
2020 Rhif 1340 (Cy. 297)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng (Newid Amserau Sesiynau Ysgolion) 2020
Gwnaed 24 Tachwedd 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 25 Tachwedd 2020
Yn dod i rym 1 Ionawr 2021

Yn unol ag adran 4(2) o Ddeddf Addysg 2002 (“y Ddeddf”), mae corff llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng (“y corff llywodraethu”) wedi ymgynghori â’r awdurdod lleol a’r personau hynny y mae’n ymddangos iddo eu bod yn briodol, gan gynnwys rhieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol a’r staff sy’n gweithio yn yr ysgol;
Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, ar ôl rhoi sylw i’r materion a nodir yn adran 1(2) o’r Ddeddf, y gall gweithredu gan y corff llywodraethu ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn gyfrannu at godi’r safonau addysgol a gyrhaeddir gan blant yng Nghymru;

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 2(1) o’r Ddeddf, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, ar gais y corff llywodraethu, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng (Newid Amserau Sesiynau Ysgolion) 2020 a daw i rym ar 1 Ionawr 2021.
Esemptiad o’r Rheoliadau Sesiynau Ysgolion
2 
Nid yw rheoliad 4(2), (3) a (4) o Reoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2009 yn gymwys i gorff llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng ar Ffordd Gungrog, y Trallwng, Powys, SY21 7EJ.
Y cyfnod amser
3 
Bydd y Gorchymyn hwn yn cael effaith tan 31 Awst 2021.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
24 Tachwedd 2020