi gweithwyr cymorth dysgu mewn addysg bellach sy’n gweithio gyda myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, ac
(h) cyfrannu at hyfforddiant ar gyfer athrawon addysg bellach yn y sefydliad o fewn y sector addysg bellach er mwyn cynorthwyo’r cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol i gyflawni’r tasgau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (e).
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
25 Tachwedd 2020